
Dathlwch agoriad Fferm Gupton, sydd yn swatio y tu ôl i Freshwater West, ar 29 Ebrill. Cewch ddiwrnod llawn teithiau cerdded, sgyrsiau a gweithdai. O wylio bywyd gwyllt i adfer mewnwelediad a hwyl teuluol ymarferol, darganfyddwch y gorau o'r lle arbennig hwn.
O'r wawr tan y cyfnos yn Fferm Gupton - 29 Ebrill
Mae’r holl weithgareddau am ddim ac nid oes angen cadw lle ymlaen llaw, dewch heibio i’n gweld ar y diwrnod. Byddwn yn cyfarfod yn y dderbynfa ar gyfer yr holl weithgareddau.
Taith gerdded côr y wawr
6am-8am, am ddim
Ymunwch â ni am daith gerdded ben bore i glywed côr ysblennydd y wawr. Gwrandewch yn astud am adar fel teloriaid, ehedyddion a bras y gors. Wedi hynny, gallwch fwynhau rhôl brecwast a diod poeth (codir ffi am hyn).
Anturiaethau 50 peth
9am-12pm, am ddim
Dewch i gael hwyl gyda’n hanturiaethau 50 Peth yn yr awyr agored yn Fferm Gupton; adeiladu ffau, hedfan barcud, coginio ar dân gwersyll, mynd i hela chwilod neu wylio adar a chreu celf wyllt.
Ail-ddychmygu Gupton
12pm-1.30pm, am ddim
Dewch i glywed stori Fferm Gupton! Dewch i ddysgu mwy am ein prosiect adfer a sut rydyn ni’n cyflawni’n well ar gyfer natur gyda sgwrs dywys gan dîm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Blas o’r ardal
1.30pm-2.30pm
Dewch i fwynhau rhywbeth i’w fwyta a blas o’r ardal. Bydd ein ffrindiau o Pembrokeshire Beach Food Company ar y safle yn gweini cynnyrch ffres, lleol. Mmmm!
Saffari pyllau glan môr
2.30pm-4.30pm, am ddim
Dilynwch y llwybr cerdded i draeth Freshwater West a chloddi’r pyllau glan môr a’u bydoedd o dan y dŵr. Pa greaduriaid arfordirol fyddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw? Mae hon yn sesiwn dan arweiniad, yn wych ar gyfer y teulu cyfan.
Mwy i’w ddarganfod
4.30pm-6.30pm, am ddim
Cymrwch seibiant i archwilio mwy o’r man arbennig hwn a’r hyn sydd ar gael. Dewch i ymweld â’r ystafell dehongli, mwynhewch gynnyrch lleol neu ewch i’r beudy tywydd gwyllt ar gyfer awgrymiadau gwylio bywyd gwyllt.
Diogelwch y môr
6.30pm-7pm, am ddim
Mae Freshwater West yn ddarn mor hyfryd o arfordir, ond gyda deufor-gyfarfod cryf mae hefyd yn gallu bod yn beryglus. Ymunwch â’r RNLI am sgwrs diogelwch y môr i’ch helpu i gael hwyl ac aros yn ddiogel ar y traeth ac yn y dŵr.
Synau’r machlud
O 7pm, am ddim
Dewch i eistedd o amgylch y tân wrth i ni ddod â’r diwrnod i ben gyda cherddoriaeth fyw ar y wersyllfa. Gallwch ymuno yn y canu, ymlacio a gwylio machlud yr haul ar gefndir ysblennydd dros ben.