
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Harbwr bach hardd o’r 12fed ganrif a fu unwaith yn borthladd masnachu diwydiannol ar ben de-orllewinol Penrhyn Tyddewi.
Porthclais, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6RR
Asset | Opening time |
---|---|
Porthclais | Dawn - Dusk |
Mae amseroedd agor Caban Porthclais yn amrywio. Dilynwch nhw ar Facebook neu ffoniwch am y wybodaeth ddiweddaraf
Yn cael ei redeg yn lleol, nid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae maes parcio bach sy'n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr harbwr.
Parcio bathodyn glas a thoiledau wedi'u haddasu ar gael yn y maes parcio. Llwybr a ffordd o'r maes parcio i'r ciosg ac ymlaen i lefel yr harbwr. Rhai rhannau anwastad mewn mannau. Mynediad i lwybr yr arfordir a llwybrau serth gyda grisiau. Anaddas ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio neu os ydych yn ansefydlog ar eich traed.
Toiled wedi'i addasu gyda rheiliau cydio ym maes parcio Harbwr Porthclais yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn hygyrch gydag allwedd Radar.
Mae ein lleoedd gwledig ac arfordirol yn Sir Benfro wedi'u graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i Sir Benfro. Dewch i ddianc i ymyl gorllewinol Cymru ac archwiliwch dirwedd arfordirol ddramatig gyda'ch cyfaill pedair coes wrth eich ochr.
Harbwr bach ym mhen de orllewinol Penrhyn Tyddewi a adeiladwyd yn y 12fed ganrif ac y cyfeirir ato yn y Mabinogion.
Tair odyn galch bob ochr i'r harbwr yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif.
Caban bach mewn cyn ystafell bwmpio o frics coch ger y maes parcio gyda byrbrydau ysgafn a lluniaeth yn cael ei redeg gan drigolion lleol.
Datgelwch dreftadaeth ddiwydiannol yr harbwr bach prydferth, rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr a mwynhewch weithgareddau awyr agored ar dir sych ac ar y dŵr.
Taith gerdded 6 milltir o amgylch pentir Treginnis yn Sir Benfro sy’n cynnwys rhai o ffurfiannau craig hynaf Cymru, caer o’r oes haearn, mwynglawdd copr o’r 19eg ganrif a harbwr hanesyddol Porthclais.
Nestled in North Pembrokeshire countryside, this restored cosy cottage has bags of rustic charm.
If sea views and coastal walks are at the top of your list, try this Pembrokeshire farmhouse.
A more than comfortable farmhouse complete with a snug room and views of the Cleddau River.
An apartment in the Cleddau woodlands on the Little Milford estate, close to Haverfordwest.
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Adeiladwyd yr harbwr bach tlws hwn yn y 12fed ganrif ac roedd yn borthladd prysur gyda llongau yn mewnforio ac allforio nwyddau ar gyfer cymunedau arfordirol Sir Benfro. Mae’n bosibl bod yr hen wal harbwr gyfan wedi’i hadeiladu yn y cyfnod Rhufeinig ond y cofnod cyntaf o fasnachu drwy’r porthladd yw 1385. Mae’r 3 odyn galch yn dal i fod bob ochr i’r harbwr ac fe’u defnyddiwyd i dorri’r calchfaen yn bowdr i’w ddefnyddio gan ffermwyr lleol ar y tir. Sonnir am Borthclais yn y Mabinogion, sef casgliad o chwedlau canoloesol Cymreig yn seiliedig ar fytholeg a llên gwerin.
Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu a chefnogi ein ceidwaid cefn gwlad gyda’r ystod o agweddau ar reoli a gwarchod ein hamgylchiadau naturiol gwerthfawr dan ein gofal, sy’n golygu bod digon o rolau diddorol ichi eu hystyried. Gwirfoddoli wrth yr arfordir ac yng nghefn gwlad.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.