Teithio ar fws
Gogledd Cymru
- Gerddi Bodnant - Mae bws rhif 25 gwasanaeth Bws Arriva o Landudno yn stopio y tu allan i giât y fynedfa. Gwiriwch Arriva Cymru am yr amserlenni bws diweddaraf.
- Castell y Waun - Mae bws rhif 2/A gwasanaeth Bws Arriva o Wrecsam i Groesoswallt yn gollwng ym mhentref Y Waun ger yr orsaf drenau. Gwiriwch Arriva Cymru am yr amserlenni bws diweddaraf.
- Erddig - Dilynwch lwybrau gwasanaeth Bws Arriva: Llwybr 2 o Groesoswallt a thrwy Cefn Mawr i Wrecsam, Llwybr 4 o Benycae, Llwybr 5 o Langollen. Stopiwch yn Felin Puleston, Rhostyllen a cherddwch 1 filltir drwy Barc Gwledig Erddig. Gwiriwch Arriva Cymru am yr amserlenni bws diweddaraf.
- Castell Penrhyn a'r Ardd - Gwasanaethau bws o Fangor a Chaernarfon i Landudno gan gerdded am 1 filltir ar ôl gadael y bws wrth rodfa’r castell. Gwiriwch Traveline Cymru am yr amserlenni diweddaraf.
- Tŷ a Gardd Plas Newydd - Mae’r bws rhif 42 o Fangor i Langefni (sy’n mynd heibio gorsaf drenau Bangor ac yn agos at orsaf drenau Llanfairpwll) yn stopio ar Ffordd Brynsiencyn, ger y maes parcio ymwelwyr. Gwiriwch Traveline Cymru am yr amserlenni diweddaraf.
- Plas yn Rhiw - Mae’r bws 17B o Bwllheli i Aberdaron (sy’n mynd heibio gorsaf drenau Pwllheli), yn stopio wrth giât y fynedfa. Gwiriwch Traveline Cymru am yr amserlenni diweddaraf.
- Llŷn - Gwiriwch yma ar gyfer amserlenni diweddaraf y gwasanaeth bws fflecsi Llŷn. Gwiriwch yma am yr amserlenni bysiau lleol.
- Eryri - Gwiriwch yma am amserlenni diweddaraf y rhwydwaith o wasanaethau bysiau cysylltiedig yn Eryri.
Canolbarth Cymru
- Castell a Gardd Powis - Gwasanaethau bws o Groesoswallt i’r Trallwng a’r Amwythig i Lanidloes. Dewch oddi ar y bws yn y Stryd Fawr. 1 filltir ar droed o Lôn Parc, oddi ar Stryd Lydan yn y Trallwng. Mynediad o'r Stryd Fawr (A490). Gwiriwch Traveline Cymru am yr amserlenni diweddaraf.
- Llanerchaeron - Gwasanaeth bws T1 Traws Cymru o 1 Sgwâr Alban Aberaeron i Lanbedr Pont Steffan. Gwiriwch yr amserlenni diweddaraf.
De Cymru
- Tŷ Tredegar - Mae’r ddau fws lleol rhif 30 a 36 yn stopio o fewn 5 munud ar droed o Dŷ Tredegar. Gwiriwch yma am yr amserlenni diweddaraf.
- Dinefwr - Gwasanaethau bws i Landeilo. Gwiriwch Traveline Cymru ar gyfer yr amserlenni diweddaraf. Y safle bws agosaf at Barc Dinefwr yw Ffordd Caerfyrddin, Llandeilo.
- Dolaucothi - Daliwch y bws Rhif 689 o Lanbedr Pont Steffan. Gwiriwch Bwca bws am yr amserlen ddiweddaraf.
- Gerddi Dyffryn - Daliwch y bws rhif X2 i Sain Nicolas, yna cerddwch am 1 filltir (1.6km) at y fynedfa. (Nodwch mai taith gerdded ar hyd ffordd wledig heb balmant yw hon). Gwiriwch yma am yr amserlen ddiweddaraf.
- Sir Benfro - Gwiriwch wasanaethau bws Cyngor Sir Penfro a llwybrau Gwibfws yr Arfordir yma.
- Bannau Brycheiniog - Daliwch y bws rhif T4, Caerdydd-Y Drenewydd. Dewch oddi ar y bws yn Storey Arms i gael mynediad i’r Bannau. Gwiriwch yma am yr amserlenni diweddaraf.
- Rhosili a De Gŵyr - Mae gwasanaethau bws rheolaidd ar gael o Abertawe i Rosili, ac mae’r amserlenni yn newid bob tymor. Gwasanaethau 118/119 (NAT) ac 114 (Dyddiau Sul First Cymru). Mae gwasanaethau ychwanegol yn cysylltu rhannau mwy tawel o’r Gŵyr gyda’r gwasanaeth 118 ac 116 Abertawe-Gogledd Gŵyr. Gwiriwch yma ar gyfer amserlenni diweddaraf y gwasanaeth bws Gower Explorer.
- Whiteford a Gogledd Gŵyr - Daliwch yr 115. 116 ac 119 y Gower Explorer. Gwiriwch yma ar gyfer yr amserlenni diweddara
Teithio ar drenau
Cofiwch gynllunio eich taith ymlaen o’r orsaf drenau.
Gogledd Cymru
- Castell Penrhyn a'r Ardd - Yr orsaf drenau agosaf yw Bangor, 3 milltir i ffwrdd.
- Gerddi Bodnant - Yr orsaf drenau a argymhellir yw Cyffordd Llandudno, ar y brif linell. Mae gwasanaethau bysiau a thacsis i’w cael yma. 5 milltir i ffwrdd.
- Castell y Waun - Yr orsaf drenau agosaf yw Gorsaf y Waun sydd ¼ milltir at giatiau’r ystâd, a chyfanswm o 1½ milltir i’r castell.
- Erddig - Y gorsafoedd trenau agosaf yw Wrecsam Canolog 1½ milltir ar droed neu Gorsaf Gyffredinol Wrecsam (2 filltir ar droed).
- Tŷ a Gardd Plas Newydd - Yr orsaf drenau agosaf yw Llanfairpwll, 1¾ milltir i ffwrdd.
- Plas yn Rhiw - Yr orsaf drenau agosaf yw Pwllheli, 10 milltir i ffwrdd.
Canolbarth Cymru
- Castell a Gardd Powis - Yr orsaf drenau agosaf yw’r Trallwng. 1 filltir ar droed o Lôn Parc, oddi ar Stryd Lydan yn y Trallwng. Mynediad o'r Stryd Fawr (A490).
- Llanerchaeron - Yr orsaf drenau agosaf yw New Inn Forge ar y gwasanaeth trên o Aberystwyth i Gaerfyrddin, ½ milltir i ffwrdd.
De Cymru
- Tŷ Tredegar - Yr orsaf drenau agosaf yw Gorsaf Casnewydd, 2 filltir i ffwrdd.
- Dinefwr - Yr orsaf drenau agosaf yw Llandeilo, sydd 1.5 milltir o Barc Dinefwr. Mae Lein Calon Cymru yn rhedeg tua’r de i Abertawe, neu thua’r gogledd i’r Amwythig.
- Gerddi Dyffryn - Yr orsaf drenau agosaf yw Caerdydd Canolog, 7 milltir i ffwrdd.
- Tŷ'r Masnachwr Tuduraidd - Yr orsaf drenau agosaf yw Dinbych-y-pysgod, ½ milltir i ffwrdd.
- Gardd Goedwig Colby - Yr orsaf drenau agosaf yw Cilgeti, 2½ milltir i ffwrdd.
Cyrraedd ar droed
Gogledd Cymru
- Castell y Waun - Mae llwybrau troed o bentref Y Waun ar agor drwy gydol y flwyddyn ac o Lwybr Clawdd Offa o fis Ebrill i fis Hydref yn unig. Mae’r fynedfa ac allanfa yn hygyrch ar droed, mae'n 1½ milltir o bellter i gerdded i swyddfa docynnau Home Farm.
- Erddig - O’r gorsafoedd trenau, cerddwch ar hyd y llwybr troed ar Ffordd Erddig. O safle bws Felin Puleston, cerddwch 1 filltir drwy Barc Gwledig Erddig. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded ar ddyddiau gwlyb.
- Plas yn Rhiw - Mae’n rhwydd i’w gyrraedd ar droed o lwybr arfordir Llŷn.
Canolbarth Cymru
- Castell a Gardd Powis - 1 filltir ar droed o Lôn Parc, oddi ar Stryd Lydan yn y Trallwng. Mynediad o'r Stryd Fawr (A490).
- Llanerchaeron - Cerddwch y llwybr 2½ milltir o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd hen reilffordd. Gelwir y llwybr yn Llwybr Coedlan Allt y Graig.
De Cymru
- Gardd Goedwig Colby - Taith gerdded 3/4 milltir o Amroth ar hyd llwybr cyhoeddus ger yr Amroth Arms.
- Tŷ'r Masnachwr Tuduraidd - Dilynwch y mynegbost o’r Sgwâr Tuduraidd ger Lifeboat Tavern, neu o Stryd y Bont neu Stryd Crackwell.
Pwyntiau gwefru cerbydau trydanol
Mae gennym 36 o bwyntiau gwefru ar draws y cestyll, tai hanesyddol, traethau a dyffrynnoedd rydym yn gofalu amdanynt.