
Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Mae cynnal a chadw gardd Restredig Gradd 1 hanesyddol, ac enwog o ran ei garddwriaeth yn golygu llafur cariad trwy’r flwyddyn i’n garddwyr, gwirfoddolwyr yr ardd a myfyrwyr. Dysgwch sut mae’r tîm yn gweithio i’w chadw’n hardd.
Wrth i’r ddaear gynhesu yn y gwanwyn mae’r tîm yn dechrau chwynnu, rhoi compost a wnaed gartref ar y gwelyau, plannu a thocio llwyni (gan gynnwys tocio ein tri lliw ar ddeg enwog) a chlirio erwau o flodau sydd wedi syrthio.
Y prif swyddi eraill yn y gwanwyn yw tynnu pennau marw’r Cennin Pedr yn yr Hen Barc, pan gaiff y tîm help llaw gan wirfoddolwyr – a chwynnu llethrau’r Glyn, tasg arbennig a wneir gan arddwyr sydd wedi cael hyfforddiant i abseilio.
Yn nyddiau cynhesach, hirach yr haf mae’r ardd yn ei hanterth ac mae’r tîm yn brysur yn tynnu pennau marw’r rhosod, yn porthi a dyfrio borderi blodau, yn torri a siapio gwrychoedd pren bocs, yn tocio’r tresi aur a’r wisteria ac yn torri, torri a thorri gwair! Boed yn lawntiau perffaith neu lennyrch blodau gwylltion a chaeau, mae yna laswellt yn rhywle sydd angen ei dorri bob amser ar ein safle 80 erw.
Wrth i’r dail droi eu lliw yn yr hydref bydd y garddwyr yn troi eu sylw at ddigroeni lawntiau ac adnewyddu’r tywyrch, tacluso’r arddangosfeydd blodau a phlannu bylbiau at y gwanwyn. Ar ddiwedd y tymor daw’r dasg anferth o gasglu 80 erw o ddail sydd wedi syrthio, sy’n mynd i’n pentyrrau compost.
Er bod llawer o erddi yn cael eu gadael yn y tymor oerach mae digon i’w wneud o hyd ym Modnant; tocio’r rhosod, cynnal yr Ardd Aeaf, clirio’r nentydd sy’n llifo o ran uchaf yr ardd i’r gwaelod, gwaith ar y coed a swyddi disylw, ond hanfodol, fel ail raeanu llwybrau, trwsio draeniau a thrwsio ffensys atal cwningod.

Yng nghanol Ionawr rhewllyd daw’r dasg o docio’r Bwa Tresi Aur byd-enwog, a all gymryd chwe wythnos i ddau arddwr medrus.
Daw’r tymor i ben gydag ymdrech fawr gan y tîm yn plannu eirlysiau yn y tir glas. Rydym yn plannu tua 20,000 bob Chwefror yng ngweirglodd yr Hen Barc, gyda help ymwelwyr – ffordd wych o nodi blwyddyn newydd yn yr ardd.

Mae feithrinfa wydr fawr, a gafwyd ar ddiwedd 2023 ac sydd wedi’i lleoli gerllaw’r ardd, wedi derbyn gwaith adnewyddu hanfodol dros sawl mis a’i pharatoi ai fod yn barod gan dîm yr ardd.
Bydd yn cynnig capasiti sydd pedair gwaith yn fwy na’r feithrinfa bresennol ar y safle i alluogi tîm yr ardd i luosogi a diogelu casgliad planhigion sylweddol Gardd Bodnant, gan gynnwys rhododendronau hybrid yr 20fed ganrif a dyfwyd yn yr ardd ac nad ydynt ar gael yn unrhyw le arall. Er na fydd y feithrinfa ar agor i ymwelwyr, bydd y planhigion a dyfir dan do, ymhen amser, yn cael eu plannu yn yr ardd i bawb gael eu mwynhau.
Dywedodd Ned Lomax, Prif Arddwr Gardd Bodnant: “Gwaddol unrhyw arddwr yw na fydd nifer o’r coed a’r llwyni yr ydym yn eu meithrin a’u plannu heddiw, yn cyrraedd eu haeddfedrwydd yn ein hoes ni. Rydym yn gwneud yr hyn a wnawn nawr i alluogi cenedlaethau’r dyfodol i eistedd o dan ganghennau’r planhigion anhygoel hyn, gan eu mwynhau am flynyddoedd i ddod, a gobeithio am y 150 mlynedd nesaf yng Ngardd Bodnant.
“Y feithrinfa yw ystafell injan unrhyw ardd, a bydd yr ardal newydd hon yn cynnig pedwar gwaith yn fwy o le na’r feithrinfa flaenorol yma ym Modnant. Mae’n golygu y bydd y tîm yn gallu lluosogi a gofalu am blanhigion hybrid prin nad oes modd eu cael yn unrhyw le arall.”
Y gobaith yw y bydd y feithrinfa newydd yn galluogi Gardd Bodnant i gynnal y broses luosogi lwyr ar gyfer y rhywogaethau hyn a llawer mwy, ar y safle, gan eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y feithrinfa nid yn unig yn cadw gwaddol Gardd Bodnant yn fyw, ond hefyd gwaddol teuluoedd McLaren and Puddle, y mae eu sgiliau garddwriaeth wedi rhoi inni’r ardd sydd yma heddiw.
Ni fyddai wedi bod yn bosibl heb rodd hael gan y diweddar Dr Rees-Jones, gwirfoddolwr yng Ngardd Bodnant. Haelioni ymwelwyr, aelodau, a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n sicrhau bod y math hwn o waith yn parhau, nawr ac i’r dyfodol.

Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.

Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.

Gwaith cenedlaethau yw’r ardd ym Modnant, gan ddechrau gyda’r teulu Pochin ar ôl iddyn nhw symud o Fanceinion. Dysgwch am y bobl a wnaeth wneud Bodnant yr hyn welwn ni heddiw.

Mae’r ffownten wedi’i lleoli ar y Teras Croce yng Ngardd Bodnant, a chredir iddi gael ei chreu gan y cerflunydd o Ffrainc, Edmé Bouchardon, tua 1700. Heddiw, mae dyluniadau calchfaen öolitig cymhleth y ffownten wedi treulio oherwydd degawdau o ddŵr rhedegog. Gallwch ein helpu i godi arian i greu ffownten newydd, gan ddod â’r ardal yma o’r pum teras Eidalaidd yn ôl yn fyw.