Pethau i’w gwybod cyn cyrraedd Plas Newydd a’r Ardd

Neidio i
On this page you’ll find general information to help plan your visit. If you have any additional questions, please don’t hesitate to contact us.
Mynediad i’r tŷ
Yn ystod y prif dymor, rhwng 24 Chwefror a 2 Tachwedd, mae’r tŷ ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm. Mae mynediad olaf i’r tŷ am 3:30pm.
Wrth gyrraedd y safle, ewch i’r Canolfan Ymwelwyr yn y prif faes parcio i sganio eich cardiau aelodaeth neu i brynu tocynnau. Mae taith o 10 munud ar droed o’r fan yma tuag at fynediad y tŷ.
Hygyrchedd
Ar y safle, mae gennym cadeiriau olwyn â llaw a gwasanaeth bygi yn ddibynnol ar wirfoddolwr gallwch ddefnyddio wrth ymweld.
Mae llwybr cylchol hygyrch o amgylch yr ardd gallwch weld ar y map eiddo sy’n dangos llawer o’r golygfeydd.
Mae ramp tuag at brif fynedfa’r tŷ ac mae llwybrau o amgylch y tŷ yn graean gwastad cadarn. Os yn well ar eich cyfer chi, gofynnwch i aelod o staff allai fod o gymorth i chi.
Mae gennym ddolenni sain wrth ein tiliau yn ogystal â rhai cludadwy y gellir eu defnyddio.
Yn y Ganolfan Groeso, mae gennym becynnau synhwyrol gallwch fenthyg wrth ymweld sy’n cynnwys, amddiffynwyr clust, teganau ‘fidget’ ac offer synhwyraidd eraill.
Mae ardaloedd distaw ar ein tiroedd hefyd, gan gynnwyd y Llwybr Hir a Coed Banc yr Eglwys gall ein staff uwch oleuo'r rhain i chi wrth i chi gyrraedd.
Rydym yn anelu at allu croesawu pawb ym Mhlas Newydd, felly peidiwch ag oedi os ydych chi eisiau cysylltu â ni cyn cyrraedd, neu wrth ofyn am unrhyw gymorth wrth ymweld.
Ymweld â’r tŷ ym Mhlas Newydd
Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.

Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
