Fel rhan o’r camau i wneud Llyndy Isaf yn fferm cynaliadwy, bach ei effaith, gwnaed gwaith sylweddol ar y ffermdy a’r fflat gysylltiedig.
Meddai Rob Gwillim, Rheolwr y Prosiect Hydro: “Lle bo’n bosib, mae inswleiddio wedi’i wella ac mae ffynhonnell y gwres wedi’i newid o Rayburn olew aneffeithiol i bympiau gwres o’r awyr, modern, sy’n alldynnu gwres o’r awyr a chynyddu’r tymheredd i lefel ddefnyddiol.
“Mae’r symudiad hwn o olew i drydan yn creu cymhelliant i hunangynhyrchu trydan. Dechreuwyd y broses hon trwy osod casgliad ffotofoltaïg (PV) ar dô’r sgubor. Ond dros y chwe mis diwethaf, fe fuon ni’n ymestyn hyn i gynnwys prosiect micro-hydroelectrig. Bydd y prosiect yn cynhyrchu oddeutu 37,000 kW o drydan y flwyddyn – mwy na sydd ei angen ar y tŷ, y fflat a’r fferm.
“Fel canlyniad felly, nid yn unig y bydd gostyngiad yn y biliau trydan, ond fe fydd incwm hefyd yn cael ei gynhyrchu trwy werthu’r trydan a chymorth llywodraeth trwy’r tariff cyflenwi trydan, y gellir ei ail-fuddsoddi yn y dirwedd drawiadol..
“Heblaw hynny, fe fydd y genhedlaeth adnewyddol hon yn arbed allyrru oddeutu 15 tunnell o CO2 y flwyddyn. Bydd yr holl fuddion hyn yn helpu i wneud Llyndy Isaf yn fferm fwy cynaliadwy.”
Dyma ddywed rheolwr fferm Hafod y Llan, Arwyn Owen: “Fferm ucheldir 614 erw yn Nant Gwynant, calon Eryri, ydy Llyndy Isaf. Mae’n ymestyn o lannau prydferth Llyn Dinas i gopa Moel y Dyniewyd ac yn cynnwys cymysgedd o gynefinoedd rhostir, cors a choetir, sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt.
Ychwanegodd Rhys Thomas, Rheolwr Cefn Gwlad Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri: “Nododd apêl 2011 i achub Llyndy i’r genedl ein hapêl cefn gwlad fwyaf yng Nghymru ers dros ddegawd, gyda chefnogaeth Matthew Rhys a’r actores a fagwyd yn Abertawe, Catherine Zeta Jones.