
Wrth gefn Freshwater West mae system twyni tywod naturiol a tir corsiog eang o’r enw Cors Castell Martin. Mae’r ardal hon yn gartref i lu o breswylwyr, o blanhigion prin i’r cymunedau o adar sy’n nythu ar lawr a phryfed diddorol.
Er mwyn eich helpu i gael golwg agosach ar fyd natur, ry’n ni wedi agor rhwydwaith o lwybrau caniataol newydd sy’n arwain at guddfan adar hardd wedi ei gwneud o bren. Mae’r guddfan, sy’n costio dim i’w defnyddio, wedi ei chynllunio i nythu’n dwt yn y dirwedd ac mae’n lle anhepgor ar gyfer gwylio bywyd gwyllt.
Pump o adar y gallech eu gweld ar eich hymweliad
- Hebog y wern
Edrychwch amdanyn nhw’n hedfan dros y gwely cors. Roedd un o gwmpas y lle hyd yn oed pan oedd ein cuddfan yn cael ei hadeiladu. - Telorion Cetti
Dyma breswylwyr sydd i’w canfod ar hyd prysgwydd yr ymylon yn yr haf a’r gaeaf; adar sy’n ymguddio yw nhw, ac anaml y gwelwch chi nhw. Gwrandewch am eu cân sydyn uchel – sain main chink-chinka-chinkachink. - Rhegen ddŵr
Er bod eu sain yn fwy cyfarwydd na’u golwg, mae’r rhegennod dŵr yn lled gyffredin ac mae nhw i’w canfod yn y gwely cors. Cadwch glust ar agor am eu galwad trawiadol sy’n swnio fel perchyll bach yn gwichian. - Crëyr Llwyd
Gyda’i goesau hirion a’i big hir, does dim modd camgymryd y crëyr llwyd sy’n byw o gwmpas y gwely cors. Mae’n bwydo ar famaliaid bach, amffibiaid a physgod, ac weithiau fe welwch chi nhw’n cylchu fry yn yr awyr. - Llinos
Gallwch weld haid fach ohonyn nhw yma yn aml, yn bwydo ar hadau ar ochor Fferm Gupton o’r safle. Mae ganddyn nhw gân felodïaidd iawn, a galwad trydarol i heidio.
Eich cefnogaeth chi
Talwyd am y guddfan adar mewn gwirionedd gan ein hymgyrch arfordirol Neptune, sef menter a sefydlwyd gan bobol dros hanner canrif yn ôl i helpu gwarchod ein safleoedd arbennig ger y môr. Mae eich cyfraniadau caredig wedi ein galluogi i greu canolbwynt ardderchog ar gyfer gwylio adar – diolch!
Felly, dewch â’r binociwlars a syllwch ar y planhigion a’r creaduriaid sy’n galw’r lle arbennig hwn yn gartref.