Mae gan Ben Llŷn feicro-hinsawdd unigryw, sy’n elwa o lif y gwlff a ddaw â thymheredd môr a thywydd cynhesach yn ei sgil. Mae’n gartref perffaith felly i gynefinoedd anarferol a bywyd gwyllt hynod ddiddorol.
Mae tua 5,000 o forloi llwyd yn byw yn y dŵr o amgylch Gorllewin Cymru, ac mae’n bosib eu gweld trwy gydol y flwyddyn. Gellir gweld morloi bychain rhwng mis Medi a Rhagfyr.
Dim ond mewn dau fan o gwmpas arfordir y Deyrnas Gyfunol y mae dolffiniaid trwyn potel yn byw, ac arfordir Cymru yw un ohonyn nhw. Ewch i Ben Llŷn ac efallai cewch chi gip ar rai o greaduriaid morol prydferthaf Prydain yn eu cynefin naturiol.
Ewch i ben pella’r penrhyn i weld campau rhyfeddol y frân goesgoch yn yr awyr uwchben y clogwyni. Y frân brin hon yw arwyddlun Pen Llŷn. Mae’n un o'r rhesymau pam fod y llecyn hwn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Ydych chi’n chwilio am antur? Ewch i gerdded yng nghefn gwlad Llŷn ac fe gewch wledd o brofiadau a golygfeydd arbennig o dirweddau a chynefinoedd hyfryd. Llŷn yw’r lle delfrydol i wylio adar.