Penrhyn o gildraethau cysgodol, traethau eang a diwylliant cyfoethog, gyda phethwmbreth o fywyd gwyllt. Ewch i wylio morloi, darganfod pentrefi ac amgueddfeydd, neu fwynhau diwrnod ar y traeth yn edmygu golygfeydd arfordirol trawiadol Pen Llŷn yng Ngogledd Cymru.
Ymwelwch â 30 milltir o brydferthwch pur yn estyn i Fôr Iwerddon. O ddyfroedd tawel Llanbedrog i brofiadau diwylliannol ym Mhorth y Swnt a ‘thywod chwibanog’ hudolus Porthor, darganfyddwch bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn.Darganfyddwch arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn
Lleoliadau Llŷn
Dysgwch fwy am yr ecoamgueddfa ym Mhen Llŷn. Yn gweithredu mewn partneriaeth â saith o sefydliadau treftadaeth Pen Llŷn, ei nod yw rhoi hwb i dwristiaeth ddiwylliannol.Darganfyddwch leoliadau Llŷn
Bywyd gwyllt Pen Llŷn
Darganfyddwch y llefydd gorau yn Llŷn i wylio adar, darganfod bywyd gwyllt y gwlyptir neu weld eich hoff greaduriaid glan môr, o forloi i ddolffiniaid.Dysgwch mwy am fywyd gwyllt Pen Llŷn
Darllenwch am y prawf Talu am Ganlyniadau (TaG), dull fferm-gyfan arloesol sy’n dod o hyd i ffyrdd o wneud ffermio’n fwy amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy ym Mhen Llŷn.Dysgwch mwy am ein gwaith ym Mhen Llŷn
Gyda’i draethau tywod braf, moroedd disglair ac awyr las, mae Penrhyn Llŷn yn ardal hyfryd. Dewch i aros yn un o’n bythynnod gwyliau a chrwydro’r ardal arbennig hon wrth eich pwysau.Ffeindiwch fwthyn yng Ngogledd Cymru
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.