Hanner tymor Mai ym Mhlas Newydd | May half term at Plas Newydd
Dewch i Blas Newydd ar gyfer hanner tymor llawn hwyl! Boed hi’n dywydd braf neu’r bwrw glaw, mae ‘na ddigon i'r teulu cyfan!| Come to Plas Newydd for a fun half term! Whether it's sunny or it's raining, there's plenty to do for the whole family!
- Booking not needed
- Free event (admission applies)
Mae’r dirwedd ym Mhlas Newydd yn cynnwys 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir, a gyda golygfeydd anhygoel ar draws y Fenai dyma’r lle delfrydol ar gyfer antur hanner tymor. Dewch i greu atgofion gyda'ch gilydd wrth i chi chwarae yn y Maes Chwarae yng Nghoed y Llaeth. Wedi hynny, ewch i’r tŷ coeden, chwiliwch am wiwerod coch, neu ewch i gystadlu mewn gêm o Frisbee Golf. Os bydd glaw Cymru yn bwrw lawr, dewch i’r tŷ wrth i chi ddarganfod y dirgelion sydd wedi’u cuddio ym murlun 58 troedfedd enwog Rex Whistler, neu ymlaciwch gyda gweithgareddau braslunio neu gemau bwrdd yn yr Octagon.
Ar ddiwrnodau penodol, ymunwch â ni ar gyfer Môn Actif a Gwenynwyr Môn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen digwyddiadau.
****
The landscape at Plas Newydd is made up of 40 acres of garden and 129 acres of woodland and parkland, and with amazing views across the Menai Strait it's the ideal place for a half term adventure. Make family memories together as you play in the Playground in Dairy Woods . Afterwards, visit the treehouse, spot red squirrels, or get competitive in a game of Frisbee Golf. If the Welsh rain prevails, head into the house and uncover the mysteries hidden in Rex Whistler's famous 58-foot mural, or relaxing as you get creative with sketching activities or board games in the Octagon.
On selected days, join us for Môn Actif and the Anglesey Beekeepers. More information is available on the events page.
Times
Prices
Event ticket prices
This event is free, but normal admission charges apply for the venue.
Check admission pricesUpcoming events
Parkrun iau | Junior parkrun
Os ydych eisiau cyfarfod ffrindiau newydd, neu rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, gallai Parkrun Iau fod yr union beth i chi. | Whether you want meet new friends, or want to try something different, Junior Parkrun could be just the thing for you.
Cyfarfod Gwenynwyr Môn | Meet Anglesey Beekeepers
Dysgwch bopeth am gadw gwenyn a sut i gadw gardd sy'n gyfeillgar i wenyn. Learn all about beekeeping and how to keep a bee-friendly garden.
Gweithgareddau Môn Actif Activities
3 diwrnod o weithgareddau, fel tenis a chwaraeon gwahanol, efo Môn Actif yn cael eu cynnal ym Mhlas Newydd. 3 days of activities, such as tennis and other sport activities, with Môn Actif will be held at Plas Newydd.
Haf o Hwyl ym Mhlas Newydd | Summer of Play at Plas Newydd
Ydych chi'n barod am Haf o Hwyl ym Mhlas Newydd? Ymunwch â ni am haf llawn dop gyda chant a mil o ffyrdd o chwarae.| Are you ready for a Summer of Play at Plas Newydd? Join us for a jam-packed summer that’s chock-full of ways to play.