Diwrnodau allan i’r teulu yn Nolaucothi

Hwyl y Pasg yn Dolaucothi
16 - 20 Ebrill
Mwynhewch yr unig fwynglawdd aur Rhufeinig hysbys yn y DU y Pasg yma a rhowch gynnig ar her - pwy fydd enillydd ‘gosod y fflam ar y ddraig?’ Paratowch at ddiwrnod o hanes, antur, a chystadleuaeth sy’n addas i deuluoedd!
Mae'r Helfa'n rhedeg o'r 16 - 20 Ebrill, gyda phrisiau mynediad arferol yn daladwy ynghyd a £3.50 yr helfa. Mae hyn yn cynnwys Taflen Helfa Basg, clustiau cwningen a wŷ siocled gyda llaeth neu un figan Rhydd O*. Mae pris mynediad arferol hefyd yn daladwy (*yn addas ar gyfer rhai sydd ag alergedd i laeth, wyau, glwten, cnau mwnci a chnau coed)
Gweithgareddau ar y Mwynlawr
Dewch i weld peiriannau mwyngloddio’r gorffennol ar y Mwynlawr sy’n dyddio i’r 1930au; man agored mawr gyda choetir ar ei gyrion a lle delfrydol i gemau a chwarae yn yr awyr agored. Dewch â phicnic, chwiliwch am adar a bywyd gwyllt arall, rhowch gynnig ar banio am aur neu ymlaciwch wrth y Ffrwd a’r Heulddisg Aur.
Profiad Panio am Aur
Gafaelwch mewn padell a hidlwch y graean – tybed a welwch chi fflach o aur dan y dŵr? Cewch gadw unrhyw beth y dewch o hyd iddo – ond cofiwch, nid aur yw popeth melyn!
Y Ganolfan Faes
Os hoffech gael hwyl dan do, yn enwedig pan fydd hi’n bwrw glaw, ewch i’r Ganolfan Faes lle ceir Bocsys Dillad, Deunyddiau Lliwio a Gemau Dan Do, yn ogystal â mapiau mwyngloddio, llyfrau, archifau ac albwm lluniau’n ymwneud â Dolaucothi. Yma, ceir atgynyrchiadau o’r Gemwaith Aur Rhufeinig hardd y daethpwyd o hyd iddo ar ystad Dolaucothi ym 1799, yn ogystal â gwybodaeth am Syr John a’r Fonesig Gardner Wilkinson, sef archaeolegydd a botanegydd enwog o Oes Fictoria â chysylltiadau agos â theulu Johnes Dolaucothi.
Llwybr Natur
Dilynwch yn ôl troed botanegydd, sef y Fonesig Gardner Wilkinson, ar Lwyr y Botanegwyr. Ewch i nôl Taflen a Phecyn Botanegydd o’r dderbynfa ac ewch ar eich hynt eich hun.
Cerdded Ystad Dolaucothi
Ar wahân i’r Mwynlawr, ceir 24 cilomedr o lwybrau ag arwyddbyst ar Ystad Dolaucothi, sy’n addas i bawb o bob oed. Edmygwch y golygfeydd godidog oddi ar y llwybrau neu mwynhewch fynd am dro hamddenol ar hyd Afon Cothi ar Lwybr y Parcdir.
Bydd y llwybrau’n eich tywys trwy ddolydd blodau gwyllt, coetiroedd llawndwf, tir ffermio agored a rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Sir Gaerfyrddin; cynefin delfrydol i fywyd gwyllt gyda myrdd o adar gwahanol.
Cofiwch ein tagio @dolaucothiNT/YG yn unrhyw luniau a bostiwch.
Cynllunio ymweliad eich teulu
Er mwyn eich helpu i gynllunio eich diwrnod ymlaen llaw, dyma rywfaint o wybodaeth hollbwysig:
Cewch yr holl amseroedd agored ar gyfer gwahanol rannau’r eiddo yma. Gwiriwch yr amseroedd agor cyn teithio, oherwydd gall y patrwm newid o dymor i dymor.