Skip to content

Sir Benfro

The Gribin, a steep sided ridge overlooking Solva Harbour, Pembrokeshire
Solva Harbour from The Gribin | © National Trust Images/Joe Cornish

Dihangwch i ben gorllewinol Cymru a darganfod tirwedd arfordirol ddramatig. O hanes hynafol Penrhyn Dewi i draeth eang Marloes, darganfyddwch y gwyllt a’r godidog ar ymweliad â Sir Benfro.

Pethau i'w gweld a'u gwneud yn Sir Benfro

Teulu’n padlo yn y môr yn Nhraeth Marloes, Sir Benfro
Teulu’n padlo yn y môr yn Nhraeth Marloes, Sir Benfro | © National Trust Images/Chris Lacey
Arfordiroedd a thraethau Sir Benfro
Dysgwch am bethau i’w gweld a’u gwneud ar ymweliad â Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru, o ddiwrnod ar y traeth yn Ne Aber Llydan i heicio o gwmpas Arfordir Solfach, neu fynd ar gwch i Ynys Sgomer.Darganfyddwch arfordiroedd a thraethau Sir Benfro
Ymweld â Phenrhyn Dewi
Wedi’i henwi ar ôl nawddsant Cymru, Tyddewi yw dinas leiaf gwledydd Prydain ac mae’n gartref i gyfoeth o hanes, caerau Oes yr Haearn a meini hirion.Cynllunio eich ymweliad i Benrhyn Dewi
Gwylio bywyd gwyllt yn Stagbwll
Mae Stagbwll dan ei sang â fflora a ffawna drwy gydol y flwyddyn. A welwch chi’r dyfrgwn enwog yn y llynnoedd neu’r ystlumod yn clwydo yn y coed? Yn ein coetir anferth, fe welwch goed hynafol ac arddangosfeydd fflora lliwgar.Darganfyddwch fywyd gwyllt Stagbwll
Ymweld â Thraeth a Chors Marloes
Dewch yn nes at natur drwy wylio’r adar ar y Gors a rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr godidog ar draeth Marloes. Neu mentrwch ymhellach a darganfod yr ynysoedd oddi ar y Penrhyn.Darganfyddwch Draeth a Chors Marloes

Ein gwaith yn Sir Benfro

Gwirfoddolwyr yn cerdded i’r traeth i helpu i lanhau Traeth Marloes, Sir Benfro
Gwirfoddolwyr yn cerdded i’r traeth i helpu i lanhau Traeth Marloes, Sir Benfro | © National Trust Images/Chris Lacey
Ein gwaith cadwraeth ar arfordir Sir Benfro
Dysgwch fwy am y gwaith rydym yn ei wneud i ddiogelu a gwarchod y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd arfordirol o gwmpas Traeth Marloes ar arfordir Sir Benfro.Dysgwch mwy am ein gwaith cadwraeth
Ein gwaith yn Stad Southwood
O’r adeiladau fferm traddodiadol i’r caeau, y dolydd a’r rhostir, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i adfer yr ystâd yn ôl i’w gwir ogoniant.Dysgwch mwy am ein gwaith

Lleoedd i aros yn Sir Benfro

Exterior of The Cwms, Near Amroth, Pembrokeshire
Bwthyn Fictoraidd hyfryd yw Y Cwms | © National Trust Images/Mike Henton
Bythynnod gwyliau yn Sir Benfro
Cewch gysgu’n drwm ac yn dawel mewn tai cysurus llawn cymeriad, sy’n ganolfannau perffaith ar gyfer darganfod Sir Benfro a chyrion gorllewinol Cymru.Ffeindiwch fwthyn yn Sir Benfro
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Nant yn llifo drwy dirwedd goediog ar ddiwedd yr hydref
Lle
Lle

Gardd Goedwig Colby 

Mae dyffryn coediog cudd Colby yn llawn rhyfeddodau. Gyda’i orffennol diwydiannol a gardd gudd, dyma’r lle perffaith i fynd ar drywydd treftadaeth a chwarae naturiol.

ger Llanrath, Sir Benfro

Yn rhannol agored heddiw
Walkers on the Stackpole wildlife route, Pembrokeshire
Lle
Lle

Stad Stagbwll 

Darganfyddwch arfordir arbennig Stagbwll. Gyda thraethau euraidd clodwiw, dyffrynnoedd coediog heddychlon, pyllau lili sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt, llwybrau cerdded a chwaraeon dŵr, mae digonedd i’w weld a’i wneud.

ger Penfro, Sir Benfro

Yn hollol agored heddiw
Y gegin gyda llysiau a bara ar fwrdd yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro
Lle
Lle

Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd 

Teithiwch drwy amser i oes y Tuduriaid yn Ninbych-y-pysgod a dysgu am fywyd mewn tŷ masnachwr o’r 15fed ganrif.

Dinbych y Pysgod, Sir Benfro

Ar gau nawr
Golygfa o’r awyr o Freshwater West, Sir Benfro.
Lle
Lle

Traeth Freshwater West 

Bae gwyllt a thywodlyd sy’n agos at galon y sawl sy’n hoff o antur a natur. Gwnewch y gorau o’r arfordir, trowch hi tua’r tir mawr i ryfeddu at fywyd gwyllt bendigedig, a chysgwch o dan y sêr yn ein gwersyllfa fferm draddodiadol.

Pembrokeshire

Yn rhannol agored heddiw