Llwybr Ysbyty Ifan a Chwm Eidda
Dringwch i ganol y mynyddoedd ar hyd hen lwybr porthmyn, a mwynhau golgyfeydd arbennig o fynyddoedd y Carneddau a Dyffryn Conwy

Dechrau:
Maes parcio Ysbyty Ifan, cyfeirnod grid : SH842488
1
Ewch allan o’r maes parcio i’r ffordd. Trowch i’r chwith ac yna, bron yn syth, trowch i’r dde i mewn i lôn fach rhwng yr elusendai a’r coed tal. Daliwch i fynd yn syth ar hyd y lôn hon, drwy ddwy giât, hyd nes i chi gyrraedd ffordd darmac. Hon oedd un o briff ffyrdd y porthmyn drwy ogledd Cymru. Byddai’r porthmyn yn gyrru da byw i farchnadoedd yn Lloegr o leoedd mor bell i ffwrdd â Phen Llŷn.
2
Trowch i’r dde a dilynwch y ffordd i fyny at ael y bryn. Os yw’r tywydd yn glir fe gewch olygfeydd braf i lawr at ddyffryn Conwy ac at Foel Siabod a mynyddoedd y Carneddau.
3
Dilynwch y ffordd darmac, gan anwybyddu’r ffordd sy’n troi lawr at y dde, a daliwch i fynd o gwmpas y bryn tua’r chwith. Ewch drwy giât ar draws y ffordd, croeswch bont garreg fawr ac ewch yn eich blaen pan fydd y tarmac yn newid i fod yn drac caregog.
4
Croeswch y bont nesaf (Pont Rhyd-yr-Halen) a dilynwch y trac i fyny’r rhiw hyd nes y dowch chi at giât. Croeswch y gamfa wrth y giât a cherddwch i ben bryncyn bach i gael golygfa hyfryd ac anarferol o fynyddoedd Eryri.
Ffyrdd y Porthmyn
Mae’r rhan hon o’r llwybr yn dilyn hen lwybr porthmyn ym Mhont-yr-Halen. Ar un adeg hwn oedd un o’r llwybrau porthmyn prysuraf yn yr ardal – hyd nes i’r rheilffordd i Ddolwyddelan gael ei hadeiladu yn y 1890au. Ar ôl i hyn ddigwydd nid oedd yr un angen i yrru da byw am filltiroedd dros y mynyddoedd.
5
Ewch yn ôl i’r trac. Cadwch y ffens ar eich ochr chwith a throwch i fynd dros y rhostir. Ewch yn eich blaen hyd nes i chi gyrraedd tro amlwg i’r chwith yn y ffens. Yna dilynwch yr arwyddion llwybr i lawr yr allt, gan wyro ychydig tua’r dde at wal garreg a giât, draw yn y pen draw. Dilynwch y trac garw i lawr yr allt nes y byddwch yn disgyn yn serth tuag at fferm Eidda Fawr. Wrth i chi gyrraedd y beudy ar y chwith, trowch i’r dde ac ewch o gwmpas y storfa dail er mwyn cyrraedd y gamfa.
6
Ewch dros y gamfa a chroeswch y ffordd, yna, gan ddilyn yr arwyddion, ewch drwy’r sied a lawr ochr chwith y cae islaw’r ffordd. Croeswch y nant ar y gwaelod ac anelwch am y gornel ochr dde bellaf yn y cae nesaf.
Barcutiaid coch
Cadwch lygad ar agor am farcutiaid coch yn yr awyr. Bu bron iddyn nhw ddiflannu’n llwyr yn y 1970au ond maen nhw wedi ennill tir yn rhyfeddol a bellach mae dros 600 o barau yng Nghymru. Gyda’u plu cochlyd a’u cynffonau fforchiog mae’n hawdd dweud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw a bwncathod.
7
Croeswch bont bren ac anelwch am y gornel uchaf ar ochr dde’r cae. Ewch drwy’r giât ac anelwch am y gamfa ym mhen uchaf y cae, gan gadw’r nant ar eich ochr dde. Dringwch dros y gamfa a throwch i’r chwith, drwy giât ac i drac garw. Dilynwch y trac hwn nes i chi gyrraedd ffordd darmac ym mhen draw buarth fferm. Dilynwch y ffordd hon i’r chwith, trwy giât a heibio i’r fferm nesaf. Cerddwch i fyny’r allt nes i chi weld pont fechan. Cyn i chi gyrraedd y bont, ewch drwy’r giât sy’n eich hwynebu wrth i chi gerdded i fyny’r allt. Dilynwch y trac hwn.
8
Croeswch dros nant fechan ar eich ochr chwith a daliwch i fynd, gan ddilyn trac brwynog ac yna clawdd pridd.
9
Dilynwch yr arwydd sy’n pwyntio dros drac ar ben bryn, yn ôl tuag at Ysbyty Ifan. Mae’r llwybr yn dilyn ochr chwith Coed y Fron, sef coedwig golldail gymysg. Yn ystod y gwanwyn mae llawr y goedwig yn garped o glychau’r gog, briallu a blodau’r gwynt.
Ysbyty Ifan
Yr hen enw ar y pentref oedd Dolgynwal, ond yn 1189 sefydlwyd hosbis ney ysbyty yma gan Farchogion Sant Ioan a byth ers hynny mae’r lle wedi cael ei adnabod fel Ysbyty Ifan.
10
Pan fydd y llwybr yn cyrraedd y ffordd, trowch i’r dde a cherddwch yn ôl i’r pentref.
Stad Ysbyty Ifan
Stad Ysbyty Ifan yw’r stad unigol fwyaf sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n cynnwys dros 20,000 erw (8094 ha) o dir, 51 fferm a 40 bwthyn.
Diwedd:
Maes parcio Ysbyty Ifan, cyfeirnod grid : SH842488