Skip to content

Ymweliadau grwpiau ac ysgolion â Gardd Bodnant

Guided tour in the garden during the Fungi Festival at Emmetts Garden, Kent
Dewch i grwydro Gardd Bodnant gyda’ch gilydd | © National Trust Images/Simon Weller

Gyda lliw drwy gydol y flwyddyn, gall yr ardd fod yn beth bynnag yr ydych am iddi fod, boed hynny’n lle llawn bwrlwm neu'n hafan i gael llonydd ac ymlacio, mae Gardd Bodnant yn lle arbennig i bob oed.

Dod â grŵp i Ardd Bodnant

Bydd grwpiau a phartïon bws wrth eu bodd yn darganfod ardaloedd mwy ffurfiol yr ardd Gradd Rhestredig I hon, gan gynnwys y pum teras.

I’r rhai sydd eisiau mentro ychydig pellach, y Glyn yw un o’r llefydd gorau i fwynhau’r golygfeydd o Bont y Rhaeadr. Wrth iddynt arwain eu hymweliad eu hunain â’r ardd, gall unigolion dreulio amser ym mha bynnag ardal sy’n apelio atynt fwyaf.

A group of school children walking down a path near Bosherston Lakes at Stackpole, Pembrokeshire, Wales
Ewch ar antur yn yr awyr agored gyda’ch dosbarth yng Ngardd Bodnant | © National Trust Images / Trevor Ray Hart

Ymweliadau addysgol â Gardd Bodnant

Beth am arwain eich dosbarth neu eich grŵp blwyddyn ar ymweliad â’r ardd? Mae 80 erw i’w harchwilio, a chyfoeth o fywyd gwyllt a natur i’w gweld, beth bynnag fo’r tymor. I drefnu ymweliad, cysylltwch â ni ar  bodnantgarden@nationaltrust.org.uk.

Gall ysgolion fanteisio ar Docyn Mynediad Grŵp Addysgol, sef aelodaeth flynyddol sy’n rhoi mynediad am ddim i’r grŵp ysgol gyfan i ran fwyaf o lefydd o dan ofal ni am flwyddyn. Darllenwch fwy am yr aelodaeth yma

A group of visits are seen on a path walking through Bodnant Garden in Wales
Grŵp o ymwelwyr yn crwydro’r ardd | © National Trust Images/Chris Lacey

Gwybodaeth i grwpiau

Amseroedd agor

Mae’r ardd, Ystafell de’r Pafiliwn, Caffi Magnolia a chiosg y Glyn ar agor ar wahanol amseroedd  drwy gydol y flwyddyn. Ewch ar ein hafan i weld yr amseroedd agor.

Prisiau 

Rhaid i grŵp gynnwys o leiaf 15 o bobl i fod yn gymwys i gael prisiau mynediad cyfradd grŵp. Mae cyfraddau mynediad arferol yn berthnasol i grwpiau â llai na 15 o bobl ac mae'r prisiau i’w gweld ar ein hafan. 

Bydd y pris mynediad i oedolyn mewn grŵp ar gyfer 1 Mawrth 2025 hyd 28 Chwefror 2026 yn £16.20.

Mae gyrwyr bysiau yn cael mynediad am ddim ynghyd â thaleb am un te neu goffi am ddim (nid yw’r cynnig hwn yn berthnasol i grwpiau addysgol sydd wedi cadw lle).

Parcio bysiau 

Mae modd parcio bysiau am ddim ar y safle, wrth ymyl Ystafell de’r Pafiliwn. Unwaith y bydd ymweliad eich grŵp yn ein dyddiadur, byddwn hefyd yn cadw lle i barcio bws erbyn yr amser y byddwch chi’n cyrraedd, os bydd angen.

Wrth gyrraedd yr ardd, gofynnwch i’ch gyrrwr eich gollwng i’r chwith o fynedfa’r maes parcio. Daw un o’n tîm i groesawu eich grŵp i Ardd Bodnant a chynnig mapiau o’r ardd. Yna gall eich grŵp fynd yn eu blaen i’r ganolfan ymwelwyr a mynd i’r ardd fel y mynnant. 

Cadeiriau olwyn 

Mae chwe chadair olwyn i’w gwthio â llaw a 2 ffrâm gerdded ar gael i’w defnyddio, ar sail y cyntaf i’r felin. Nid oes modd trefnu’r rhain o flaen llaw. Nid oes gennym gart golff i fynd ag ymwelwyr o gwmpas yr Ardd gan nad yw’r tir yn addas. Am fwy o wybodaeth am hygyrchedd Gardd Bodnant, ewch i’r adran Hygyrchedd ar ein prif dudalen we.

Bwyta a siopa   

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd piau Ystafell de’r Pafiliwn, Caffi Magnolia a Chiosg y Glyn ac mae’r amseroedd agor yn newid drwy gydol y flwyddyn. Fel arfer, nid yw’n bosib rhag-archebu bwyd na chadw byrddau i grwpiau ond rhowch wybod i ni os bydd gennych unrhyw gais penodol.

Sylwch fod Canolfan Blanhigion a Chrefft Bodnant sydd gerllaw, ar wahân i’r ardd. Nid yw’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 

Ymweliadau ymgyfarwyddo am ddim i arweinwyr grŵp  

Os ydych chi’n trefnu ymweliad grŵp, gallwch wneud cais am Docyn Diwydiant Teithio am ddim a gallwch chi a ffrind neu gydweithiwr gael mynediad am ddim i dros 300 o’n lleoliadau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon am 12 mis. Dyma’r ffordd berffaith i gynllunio ymweliad llwyddiannus – drwy weld rhywle gyda’ch llygaid eich hun. I dderbyn eich tocyn, ffoniwch 0344 800 2329, neu e-bostiwch ni yn NTTravelTrade@capita.co.uk.

 

Pwy sy’n gallu cael mynediad am ddim?

Tywyswyr bwrdd twristiaeth cofrestredig (drwy ddangos bathodyn dilys), gyrwyr coetsys ac arweinwyr teithiau sydd â grwpiau o 15 neu fwy. Mae aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn cael mynediad am ddim, felly gallwch ad-dalu’r ffi fynediad i aelodau os ydych wedi’i chynnwys yn eich pecyn yn ôl eich disgresiwn – ni chaiff hon ei had-dalu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhaid i aelodau ddod â’u cardiau aelodaeth gyda nhw i osgoi talu’r gyfradd grŵp lawn. Os hoffai unrhyw aelodau o’ch grŵp ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeiriwch nhw at ein tudalen Ymuno â Ni neu dywedwch wrthynt am ffonio 0344 800 1895.

Cysylltwch ynghylch dod â grŵp i ymweld â Gardd Bodnant

Anfonwch e-bost atom bodnantgarden@nationaltrust.org.uk neu ffoniwch 01492 650460 i holi am drefnu ymweliad grŵp.

Teulu yn mwynhau mynd am dro drwy'r Masarn Coed Clwt yn ystod yr hydref

Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant

Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Casgliadau botanegol Gardd Bodnant 

Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.

Rhododendrons pinc yn eu blodau yn y gwanwyn yng Ngardd Bodnant, Conwy

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant. Mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau planhigion o bob rhan o’r byd.

Dail hydrefol yr acers (coed clwt) yng Ngardd Bodnant

Hanes Gardd Bodnant 

Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.

Tŷ gyda choed hydrefol o’i gwmpas yn cael ei adlewyrchu mewn pwll lilis yn y blaendir.