Gardd Harrison Luke Jerram
Roedd Gardd Harrison gan yr artist amlwg Luke Jerram yn osodiad teithiol a ysbrydolwyd gan y gwneuthurwr clociau John Harrison a fu’n ymdrechu am ddegawdau i wneud mordwyo ar y môr yn fwy diogel. Llwyddodd i wneud hyn trwy greu’r cloc cywiraf y mae’r byd erioed wedi ei weld.
Heddiw, mae clociau bron ym mhob cartref, ac er ein bod bellach yn dibynnu ar dechnoleg newydd, maent yn dal i chwarae rhan bwysig yn ein bywydau bob dydd.
Ar gyfer y gosodiad yng Nghastell Penrhyn, gosodwyd y clociau ar y trydydd llawr adfeiliedig yn y Tŵr a’u gosod mewn grwpiau i greu patrymau a siapiau ar hyd yr arwynebau, y cyfan wedi eu gosod ar amseroedd gwahanol fel bod yr ymwelwyr yn clywed hyfrydwch cerddorol y tician, clician a chanu trwy’r dydd.
Sut y tyfodd yr ardd
Teithiodd Gardd Harrison o gwmpas y wlad gan ymweld ag eiddo arall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan gynnwys Priordy Nostell, Castell Drogo a Neuadd Gunby gan gasglu mwy o glociau ac oriorau ar y ffordd. Cyn iddi gyrraedd Castell Penrhyn, rhoddodd pobl o’r gymuned leol rai o’u clociau ac oriorau eu hunain at y gosodiad. Gyda’r rhoddion yma, amcangyfrifwyd bod 5,000 o glociau’n tician yn cael eu harddangos yng Nghastell Penrhyn. Yn y pen draw rhoddwyd y gosodiad ar werth mewn ocsiwn i godi arian er mwyn i gerflun o John Harrison gael ei godi yn ei dref enedigol sef Barton upon Humber.
Merched Chwarel
Yn ystod gaeaf 2019, cymerodd grŵp o artistiaid benywaidd weithdy’r Stablau drosodd, nhw sy’n ffurfio Merched Chwarel.
Mae Marged Pendrell, Jŵls Williams, Lisa Hudson a Lindsey Colbourne ynghyd â’u Curadur, Jill Piercy yn ffurfio grŵp o artistiaid lleol y mae eu gwaith yn cael ei ysbrydoli gan ran merched yn y cymunedau chwarelyddol yng Ngogledd Cymru.
Gan ddefnyddio technegau gweithio llechi traddodiadol ac arbrofol fe wnaethant archwilio nodweddion annisgwyl y llechi eu hunain trwy ddefnyddio prosesau domestig, tecstilau a chymdeithasegol i ymchwilio i ymateb merched i’r dirwedd a gwaddol y chwareli. Roedd eu gwaith yn cynnig cyswllt â rhaglen ymgysylltu gymunedol Storiel ym Mangor a’r Cais am Safle Treftadaeth y Byd.