Madfabulous a Phlas Newydd

Neidio i
Wedi'i hysbrydoli gan fywyd Henry Cyril Paget, 5ed Ardalydd Ynys Môn, mae'r ffilm Madfabulous yn ailddychymyg ffantastig o'i fywyd, gyda golygfeydd wedi'u ffilmio ym Mhlas Newydd, ei gartref teuluol ar Ynys Môn.
Gyda Callum Scott Howells yn serennu fel Henry Cyril Paget, mae'r ffilm yn dwyn ynghyd gast eithriadol, gan gynnwys Rupert Everett, Ruby Stokes a Tom Rhys Harries. Wedi'i chyfarwyddo gan Celyn Jones ac wedi'i hysgrifennu gan Lisa Baker, mae'n adrodd stori o hudolusrwydd, gwrthryfel a hunanfynegiant.

Lleoliadau ffilmio
Ffilmiwyd Madfabulous Plas Newydd a’r Ardd ym mis Medi 2024, gyda golygfeydd allanol wedi'u ffilmio ar draws y lawntiau, y tŷ ac Afon Menai, yn ogystal ag wrth y cei, y terasau a'r lawnt croquet.
Cafodd y ffilmio mewnol ei gynnal yn y Porth Gothig a'r Neuadd Gothig, ynghyd â lleoliadau eraill yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Castell a Gardd Penrhyn.
Hanes y 5ed Ardalydd
Ganwyd Henry Cyril Paget ym 1875, ac ef oedd unig fab y 4ydd Ardalydd a Blanche Mary Boyd. Bu farw mam Henry pan oedd yn ddwyflwydd oed. Daeth i Ynys Môn am y tro cyntaf pan oedd yn wyth oed. Ar ôl marwolaeth ei dad ym mis Tachwedd 1898, daeth Henry yn 5ed Ardalydd, gan etifeddu ystadau’r teulu yn Beaudesert yn Swydd Stafford ac ym Mhlas Newydd. Roedd ganddo incwm blynyddol o £110,000 – sef oddeutu £18 miliwn heddiw
Rhwng 1898 a 1904, llwyddodd Henry Cyril i greu lle yn llawn llawenydd a chreadigrwydd ar Ynys Môn. Ailenwodd Blas Newydd, gan ei alw’n ‘Anglesey Castle’, a chreodd gartref lle gallai fod yn driw iddo’i hun. Ac yntau’n gwrthod cydymffurfio â’r ddelwedd ddisgwyliedig o uchelwr, bu theatredd yn rhan fawr o’i fywyd. Yn ystod ei gyfnod cymharol fyr fel Ardalydd, cafodd effaith fawr ar yr adeilad ac ar fywydau’r gymuned leol o’i amgylch.
Nid oedd modd i Henry gynnal ei ffordd o fyw na pharhau i wario cymaint o arian, ond anwybyddodd y rhybuddion. Parhaodd i wario, ac yn y pen draw datganwyd ei fod yn fethdalwr. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid iddo werthu popeth a oedd yn ei feddiant i dalu ei ddyledion.
Ar ôl i’r problemau ariannol ddechrau, gadawodd Henry Cyril Blas Newydd, ac ni ddychwelodd. Bu farw ym mis Mawrth 1905, yn union cyn ei ben-blwydd yn 30 oed.
‘Gwisgo’n Ffansi’- gwisgoedd ar ddangos
Dathlwch ryddhau’r ffilm Madfabulous ym Mhlas Newydd gydag arddangosfa yn cynnwys pum gwisg o’r ffilm a dysgwch fwy am hunaniaeth yr Ardalydd drwy ddillad, gwisgoedd theatrig a gwisg ffansi.
Mae’r gwisgoedd sy’n rhan o’r arddangosfa’n cynnwys gwisg enwog Dawns y Pili Pala, a ysbrydolwyd gan ffynonellau hanesyddol, atgynhyrchiad o’i wisg theatr streipïog, a’r wisg ffansi ddu-a-gwyn eiconig. Cafodd y gwisgoedd sy’n weddill eu creu’n arbennig ar gyfer y ffilm – sef siwt binc drawiadol gyda het silc a ffrog borffor brydferth.

Cwestiynau cyffredinol
You might also be interested in
Y 5ed Ardalydd a Phlas Newydd
Darganfyddwch stori hudol y 5ed Ardalydd Môn, Henry Cyril Paget, a oedd wrth ei fodd yn perfformio ac yn dawnsio, cyn nid oedd modd iddo fo gynnal ei ffordd o fyw yn bellach.

Plas Newydd a’r Ardd
Ar Ynys Môn, mae Plas Newydd yn dŷ a gardd restredig Gradd 1 wedi'i leoli ar lannau’r Fenai.

Lleoliadau ffilm a theledu yng Nghymru
Dysgwch am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau a sioeau teledu, gan gynnwys Harry Potter, Robin Hood, a Snow White and the Huntsman.
