Taith Esgair Gemlyn

Dewch ar daith ar hyd cefnen o raean a gwylio llu o adar y dŵr ar y lagŵn yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cemlyn. Bydd y daith gylchol hon yn eich arwain ar draws cefnen o raean a ffyrdd bach gwledig at Fae Cemlyn. Mae’n berffaith i gerddwyr a’r rhai sy’n chwilio am fywyd gwyllt. Mae croeso i gŵn ymuno â chi hefyd.
Eiddo ger
CemlynMan cychwyn
Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936Gwybodaeth am y Llwybr
*Taith arfordirol ac ar y tir ar draeth graeanog a ffyrdd tarmac gyda llechweddau. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.
**Llethrau graean rhydd a giatiau mochyn a phont. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.
***Croeso i gŵn ar dennyn bob amser. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.
Llifogydd
Mae maes parcio Bryn Aber a’r bont sy’n arwain at Esgair Gemlyn yn gallu mynd dan ddŵr. Gwiriwch amseroedd y llanw uchel cyn eich ymweliad.
Mwy yn agos i’r man hwn

Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol
Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.

Taith cilfachau cudd Plas Newydd
Darganfyddwch gilfachau cudd Plas Newydd ar daith gerdded lawn o olygfeydd trawiadol dros Afon Menai, y Faenol ac Eryri.

Taith Trwyn Cemlyn ar Ynys Môn
Mwynhewch y daith hawdd hon o gwmpas y penrhyn yng Nghemlyn. Mae’r daith yn dathlu bywyd gwyllt cyfoethog Ynys Môn a’i threftadaeth ddiwydiannol.

Taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrys
Dilynwch y daith gylchol dair milltir hon yng Nghemlyn, Ynys Môn, i weld golygfeydd o’r môr, ffurfiannau’r creigiau, safleoedd crefyddol a bywyd gwyllt. Gall ymwelwyr lwcus hyd yn oed weld morloi, ac os byddwch yn amseru pethau’n iawn, gallwch weld yr haul yn machlud dros fôr Iwerddon.
Cysylltwch
Gwarchodfa Natur Cemlyn, Cemlyn, Bae Cemaes, Sir Fôn, LL67 0DY
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Gwylio adar yng Nghemlyn
Ewch am dro ar hyd arfordir garw gogledd Ynys Môn er mwyn gweld os gallwch chi adnabod yr amrywiaeth eang o adar anarferol sy’n ymweld â’r ardal.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cyngor ar gerdded ar yr arfordir
Darllenwch gyngor ar gerdded ar yr arfordir, gan gynnwys y dillad a'r offer hanfodol sydd eu hangen arnoch a beth i'w wneud cyn dechrau arni. (Saesneg yn unig)

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)