Skip to content

Parkrun yng Nghastell Penrhyn

A group of runners running through the long grass in a wooded area
Cymrwch ran yn y Parkrun 5K yng Nghastell Penrhyn, Gwynedd | © National Trust Images / John Millar

Os ydych yn dychwelyd at ffitrwydd ar ôl seibiant, neu am roi cynnig ar rywbeth newydd, gallai’r Parkrun 5K yng Nghastell Penrhyn fod yr union beth i chi. Mwynhewch redeg mewn amgylchedd rhyfeddol.

Parkrun yng Nghastell Penrhyn

Mae Castell Penrhyn yn gartref i parkrun am 9am ar y dot, bob bore Sadwrn. Mae’r Parkrun yn gyfle gwych i fwynhau golygfeydd o Eryri a’r dirwedd o’ch amgylch wrth redeg y llwybr 5K trwy’r tiroedd. Mae hefyd yn gyfle i gyfarfod pobl newydd a chael hwyl yn yr awyr agored.

Parkrun i bawb

Mae pob parkrun yn rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddo, ac mae croeso i bawb beth bynnag yw ei oed a’i allu (rhaid i rai dan 11 oed redeg gydag oedolyn cyfrifol). Gallwch redeg, jogio neu gerdded y cwrs amrywiol 5K ar eich cyflymder eich hun; rhedeg ar eich pen eich hun, gyda ffrind neu gyda’ch teulu. Mae croeso i gŵn sydd wedi eu hyfforddi’n dda cyn belled â’u bod yn cael eu cadw ar dennyn.

Cofrestrwch ar-lein

Mae Parkrun yn gofyn i chi gofrestru ar-lein ymlaen llaw yma ac yna gallwch gymryd rhan mewn unrhyw parkrun pryd bynnag y dymunwch. Gallwch olrhain eich amser o wythnos i wythnos a gosod eich nodau personol eich hun. Cofiwch ddod â chopi y gellir ei sganio o’ch cod bar i chi gael rhedeg.

Trefnir Parkrun gan wirfoddolwyr, sy’n gwneud gwaith rhyfeddol ac yn chwilio bob amser am ragor o bobl i sicrhau bod pob wythnos yn llwyddiant. Gallwch gael gwybodaeth am sut i helpu ar eu gwefan uchod.

Participant running during the Night Run event in the park at Nostell Priory and Parkland, Yorkshire
Gwella eich ffitrwydd yn yr awyr agored yng Nghastell Penrhyn, Gwynedd | © National Trust Images / John Millar

Y llwybr

Mae’r Parkrun yng Nghastell Penrhyn yn cynnwys dau gylch mawr a dau gylch llai o gwmpas y castell. Mae’r cylch mawr yn mynd i lawr y brif ffordd at y castell ac yna’n troi i’r dde ar hyd llwybr sy’n rhedeg at y wal furiog. Oddi yno, arhoswch ar y llwybr sy’n rhedeg i fyny heibio’r stabal brics ac ymlaen at brif fynedfa’r castell.

Mae’r cylch bach yn troi i’r dde wrth brif fynedfa’r castell, i lawr heibio’r ardd furiog ac yna i fyny heibio’r stabal brics ac ymlaen at brif fynedfa’r castell a’r llinell derfyn. Rhedir y ddau gylch ddwywaith.

'Mae Parkrun yn y Penrhyn yn cynnig rhywbeth i bawb: teuluoedd, cerddwyr, jogwyr a rhedwyr arferol. Rydych yn mynd ar eich cyflymder eich hun ac yn herio chi eich hun yn unig – mae’n debyg i’ch ras 5K breifat eich hun. Mae’n ddigwyddiad cyfeillgar a chroesawus iawn. Ac mae am ddim!'

- Cath H, sy’n rhedeg y parkrun yn gyson

Ail-lenwi yn y caffi

Ar ôl rhedeg gallwch eich gwobrwyo eich hun yn y caffi a mwynhau coffi a chacen neu damaid o frecwast i’ch cynnal.

Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud

Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

parkrun

parkrun Limited yw’r cwmni sy’n gyfrifol am ddarparu parkrun yn y DU.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwyr yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yng Nghastell Penrhyn 

Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.

A close up of a scone covered in cream and jam
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell Penrhyn 

Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.

Strwythur Belvedere yn edrych dros yr Ardd Orsiog yng Nghastell Penrhyn sy'n cynnwys y Gunnera Enfawr a rhywfaint o flodau Fuschia
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn 

Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell Penrhyn 

Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.