Skip to content

Nadolig yn Llanerchaeron

Detail of a Christmas tree, decorated with baubles and dried oranges
Coeden Nadolig wedi ei haddurno â phelenni ac orenau sych | © National Trust Images/James Dobson

Teimlwch gynhesrwydd dyddiau teuluol cyfnod y Nadolig yn Llanerchaeron y Nadolig hwn. Crwydrwch y parcdir ar daith gerdded aeafol, ymunwch â gweithdy creu torch, ymunwch â’ch ffrindiau yn y ffair Nadolig neu rhowch eiliad i chi eich hun ym myd natur i gofio beth sydd o bwys mewn gwirionedd. Edrychwch beth sydd ymlaen yn ystod yr Ŵyl eleni.

Ffair Nadolig

1, 2 a 3 Rhagfyr, 10am tan 4pm

Camwch yn ôl mewn amser er mwyn mwynhau Nadolig hudolus yn Llanerchaeron. Gwrandewch ar garolau, dewch i weld Siôn Corn, a mwynhewch yr addurniadau hudolus, cynaliadwy a thymhorol yn y Fila, crwydrwch o amgylch y safle a’r llyn a chasglwch syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig a danteithion artisan gan stondinwyr cynnyrch lleol ar hyd a lled y safle.

Eleni, bydd fila Llanerchaeron yn agor ei drysau’n arbennig ar gyfer Ffair Nadolig, a gynhelir am dri diwrnod. Bydd y llawr gwaelod a’r grisiau wedi’u haddurno yn ôl themâu tylwyth teg, gan gynnwys straeon amrywiol i’w darganfod. Bydd y neuadd fewnol yn cael ei gweddnewid gan y garddwyr i fod yn ystafell Jac a'r Goeden Ffa, gellid gweld y Rhiain Gwsg yn yr Ystafell Fwyta, a bydd Sinderella yn dod yn fyw yn yr Ystafell Gyfarch, tra bydd Hansel a Gretel yn y Gegin a’r Coblynnod a'r Crydd yn gweithio’n galed yn y Pantri. Bydd digonedd i foddhau eich synhwyrau wrth i chi ymweld â’r Fila.

Pris: Am ddim i aelodau, £5 i oedolion, am ddim i bobl dan 18. Nid oes angen mynnu’ch lle ymlaen llaw.

Father Christmas giving a present to a young girl
Hwyl yr Ŵyl yn Llanerchaeron | © National Trust Images/Rob Stothard

Dewch i gwrdd â Siôn Corn

2 a 3 Rhagfyr 11am - 3pm.

Bydd teuluoedd yn cael cyfle i gwrdd â Siôn Corn ddydd Sadwrn a dydd Sul, a chânt anrheg am ddim. Nid oes angen mynnu’ch lle ymlaen llaw.

A visitor crafting a wreath during a Christmas wreath making workshop
Gweithdy gwneud torchau Nadolig | © National Trust Images/James Dobson

Gweithdai Creu Torch

8, 9 a 10 Rhagfyr

10am – 12am a 2pm – 4pm bob dydd

Manteisiwch ar eich doniau creu crefftau y Nadolig hwn drwy greu eich torch Nadolig eich hunan o ddeiliach a gasglwyd yn ystâd 100 acer Llanerchaeron i chi fynd adref gyda chi. Cynhelir y sesiynau yn y stablau hanesyddol, dan arweiniad Meg, sy’n arddwr ac yn arbenigwr gweithdai creu torch.

£25 y pen yn cynnwys diod boeth, mins peis a’r holl ddeunydd angenrheidiol. Yn addas i ddechreuwyr, nid oes angen profiad. Rhaid mynnu’ch lle.

Mynnwch le mewn sesiwn yma

Cofiwch fynd draw i gaffi Conti i gael eich cefn atoch. Bydd ar agor pob diwrnod ar gyfer y ffair yn cynnig bwydydd Nadoligaidd ysgafn a diodydd poeth i gynhesu’ch calon. Bydd siop lyfrau ail law o safon hefyd ar agor i chi allu pori drwyddi a chasglu syniadau am anrhegion anhygoel.

Mae croeso cynnes o Geredigion yn disgwyl amdanoch dros gyfnod y Nadolig.

Ymwelwyr yn cerdded o flaen tŷ Llanerchaeron ar ddiwrnod heulog

Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron

Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwyr yn yr Ystafell Groeso Las dros y Nadolig yng Nghastell Powis ym Mhowys, Cymru

Y Nadolig yng Nghymru 

P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

Clychau’r gog yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron 

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.

Y fila a ddyluniwyd gan John Nash yn yr 1790au yn Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Ymweld â fila John Nash yn Llanerchaeron 

Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.

Catering assistant with a tray of coffee and hot chocolate in the cafe at Llanerchaeron, Wales.
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Llanerchaeron 

Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.