
Darganfyddwch fwy yn Erddig
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Y Nadolig hwn, camwch i fyd o hudoliaeth Nadoligaidd wrth i chi fynd ar Antur Nutcracker yn Erddig. O 29 Tachwedd i 4 Ionawr cewch ddod o hyd i’r stori glasurol hon ar ei newydd wedd yn Neuadd Erddig, yn dod yn fyw drwy ystafelloedd wedi’u haddurno’n hardd, coed sy’n disgleirio a cherddoriaeth lawen. Y tu allan, mae llwybr gardd wedi’i ysbrydoli gan fale yn gwahodd teuluoedd i ddarganfod yr uchafbwyntiau tymhorol gyda’i gilydd.
Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 2025 - 4 Ionawr 2026 - ar agor 10-4pm (tŷ ar agor 11.30 -3pm)
Rhag 15, 16, 17, 18 - bydd yr eiddo ar agor 10-7pm (tŷ yn agor ar y dyddiau hyn 11.30-3pm yn ail-agor gyda'r nos 4pm-6.15pm)
Ar gau Rhagfyr 24 a 25
Y Nadolig hwn, camwch i fyd o hudoliaeth Nadoligaidd wrth i chi fynd ar Antur Nutcracker yn Erddig. O 29 Tachwedd i 4 Ionawr mae’r stori glasurol hon yn hardd ar ei newydd wedd yn ystafelloedd a choridorau hanesyddol Neuadd Erddig. Gall teuluoedd deithio drwy deyrnasoedd hudolus o eira, candi a blodau a choedwigaeth gan orffen mewn pêl ddisglair.
Wrth i chi grwydro, cewch ryfeddu ar goed wedi eu haddurno’n hardd, gwrando ar seiniau cerddoriaeth hudolus, a mwynhau’r awyrgylch llawen wrth i bob ystafell ddatgelu profiad Nadoligaidd newydd.
Yna cewch droelli drwy’r ardd furiog restredig Gradd-I i ymarfer eich symudiadau bale ar y llwybr gardd - allwch chi wneud pirwét, plié neu berfformio arabésg fel balerina?
Dros y Nadolig hwn, bydd tiroedd Erddig yn cael eu haddurno ag addurniadau Nadolig swynol sy'n ennyn naws gwladaidd, hynafol. Ar hyd y tiroedd, fe welwch goed Nadolig hardd a gwyrddni wedi’u gwneud â llaw gan ein gwirfoddolwyr ymroddedig.
Rydym eisiau i bawb brofi hud y Nadolig yn Erddig, felly byddwn yn ymestyn ein horiau agor o 15 i 18 Rhagfyr, gan aros ar agor tan 7pm. Ar y dyddiadau arbennig hyn, bydd y tŷ ar agor o 11:30am tan 3pm ac yn ailagor am 4pm, gyda mynediad olaf am 6.15pm.
Dilynwch lwybr yr ŵyl drwy’r tŷ. Mwynhewch dostio malws melys yn yr Iard Goed (os bydd y tywydd yn caniatáu, mae costau ychwanegol) a gweithgareddau crefftau Nadoligaidd yn ein hystafell addysg. Cofiwch am ein Groto Groes, ar agor rhwng 4pm – 6pm, lle gallwch gwrdd â Siôn Corn a rhoi eitemau o fwyd hanfodol i’r rhai sydd mewn angen.
Bydd y bwyty hefyd ar agor, yn cynnig diodydd poeth a byrbrydau blasus i'ch cynhesu. Sylwch, bydd yr ardd yn cau am 4pm.
Blaswch frecwast Cymreig hyfryd gyda gwestai arbennig iawn - Siôn Corn. Mwynhewch ganeuon, stori arbennig ac anrheg fach i blant. Mae modd cael brecwast gyda Siôn Corn ar 6, 7, 13, 14, 20, 21, 22 a 23 Rhagfyr.
Ar gyfer dewis gyda’r nos, ymunwch â Siôn Corn am swper Nadoligaidd ar 13, 14, 20 neu 21 Rhagfyr. Cewch fwynhau cinio Nadolig traddodiadol wedi’i ddilyn gan bwdin Nadoligaidd, a gwylio’r hudoliaeth yn digwydd wrth i bob plentyn dderbyn anrheg arbennig.
Cliciwch yma am fanylion ynglŷn â sut i archebu lle, neu i ddysgu mwy am y digwyddiadau Nadolig
Bob penwythnos, ewch i groto gwrthdro unigryw Erddig sy’n cefnogi Banc Bwyd Wrecsam, lle gallwch gwrdd â Siôn Corn a rhoi hanfodion i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Gallwch gyfrannu tuniau ffrwythau neu lysiau, pasta, te a choffi, sudd, llaeth UHT, pasta ac eitemau ymolchi drwy ddod â nhw i'n swyddfa docynnau yn ystod oriau agor arferol. Cewch gwrdd â Siôn Corn ar ddyddiau Sadwrn a Sul o 29 Tachwedd i 21 Rhagfyr.
Bydd eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dysgwch beth yw anghenion y banc bwyd yma
Dyddiau Sadwrn 6 a 13 Rhagfyr, dewch â’ch teulu i fwynhau sesiynau adrodd stori Nadoligaidd gyda’r talentog, Jake Evans. Yn adnabyddus am ei straeon cyfareddol a’i berfformiadau bywiog, bydd Jake yn mynd â phlant ac oedolion i fyd o antur Nadolig.
Gwnewch y Nadolig hwn yn wirioneddol hudolus drwy addurno eich addurn ceramig neu wydr eich hun yn ein gweithdy Nadoligaidd yn Erddig.
Ymunwch â ni ar 9 neu 11 Rhagfyr o 11am-12.30pm ar gyfer sesiwn grefftau yn llawn creadigrwydd, swyn a hwyl yr ŵyl.
P’un a oes awydd gennych i roi rhywbeth personol ar eich coeden neu’ch bod am fynd ati i wneud anrheg deimladwy, mae'r gweithdy hwn yn berffaith i unrhyw un sy’n 15 oed neu’n hŷn. £10 y pen - yn cynnwys taleb i gael te neu goffi yn ein bwyty. Rhaid archebu lle.
Dyma gyfle i ddangos eich doniau creadigol a gosod arwydd o’r ŵyl ar eich drws ffrynt drwy ymuno ag un o’n gweithdai ymarferol creu torchau yn amgylchedd hardd Erddig.
Ymunwch â ni ddydd Mawrth 2 Rhagfyr neu ddydd Mercher 3 Rhagfyr o 11am-2pm a dysgwch sut i greu eich torch hardd eich hun i fynd adref gyda chi, gan ddefnyddio gwyrddni naturiol sydd wedi’i gyrchu’n bennaf o ystâd a gardd Erddig. Cynhelir y sesiynau o 11am-2pm ac maent yn cynnwys egwyl ginio fer (dewch â’ch cinio eich hun neu ewch i'r bwyty sydd ar y safle). Pris tocyn yw £20 y pen ac mae’n cynnwys yr holl ddeunyddiau a thaleb i gael te neu goffi yn y bwyty. Rhaid archebu lle.
Taith gerdded aeafol ar ystad 1,200 acer Erddig yw’r cyfle perffaith i arafu a mwynhau adegau syml i’w trysori y Nadolig hwn. Mae llwybrau cyfeillgar i gŵn yn golygu y gall pawb yn y teulu ymuno.
Cynheswch gyda diod boeth o’r bwyty, mwynhewch rywbeth i'w fwyta o’r fwydlen dymhorol, neu rhowch wledd i’ch hun gyda gwin cynnes, siocled poeth, malws melys wedi’u tostio (ar ddyddiadau penodol) neu ddarn o gacen i orffen eich ymweliad Nadoligaidd ag Erddig.
Chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig? Dewch heibio ein siop anrhegion sydd â detholiad hyfryd o anrhegion ac addurniadau. Rhowch anrheg arbennig i’ch anwyliaid neu i chi'ch hun y Nadolig hwn.
Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.
Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.