Taith gerdded Trwyn Cemlyn ym Môn
Mae’r daith gerdded hon o gwmpas pentir arfordirol yn dathlu peth o dreftadaeth ddiwydiannol Ynys Môn, yn ogystal â’i bywyd gwyllt cyfoethog ac awyrennwr arloesol
Sylwch: Mae maes parcio Bryn Aber yn dueddol o gael eu gorlifo. Edrychwch i weld pryd mae’n benllanw cyn ymweld.

Dechrau:
Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid SH329936
1
O’r maes parcio, cerddwch yn syth ymlaen ac at y pentir. Byddwch yn pasio hen siediau glo a choed lle byddai llongau’r arfordir yn gwagio eu cargo.
Y Capten Vivian Hewitt
Roedd Bryn Aber yn gartref unwaith i’r Capten Vivian Hewitt, y dyn cyntaf i hedfan ar draws Môr Iwerddon. Dim ond ychydig dros awr gymerodd y daith 75 milltir o’r Rhyl i Ddulyn yn 1912 ond aeth ei lwyddiant braidd yn angof pan suddodd y Titanic.
2
Dilynwch y llwybr drwy’r llidiart a heibio’r gofeb i fad achub cyntaf Ynys Môn. Cadwch i’r chwith a dilyn y llwybr at yr arfordir gogleddol.
Cofeb i fâd achub cyntaf yr ynys
Mae’r dyfroedd o gwmpas Ynys Môn wedi gweld eu cyfran o drychinebau. Mae’r gofeb i fad achub cyntaf yr ynys (y byddwch yn mynd heibio iddi yn adran 2 y daith) yn atgoffa dyn o’r peryglon. Roedd criw bad achub Cemlyn wedi helpu 16 o longau mewn trybini oddi ar y glannau hyn cyn i’r orsaf gau yn derfynol yn 1918.
3
Wrth edrych tua’r môr fe welwch Fynachdy, y marcwyr mordwyo a’r simnai sy’n weddillion hen waith copr. Edrychwch hefyd am forloi llwyd ar Graig yr Iwrch a llamhidyddion a dolffiniaid ger Creigiau Harry Furlough.
Gwaith copr
Mae’r marcwyr mordwyo a’r simnai ym Mynachdy yn atgof o’r gweithfeydd copr oedd yma ar un adeg. Mae 4,000 o flynyddoedd o hanes i’r diwydiant copr ar yr ynys.
4
Ewch ymlaen ar hyd y pentir at y trwyn pellaf. Mwynhewch y golygfeydd ac awel y môr ar y llwybr drwy’r borfa.
Ynysoedd y Moelrhoniaid
Mae’r olygfa o ynysoedd creigiog y Moelrhoniaid yn gyfareddol beth bynnag yw’r tywydd, neu’r adeg o’r dydd. Adeiladwyd goleudy’r Trinity House yma yn y 1700au. Mae miloedd o fôr-wenoliaid swnllyd yn nythu ar yr ynysoedd bach hyn.
5
O ben pella’r pentir fe welwch chi Fae Cemlyn yn glir, gyda’i gefnen anarferol o ro. Fe welwch hefyd orsaf drydan yr Wylfa ac Ynys Badrig y tu hwnt i honno.
6
Dilynwch y llwybr i fyny ochr arall y pentir ac yn ôl at y gofeb. Ewch yn ôl ar y llwybr i’r maes parcio heibio i’r hen siediau glo a choed. Dyma unig olion y fasnach brysur oedd yma ar un adeg. Byddai llongau’n bwrw angor yn harbwr naturiol Bae Cemlyn, wedi’i greu gan y gefnen o ro, i ddadlwytho eu cargo a llwytho tatws a phren i’w hallforio.
Diwedd:
Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid SH329936