Llwybr rhedeg Taclo10 yn Aberdaron

Neidio i
- Cwestiynau Cyffredin
- O ble mae’r llwybr yn dechrau?
- Sut fath o lwybr ydyw?
- Oes gennych chi fap o’r llwybr?
- Ar gyfer pwy mae’r llwybr yn addas?
- A fydd yna arwyddion i ddangos y ffordd?
- A oes lle i barcio?
- A fydd yna swyddogion ar y dechrau a rhywun y tu ôl i’r rhedwyr?
- Ble mae’r cyfleusterau a beth ydynt?
- Beth i’w wisgo a beth i ddod gyda chi
- Beth sydd angen i mi ei wneud pan rwy’n cyrraedd?
- Pa amser ddylwn i gyrraedd?
- A fyddwch yn cael eich amseru wrth redeg?
- Faint o bobl sy’n gallu cymryd rhan?
- Beth sy’n digwydd os oes tywydd gwael?
- Beth yw’r isafswm oedran?
- Ydw i’n gallu dod â fy nghi efo fi?
- Ydw i’n gallu rhedeg gyda bygi?
- Ydw i’n gallu gwirfoddoli?
- Â phwy ddyliwn i gysylltu am ragor o wybodaeth?
- You might also be interested in
Ymunwch â ni ar y pedwerydd Sul bob mis yn 2026 (ac eithrio mis Mai, Gorffennaf ac Awst) i redeg 10k o Aberdaron i Borth Meudwy. Briffio yn cychwyn am 9am. Does dim angen archebu lle ymlaen llaw.
Mae Taclo10 yn Aberdaron yn golygu rhedeg o amgylch ein llwybr aml ddefnydd ar hyd llwybr yr arfordir a ffordd gyhoeddus - cwblhewch hyn ddwywaith a byddwch wedi rhedeg 10k! Neu rhedwch un waith yn unig o amgylch y llwybr 5k a rhedeg pellter hirach wrth i chi deimlo’n fwy hyderus. Does dim pwysau arnoch o gwbl i gwblhau’r 10km llawn, y cyfan sydd angen ei wneud yw anadlu popeth sydd o’ch cwmpas ynghanol byd natur a mwynhau’r golygfeydd wrth fynd heibio!
Cwestiynau Cyffredin
O ble mae’r llwybr yn dechrau?
Mae’r llwybyr yn Aberdaron yn dechrau ac yn gorffen ym maes parcio Porth y Swnt, o flaen mynedfa canolfan ymwelwyr Porth y Swnt.
Sut fath o lwybr ydyw?
O faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Aberdaron mae’r llwybr yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru ar hyd y penrhyn i Borth Meudwy. Mae grisiau serth yma felly byddwch yn ofalus! Mwynhewch y golygfeydd trawiadol ar draws y bae tuag at ynysoedd y Gwylanod wrth i chi redeg ar hyd rhan o Lwybr Cadfan, llwybr y pererinion sy’n dechrau yn Nhywyn ac yn mynd yn ei flaen hyd at ben eithaf y penrhyn.
Mae’r llwybr rhedeg yn parhau hyd nes cyrraedd Porth Meudwy - bu’r cildraeth hwn ar ben eithaf Penrhyn Llŷn unwaith yn fan cychwyn i bererinion oedd yn teithio i Ynys Enlli. Heddiw, dyma’r man lle gallwch groesi drosodd i Ynys Enlli ac mae’n borthladd bychan ar gyfer y llond dwrn o bysgotwyr sy’n ennill bywoliaeth yn dal crancod a chimychiaid yn y dyfroedd o amgylch Aberdaron. Cymerwch ofal yma a chadwch lygad am gychod yn cael eu tynnu ar drelar a phobl yn ymlwybro tuag at y tripiau cwch i Ynys Enlli.
Trowch i’r dde allan o Borth Meudwy a dilynwch y llwybr hyd nes y byddwch yn cyrraedd y ffordd. Trowch i’r dde heibio Cwrt, safle ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dilynwch y ffordd am hanner milltir hyd nes i chi ddod at gyffordd. Trowch i’r dde a rhedeg nes cyrraedd y cyffordd nesaf, yma, Trowch i’r chwith yma a dilynwch y ffordd am 600 metr i’r groesffordd - trowch i’r dde gan gymryd y ffordd tuag at Aberdaron, a phan fyddwch yn cyrraedd y gyffordd nesaf trowch i’r chwith i lawr y bryn yn ôl tuag at y ganolfan ymwelwyr lle gallwch orffen, neu os ydych yn teimlo’n ddewr, ewch i’r afael â’r grisiau am yr ail dro er mwyn cwblhau’r ail gylched a’r 10km llawn.
Oes gennych chi fap o’r llwybr?

Ar gyfer pwy mae’r llwybr yn addas?
Bydd y llwybr rhedeg yn 10k dros dirwedd gymysg, gan gynnwys llwybr aml-ddefnydd, llawr anwastad, graean rhydd, grisiau a ffordd. Rydym wedi graddio’r llwybr yn las ar y canllaw llwybr rhedeg oherwydd y dirwedd anwastad a’r pellter o hyb y digwyddiad. Bydd rhai lefelau ffitrwydd elfennol yn angenrheidiol, ac mae’n bosib y byddwch angen gosod eich cyflymder rhedeg eich hun yn ôl eich gallu er mwyn cwblhau’r llwybr. Mae'r llwybr yn mynd ar hyd llwybrau arfordirol lle mae signal ffôn symudol yn aml yn wael ac yn bell o hyb y digwyddiad.
Rydym yn croesawu unrhywun i roi cynnig ar Taclo10 yn Aberdaron, ond byddwch yn ymwybodol nad digwyddiad tebyg i Parkrun yw hwn. Mae’r llwybr yn cynnwys rhedeg ar hyd llwybrau troed arfordirol cul a allai fod serth gyda grisiau serth mewn rhai llefydd. Byddwch yn barod am gryn dipyn o i fyny ac i lawr ar hyd y llwybr, sy’n mynd heibio ymylon clogwyn sydd heb eu ffensio.
A fydd yna arwyddion i ddangos y ffordd?
Mae’r holl lwybr wedi’i arwyddo gyda disgiau saeth pinc Taclo10. Bydd yr arwyddion yma sy’n dangos y ffordd yn aros i fyny fel y gallwch ddod i redeg neu gerdded llwybr Taclo10 Aberdaron unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn.
A oes lle i barcio?
Mae’r llwybr yn dechrau o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Porth y Swnt yn Aberdaron SH172264 – What3words; ///town.carpets.niece
Mae parcio am ddim i aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, £5 i rai nad ydynt yn aelodau a gallwch dalu gyda cherdyn, arian parod neu ar yr ap JustPark.
Dyw’r maes parcio ddim yn fawr iawn a byddem yn annog teithio gwyrdd, ac yn gofyn i chi rannu lifft pryd bynnag mae hynny’n bosib neu beth am herio eich hun hyd yn oed yn fwy a’i wneud yn ‘duathon’? Gallech seiclo i’r maes parcio, lle mae raciau ar gyfer beiciau ar gael hefyd.
A fydd yna swyddogion ar y dechrau a rhywun y tu ôl i’r rhedwyr?
Bydd rhywun wastad y tu ôl i’r rhedwyr gyda ffôn symudol a laniard argyfwng er mwyn cysylltu gyda hyb y digwyddiad. Bydd yna hefyd swyddogion i’ch cefnogi ar y ffordd a helpu i’ch cyfeirio at yr amrywiol bwyntiau yn dibynnu ar argaeledd gwirfoddolwyr.
Bydd swyddogion a pherson cyfrifol y tu ôl i’r rhedwyr yn gwisgo siaced lachar a laniard Taclo10.
Ble mae’r cyfleusterau a beth ydynt?
Mae siop Spar gerllaw man cychwyn a gorffen y ras, ac mae yna hefyd ddau gaffi, becws a thafarndai yn y pentref. Mae 4 toiled ar gael, 2 y tu allan i’r ganolfan ymwelwyr a 2 y tu mewn iddi. Mae yna bwynt ail-lenwi dŵr yn y ganolfan ymwelwyr. Does dim mwy o bwyntiau ail-lenwi dŵr ar y llwybr ei hun, felly rydym yn argymell y dylai rhedwyr ddod â digon o ddŵr gyda nhw i’w cynnal ar gyfer yr holl amser y byddant yn rhedeg.
Beth i’w wisgo a beth i ddod gyda chi
Rydym yn argymell esgidiau rhedeg ‘llwybr’ neu esgidiau rhedeg da yn ogystal â dillad llachar/adlewyrchol sy’n addas ar gyfer y tywydd. Os yw amseru’n bwysig i chi dewch â’ch dyfais amseru eich hun a ffôn i gymryd llun o fap y llwybr yn ogystal â photel o ddŵr.
Beth sydd angen i mi ei wneud pan rwy’n cyrraedd?
Rhaid i redwyr adrodd wrth y bwrdd cofrestru (wrth ymyl lle mae’r llwybr yn dechrau) er mwyn rhoi eu henw.
Bydd yna hefyd fwrdd gwybodaeth am y llwybr rhedeg gyda map o’r llwybr er mwyn i redwyr gymryd llun ohono a darluniau wedi’u labelu o bwyntiau pwysig ar y llwybr er mwyn i redwyr ymgyfarwyddo â hwy. Bydd tîm Taclo10 yma yn gwisgo siaced lachar a laniard yn barod i ateb unrhyw gwestiynau eraill.
Bydd rhedwyr wedyn yn ymgynnull ger dechrau’r man rhedeg ar gyfer briffio 15 munud cyn y digwyddiad.
Cofiwch lofnodi eto unwaith y byddwch wedi cwblhau eich rhediad.
Pa amser ddylwn i gyrraedd?
Mae cofrestru’n agor o 9am, felly peidiwch â chyrraedd yn gynt nag 8.30am er mwyn rhoi amser i ni gael pethau’n barod ar eich cyfer.
A fyddwch yn cael eich amseru wrth redeg?
Ni fydd y tîm Taclo10 yn amseru’r digwyddiad felly dewch â’ch offer amser eich hun os ydych chi eisiau cofnodi eich amser rhedeg.
Nid ras mohono felly does dim pwysau arnoch chi i orffen mewn amser penodol, gallwch redeg wrth eich pwysau.
Faint o bobl sy’n gallu cymryd rhan?
Mae yna gyfyngiad o fwyafswm o 50 o redwyr ar gyfer Taclo10. Sylwch, os y cyrhaeddir y mwyafswm hwn yna mae’n bosib y byddwch yn cael eich troi i ffwrdd ar y diwrnod. Byddem wrth ein bodd pe bai pawb yn gallu rhedeg ond rydym wedi penderfynu cadw at y nifer yma oherwydd capasiti’r maes parcio, cadwraeth y llwybr a chapasiti’r staff Taclo10 ar hyn o bryd.
Cadwch mewn cof y bydd arwyddion i nodi’r ffordd yn aros yn eu lle felly gallwch ddod i redeg y llwybr eich hun ar unrhyw adeg arall.
Beth sy’n digwydd os oes tywydd gwael?
Os oes tywydd gwael, megis gwyntoedd cryfion, a rhew/eira/glaw eithriadol gall Taclo10 gael ei ganslo ar ddisgresiwn rheolwr ar ddyletswydd Taclo10.
Byddwn yn ceisio rhoi cymaint o rybudd ymlaen llaw ag sy’n bosib. Os yw’n debygol bod angen canslo yna byddwn yn postio hysbysiad yn gofyn i redwyr wirio tudalen hafan gwefan Porth y Swnt ar fore Taclo10.
Bydd hysbysiad baner felen ar frig tudalen hafan Porth y Swnt os bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo.
Beth yw’r isafswm oedran?
Byddem wrth ein bodd yn gweld plant a theuluoedd gyda’i gilydd yn mwynhau rhedeg anghystadleuol. Rydym yn argymell y dylai unrhyw un sy’n rhedeg yn ein digwyddiad Taclo10 fod yn 14 oed neu’n hŷn. Fel rhiant neu warcheidwad gallwch ddefnyddio eich crebwyll eich hun ynghylch a yw eich plentyn yn addas ac yn abl i gymryd rhan yn rhediad hamddenol Taclo10.
Mae yna groesfannau ar y ffordd ar Taclo10 Aberdaron, mae rhan fechan o’r llwybr yn rhannu ffordd a ddefnyddir gan gymuned pysgota Porth Meudwy. Mae’r llwybr yn mentro ar hyd llwybrau arfordirol serth, ac yn aml mae’r signal ffôn symudol yn wael ac mae’n bell oddi wrth hyb y digwyddiad. Rydym wedi ei raddio’n las ar y canllaw llwybr redeg. Defnyddiwch hyn os gwelwch yn dda i fod yn sail i’ch penderfyniad ynghylch rhedeg gyda’ch plentyn.
Cofiwch gadw llygad arnynt, gan fod gyda hwy a pharhau’n gyfrifol amdanynt bob amser drwy gydol y digwyddiad. Byddwn yn eich atgoffa ynghylch pwysigrwydd hyn ar dudalennau gwe’r eiddo ac yn ystod y briffio cyn dechrau rhedeg.
Ydw i’n gallu dod â fy nghi efo fi?
Croesewir cŵn ar dennyn byr sy’n cael ei ddal â llaw ac ar hyd sefydlog. Gwnewch yn siŵr bod y tennyn a’r harnais rydych yn ei ddewis yn sicrhau diogelwch eich ci, rhedwyr eraill a defnyddwyr eraill. Dylai rhai sy’n rhedeg gyda chŵn fod yng nghefn y dorf ar gyfer dechrau’r digwyddiad.
Ydw i’n gallu rhedeg gyda bygi?
Nid ydym yn argymell Taclo10 Aberdaron ar gyfer bygis oddi ar y ffordd oherwydd ei fod mor serth a bod y dirwedd, ar adegau, yn gul ac yn cynnwys grisiau serth.
Ydw i’n gallu gwirfoddoli?
Gallwch ymuno gyda’n tîm drwy ein helpu ni i ddarparu’r rhediad misol hwn ar fore Sul. Mae rolau’n cynnwys popeth o fod yn swyddog sy’n cyfeirio pobl ar y llwybr, cwblhau archwiliadau misol o’r llwybr, i gofrestru rhedwyr wrth iddynt gyrraedd. Siaradwch gyda ni wedi i chi gyrraedd os hoffech chi wirfoddoli ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, neu cadwch mewn cysylltiad gyda’r manylion isod.
 phwy ddyliwn i gysylltu am ragor o wybodaeth?
porthyswnt@nationaltrust.org.uk
01758 703810
You might also be interested in
Taith arfordirol Porth Meudwy
Taith arfordirol gylchol ar Benrhyn Llŷn o Aberdaron ar hyd y pentir i harbwr pysgota bychan Porth Meudwy.

Porth y Swnt
Dewch i archwilio, dysgu, myfyrio a mwynhau'r amgylchedd naturiol.

Trust10 trail runs
Fancy soaking up the atmosphere of the beautiful places in our care while getting some exercise? Find out more about our free monthly 10k Trust10 trail runs.
