Skip to content

Dyddiau i’r teulu yng Nghastell y Waun

Teulu’n cyrraedd Castell y Waun
Teulu’n cyrraedd Castell y Waun | © National Trust Images/David Levenson

Dewch o hyd i ysbrydoliaeth ar gyfer eich tro nesaf fel teulu yng Nghastell y Waun. Dewch i archwilio Tŵr Adam, gan gynnwys dwnsiynau, toiledau canoloesol a thyllau llofruddio, cwblhau rhai o’r gweithgareddau ‘50 peth i'w gwneud cyn eich bod yn 11¾’, a llosgi ychydig o egni yn ein mannau chwarae naturiol.

Cynllunio eich ymweliad ar gyfer y teulu

Cymerwch gipolwg o’r wybodaeth hon i wneud y mwyaf o’ch ymweliad nesaf fel teulu â Chastell y Waun:

  • Mynediad am ddim i blant dan 5
  • Mae cyfleusterau newid babanod wedi’u lleoli yn y toiledau yn Home Farm ac iard y castell
  • Mae ein hystafell de’n cynnig bocsys cinio i blant ac ystod o brydau poeth, brechdanau, hufen iâ a chacennau
  • Mae croeso ichi ddod â phicnic
  • Nid oes mynediad i bramiau at ystafelloedd y castell. Mae maes parcio ar gael
  • Mae ein bws gwennol yn cludo teithwyr i fyny ac i lawr y bryn at y castell drwy gydol y dydd

Hanner tymor mis Mai (25 Mai i 2 Mehefin)

Dewch draw i Gastell y Waun yn ystod gwyliau hanner tymor mis Mai eleni i ddysgu rhagor am fyd anhygoel gloÿnnod byw a gwenyn. Casglwch daflen ddarganfod hunan-dywys o’r swyddfa docynnau a gweld pa fathau o loÿnnod byw a gwenyn y gallwch eu hadnabod yn yr ardd 5.5 erw brydferth. Allwch chi suo fel gwenynen neu symud yn ysgafn fel glöyn byw? Pa flodyn fyddech chi'n dewis glanio arno?

Ymunwch a’n ceidwaid ar 28 a 29 Mai am 11am a 2pm yn y Ddôl Ofalgar a dysgwch y dechneg hapa zome i greu darn o gelfyddyd ar frethyn yn defnyddio blodau a dail fel deunyddiau argraffu naturiol.

Two children pretending to be stuck in the stocks in the courtyard at Chirk Castle; one with their feet through the foot holes and another child watching.
Children playing in the stocks at Chirk Castle | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Pethau i’w gweld a’u gwneud

Tŵr Adam

Rydym yn argymell eich bod yn dechrau eich ymweliad ger y Tŵr Adam canoloesol, lle mae arwyddion o hanes canoloesol y castell i’w gweld. Dewch i gael hwyl yn gwisgo gwisg ffansi arfwisg, mynd ar daith i ganfod garderobes canoloesol (toiledau i chi a mi) a thyllau llofruddio, a mentro i lawr i’r dwnsiynau sydd ar ddwy lefel... os ydych chi’n ddigon dewr!

Mannau chwarae gwyllt

Mae ein dau fan chwarae awyr agored yn Home Farm yn lleoedd gwych i ddiddanu eich rhai bach. Maent wedi’u lleoli’n gyfleus ger y Ciosg, sy’n gweini diodydd cynnes ac oer a byrbrydau, gyda digonedd o leoedd i eistedd awyr agored. Felly, mae’n lle gwych i losgi ychydig o egni, neu am hoe fach cyn dechrau dringo’r bryn at y castell.

Rhaid goruchwylio plant bob amser. Mae amseroedd agor y Ciosg yn amrywio.

50 peth i'w gwneud cyn eich bod yn 11¾

Dewch â’ch teulu’n agosach at natur gyda 50 syniad wedi'u cynllunio i’n helpu i chwarae ac archwilio. Mae digonedd o weithgareddau awyr agored i'w gwneud drwy gydol y flwyddyn, dyma rai sydd ar gael yng Nghastell y Waun:

Rhif. 1 Dod at eich coed

Mae gan bob coeden rywbeth arbennig. Chwiliwch am gliwiau yn ei gwreiddiau, rhisgl a changhennau i ddatguddio ei hanes. Mesurwch led ei boncyff gyda’ch breichiau a defnyddiwch eich dwylo i deimlo gwead ei boncyff – a yw’n llawn tolciau, yn teimlo’n arw neu’n llyfn? A oes unrhyw flodau neu hadau’n tyfu yno? Gallwch rwbio creon dros ddarn o bapur dros y boncyff er mwyn datgelu’r llinellau a’r patrymau.

Rhif. 9 Bwyta picnic yn y gwyllt

Mae croeso ichi fwyta picnic yn ein gerddi ac ar yr ystâd. Mae byrddau picnic wedi’u lleoli yn nhu blaen y castell, ac mae meinciau wedi’u gwasgaru ledled yr ardd, yn ogystal â man dan gysgod ger y gwrychoedd a dan goed. Cyn i chi gychwyn, mae'n bryd ichi wagio’r oergell ond os ydych chi awydd rhywbeth bach ychwanegol, mae ein hystafell de ar yr iard yn cynnig bwyd poeth ac oer, byrbrydau a chacennau i fynd adref gyda chi.

Rhif. 33 Gwylio’r cymylau

Dewiswch fan yn yr ardd ar ddiwrnod sych, gorweddwch ar eich cefn ar y gwair, ac edrychwch i fyny. Beth allwch chi ei weld? Defnyddiwch eich dychymyg i ganfod siapiau a lluniau yn y cymylau wrth iddynt wibio heibio drwy’r gwynt. A ydynt yn edrych fel unrhyw beth, fel anifeiliaid, coed neu gymeriadau cartŵn?

Os yw hi’n ddiwrnod braf, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo sbectol haul i ddiogelu eich llygaid, a chofiwch, peidiwch ag edrych yn uniongyrchol at yr haul.

Wyneb y dwyrain a’r tocwaith yw yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru

Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun

Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Golygfa o Neuadd Cromwell yng Nghastell y Waun, yn dangos y lle tân, bwrdd a chadair.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell y Waun 

Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.

Visitors walking in the parkland with their dog at Calke Abbey, Derbyshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell y Waun gyda’ch ci 

Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.

Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun 

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

A selection of Easter decorations including felted animals and floral mugs
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun 

Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.