Skip to content

Ymweld â Ynys Môn gyda'ch ci

Ymwelydd yn mynd â'i gi am dro ar yr arfordir
Mwynhewch daith gerdded arfordirol gyda'ch ci | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

O draethau sy’n croesawu cŵn a llwybrau arfordirol, i goetiroedd a gerddi, mae digonedd o leoedd i ymweld â nhw gyda’ch ci yn Ynys Môn. Mae’r ynys yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys gwiwerod coch, cytrefi o fôr-wenoliaid a phlanhigion prin, felly gofynnwn i chi gadw rheolaeth agos ar eich ci bob amser.

Ein system pawen

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ei gwneud hi’n haws i chi ddarganfod pa mor gyfeillgar i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a’ch ffrind pedair coes gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system raddio newydd ac wedi rhoi sgôr i'r holl leoedd yn ein gofal. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llawlyfr aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae llawer o lefydd i ymweld â nhw yn Ynys Môn, darllenwch ymlaen i ddarganfod yn union ble gallwch chi fynd â'ch ci.

Ble gall fy nghi fynd yn Ynys Môn?

Cemlyn
Mae digonedd o deithiau cerdded arfordirol i’w mwynhau yng Nghemlyn, gan gynnwys taith esgair Cemlyn, trwyn Cemlyn a thaith gylchol Llanrhwydrus. Mae croeso i gŵn drwy’r flwyddyn, ond gofynnwn iddynt gael eu cadw ar dennyn bob amser oherwydd bywyd gwyllt gan gynnwys adar sy’n nythu yn yr ardal. Mae Cemlyn yn lleoliad pawen 1. Ymweld â CemlynYmweld â Cemlyn

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Teulu yn mynd â’u cŵn am dro yn y parc yn Erddig, Wrecsam, Cymru

Dewch o hyd i'r lle nesaf i gerdded eich ci yng Nghymru

Mae digonedd o lefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru. O fynyddoedd a thraethau i erddi a pharciau, darganfyddwch lefydd i gerdded a chrwydro.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Machlud dros fae eang Cemlyn
Lle
Lle

Cemlyn 

A ruggedly beautiful coastline of rocks, small bays and headlands to delight walkers. Area of Outstanding Natural Beauty.

Cemaes Bay, Anglesey

Yn hollol agored heddiw
Llun agos o gi yn anadlu’n drwm ac yn cael ei anwesu gan ei berchnogion, a dynnwyd yn yr ardd yn Hanbury Hall and Gardens, Swydd Gaerwrangon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Phlas Newydd efo'ch ci 

Mae gan Blas Newydd sgôr o ddwy bawen. Bydd cynffonnau’n ysgwyd yn llawn cyffro wrth i ni groesawu eich ci i’r ardd a’r tiroedd. Bydd wrth ei fodd yn crwydro’r Ardd Rhododendron, Cwm Camelia, Ardd Goed a Choed yr Eglwys.

Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Llwybr
Llwybr

Taith Esgair Gemlyn 

Dewch ar daith ar hyd esgair a gwylio llu o adar y dŵr ar y lagŵn yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn. Bydd y daith gylchol yn eich arwain ar draws Esgair ac ar ffyrdd bach gwledig at Fae Cemlyn. Mae’n berffaith i gerddwyr ac edmygwyr bywyd gwyllt.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2 (km: 3.2)
Golygfa ar draws Afon Menai i Blas Newydd o Lan Faenol, Ynys Môn, Cymru.
Llwybr
Llwybr

Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol 

Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.5 (km: 2.4)
Machlud dros fae eang Cemlyn
Llwybr
Llwybr

Taith Trwyn Cemlyn ar Ynys Môn 

Mwynhewch y daith hawdd hon o gwmpas y penrhyn yng Nghemlyn. Mae’r daith yn dathlu bywyd gwyllt cyfoethog Ynys Môn a’i threftadaeth ddiwydiannol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Llwybr
Llwybr

Taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrys 

Dilynwch y daith gylchol dair milltir hon yng Nghemlyn, Ynys Môn, i weld golygfeydd o’r môr, ffurfiannau’r creigiau, safleoedd crefyddol a bywyd gwyllt. Gall ymwelwyr lwcus hyd yn oed weld morloi, ac os byddwch yn amseru pethau’n iawn, gallwch weld yr haul yn machlud dros fôr Iwerddon.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)