Paradwys syrffio
Mae’r traeth de-orllewinol hwn yn boblogaidd gyda syrffwyr ac oherwydd yr ymchwydd a thonnau cyson mae’n cael ei ystyried yn aml fel un o’r mannau gorau i syrffio yng Nghymru.
Mae’n addas i’r syrffiwr mwy profiadol am fod yna ddeufor-gyfarfod – mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd yn Freshwater West rhwng dechrau Mehefin a Medi.
Antur dywodlyd
Ond mae yma fwy na chwaraeon dŵr, am fod digonedd i’w weld a’i wneud ar y tywod.
Mae bwcedi (a bwcedi) o dywod ar gael i bawb, digon o hwyl wrth godi cestyll tywod, cyfle i roi cynnig ar hedfan barcud a mwynhau y darn gwyllt yma o’r arfordir. Mae gan y traeth gyfoeth o byllau glan môr; mae anturwyr ifanc wrth eu bodd yn chwilota yn y bydoedd tanddwr hyn i gael cip ar greaduriaid arfordirol.
Yn aml fe fyddwn yn cynnal dyddiau tacluso’r traeth yma er mwyn cadw’r lle arbennig hwn yn lân a thaclus; casglwch eich crafanc sbwriel ac ymunwch â ni.