Skip to content

Gwylio morloi mewn modd cyfrifol yng Ngorllewin Cymru

A grey seal lies on a seaweed-covered rock off Lundy island, Devon
Morlo llwyd | © National Trust Images/Nick Upton

O gwmpas arfordir Gorllewin Cymru, gallwch weld morloi llwydion drwy gydol y flwyddyn. Maen nhw’n treulio llawer o amser yn y môr ond yn dod i’r lan i eni rhai bach o fis Awst i fis Tachwedd, a gellir gweld y rhieni a’u rhai bach ar draethau o amgylch Sir Benfro a Cheredigion bryd hynny. Mae morloi wedi’u gwarchod gan y gyfraith, ac mae’n fraint i ni gael rhannu ein glannau gyda nhw. Mae’n bwysig i ni wneud popeth y gallwn i gadw morloi a’u rhai bach yn ddiogel yn eu cynefin naturiol. Cofiwch ddilyn y canllawiau hyn er mwyn osgoi tarfu arnynt.

Sut i wylio morloi’n dda

Os gwelwch chi forlo neu un o’u rhai bach, byddwch yn ofalus rhag tarfu arnyn nhw drwy ddilyn y canllawiau hyn:

O’r lan  

Cadwch eich pellter: Arhoswch o leiaf 50 metr i ffwrdd o forloi, sef tua hanner hyd cae pêl-droed.

  • Llwybr yr arfordir ydy’r lle gorau i wylio morloi – defnyddiwch ysbienddrych neu lens chwyddo ar gamera i gael gwell golwg. Cofiwch fod yn ofalus ar y clogwyni a pheidiwch â thynnu sylw at eich hun.
  • Arhoswch yn llonydd a thawel, gan gadw golwg am arwyddion eich bod yn tarfu ar y morloi. Sibrydwch os bydd angen i chi siarad.
  • Cadwch draw o draethau lle mae morloi bychain.
  • Ewch â’ch holl sbwriel adref gyda chi.

Oes ci gyda chi?

  • Bydd cŵn yn peri straen i forloi, felly mae’n well eu gadael gartref.
  • Os byddwch chi’n dod â nhw, cadwch eich ci ar dennyn byr, a chadwch bellter diogel, sef o leiaf 50 metr oddi wrth forloi. 

O’r môr 

  • Peidiwch â glanio ar draethau lle mae morloi’n geni rhai bach neu’n bresennol.
  • Yn aml, bydd oedolion benyw yn gorffwys yn y môr yn agos at y fan lle mae eu rhai bach ar y lan; peidiwch â dod rhyngddynt.
  • Cadwch gyflymder cychod yn isel ac yn dawel a sicrhewch mai un cwch ar y tro sy’n gwylio’r morloi. Symudwch i ffwrdd os sylwch ar arwyddion o darfu.
  • Cadwch o leiaf 50 metr i ffwrdd, oni bai eu bod yn dod tuag at eich cwch. 
  • Gadewch le i’r morloi ddianc bob amser a pheidiwch â’u cau i mewn.
  • Er diogelwch i chi a iechyd y morloi, peidiwch â nofio gyda’r morloi na chyffwrdd â nhw na’u bwydo.

Arwyddion o darfu

Mae tarfu ar y morloi yn amharu ar eu gorffwys, yn peri straen ac yn gwastraffu egni a gall hynny arwain at anafiadau ac mae’n rhoi bywydau’r morloi a’u rhai bychain mewn perygl. 
Cadwch lygad am yr arwyddion hyn yn iaith y corff:

Pennau’n codi

Bydd morloi yn codi eu pennau ac yn gwylio eich lleoliad a’ch symudiadau pan fyddan nhw’n teimlo dan fygythiad. 

Symudiad

Pan fydd morloi’n bryderus, byddan nhw’n eistedd i fyny, gan symud o fod yn gorwedd ar eu hochr i’w stumog.

Cilio

Bydd y morloi’n cilio’n gyflym i’r dŵr er mwyn dianc.

Pryderus ynglŷn â morlo?

  • Os bydd un bach ar ei ben ei hun ar draeth, mae’n golygu bod ei fam yn y dŵr gerllaw fel arfer. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw draw fel y gall hi ddychwelyd at yr un bach pan fydd angen. Gall y rhai bach wylofain hefyd, a gall swnio fel petaen nhw mewn loes hyd yn oed pan fydd y morlo bach yn iawn.
  • Os byddwch chi’n gweld morlo sydd mewn trallod, ffoniwch yr RSPCA ar 0300 1234 999 neu yn Sir Benfro, ffoniwch Welsh Marine Life Rescue ar 07970 285086. Peidiwch â mynd at y morlo.

Cafodd y canllawiau hyn eu creu mewn cydweithrediad agos â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac maen nhw’n dilyn Cod Ymarfer Morol Sir Benfro ar gyfer Morloi.  

Group of grey seals on the Farne Islands, Northumberland
Morloi llwyd | © National Trust Images/Chris Lacey

Ble gallwch chi weld morloi

Mae tua hanner poblogaeth y byd o forloi llwydion yn magu ar arfordir y Deyrnas Unedig ac mae ychydig filoedd o’r rhain yn bresennol drwy gydol y flwyddyn yng Ngorllewin Cymru.

Ymhlith rhai o’r llefydd gorau i gael gweld morloi llwydion o bennau’r clogwyni, mae Martin’s Haven, Penrhyn Tyddewi, Abereiddi i Abermawr, Pen Caer, ar hyd yr arfordir hyd at Aberteifi ac ymhellach i fyny tuag at Mwnt a Cheinewydd. 

Ffeithiau am y morlo llwyd 

  • Enw gwyddonol: Halichoerus grypus sy’n golygu ‘mochyn môr trwyngrwm’ 
  • Hanes cryno: Y gred yw bod morloi wedi esblygu o hynafiaid tebyg i ddyfrgwn ar lannau Gogledd yr Iwerydd tua 15 miliwn o flynyddoedd yn ôl 
  • Maint: Gall oedolion dyfu hyd at 2.5m o hyd a phwyso hyd at 250kg. Mae gan y gwrywod drwynau hirach, ac maen nhw’n fwy ac yn dywyllach na’r benywod
  • Bygythiadau i forloi: Cael eu haflonyddu, mynd yn sownd mewn offer pysgota a chael eu herlid. Mae tua 40 y cant o forloi llwydion y byd yn magu yn y Deyrnas Unedig.
Golygfa eang o Draeth Marloes, Sir Benfro. Mae nifer o bobl ar y tywod euraidd, ac ar ymyl y traeth mae clogwyni geirwon yn codi.

Darganfyddwch fwy am Draeth a Phenrhyn Marloes

Dysgwch sut i gyrraedd Traeth a Phenrhyn Marloes, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Where to go seal watching 

Find the best places across England, Wales and Northern Ireland to spot seals in the wild. Whether you're on a coastal walk or boat trip, there are plenty of places to see both grey and common seals as they come ashore to give birth.

Common seals and sandwich terns at Blakeney Point, Norfolk

Natur a bywyd gwyllt i’w gweld yng Nghymru 

Dewch ar antur natur yng Nghymru a darganfod pob math o fywyd gwyllt, o ddyfrgwn enwog Llynnoedd Bosherston yn Sir Benfro i wiwerod coch Plas Newydd yng Ngogledd Cymru.

Llo bach morlo llwyd ar draeth cerigos yn Treginnis, Sir Benfro

Arfordiroedd a thraethau Sir Benfro 

Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ar ymweliad â Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru, o ddiwrnod ar y traeth yn Ne Aber Llydan i heicio o gwmpas Arfordir Solfach, neu fynd ar gwch i Ynys Sgomer.

Yr olygfa dros Freshwater West a Fferm Gupton, Sir Benfro

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru