Skip to content
Cerddwyr ar lwybr yr arfordir yn Nhreginnis yn Sir Benfro, Cymru
Cerddwyr ar lwybr yr arfordir yn Nhreginnis yn Sir Benfro, Cymru | © National Trust Images/John Miller
Wales

Taith Treginnis o Borthclais

Mae’r llwybr 6 milltir hwn o gwmpas pentiroedd serth, creigiog Treginnis yn cynnig golygfeydd gwych o ynysoedd Sgomer a Dewi. Fe welwch rai o greigiau hynaf Cymru – a grëwyd dros 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl – ac ymweld â chaer o oes yr haearn ac adfeilion gwaith copr o’r 19eg ganrif.

Cyfanswm y camau: 8

Cyfanswm y camau: 8

Man cychwyn

Harbwr Porth Clais, cyfeirnod grid: SM741242

Cam 1

Trowch i’r dde wrth adael y maes parcio, a cherdded i fyny’r ffordd, heibio perthi drain duon tal.

Cam 2

Wrth y groesffordd, trowch i’r chwith (arwydd Treginnis). Mae brigiadau igneaidd Carn Llidi, Carn Trefeiddan a Phen Beri yn codi’n amlwg uwchben y dirwedd fflat. Wrth i chi fynd heibio Treginnis Lodge, daw Ynys Sgomer i’r golwg tua’r de ar draws Bae San Ffraid.

Cam 3

Wrth yr arwydd ar gyfer fferm Pencnwc, trowch i’r dde oddi ar y ffordd ac yna’n syth i’r chwith, gan ddilyn arwyddion i Borthstinian. Cerddwch drwy batshyn o goetir gwrychog a heibio arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Treheinif (Treginnis). Ar ôl tua 55 llath (50m), ewch drwy gât fetel a dilynwch yr arwyddion llwybr ceffylau o gwmpas ymyl y cae.

Cam 4

Daliwch i ddilyn y llwybr allan o gornel bella’r cae, yna’n syth i’r dde drwy gât fetel. Daw Carn Rhoson (gyda pholyn gwyn ar ei gopa) a’r North Bishop i’r golwg wrth i chi gerdded tua’r môr ac Ynys Dewi. Trowch i’r dde drwy gât fetel, ar hyd trac a thrwy gât fetel arall i’r darn byr o ffordd i Borthstinian.

Cam 5

O Borthstinian mae teithiau cwch yn mynd i Ynys Dewi. Trowch i’r chwith i lwybr yr arfordir; hwn fyddwch chi’n ei ddilyn am weddill y daith.

Cam 6

Ar hyd llwybr yr arfordir fe welwch bentir bychan; caer arfordirol yw hwn o Oes yr Haearn, a’i enw yw Castell Heinif. Edrychwch yn ofalus ac mae modd gweld gweddillion hen gloddiau. Daliwch i fynd tua’r de drwy ddwy gât fochyn arall. Ar ôl yr ail, mae’r llwybr yn troi i’r dde heibio Bae’r Morloi – cadwch olwg am forloi bach ar ddiwedd yr haf a dechrau’r hydref.

Cam 7

Ar ôl disgynfa serth heibio darn o glogwyn wedi ei ffensio fe ddewch at ardal fechan o laswellt agored ac adfeilion gwaith copr o’r 19eg ganrif. Dilynwch lwybr yr arfordir tua’r de ac yna’r dwyrain. Wrth i chi fynd tua’r chwith fe welwch Ynys Sgomer, Ynys Ganol a Phenrhyn Marloes yn y pellter.

Cam 8

Rownd y gornel cerddwch drwy rostir arfordirol prydferth ac i lawr i gildraeth creigiog Porthlysgi, ardal sy’n enwog am ei llongddrylliadau. Ychydig i’r dwyrain o Borthlysgi, ceisiwch ddod o hyd i’r maen mawr picrit; maen dyfod rhewlifol a gludwyd yma gan iâ yr holl ffordd o’r Alban yn ôl y gred. Dilynwch lwybr yr arfordir rownd i Harbwr Porth Clais ac yn ôl i’r maes parcio.

Man gorffen

Harbwr Porth Clais, cyfeirnod grid: SM741242

Map llwybr

Map o daith Treginnis
Map o daith Treginnis | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Yr olygfa o Garn Llidi dros Fae Porth Mawr, Sir Benfro, Cymru, gydag Ynys Dewi yn y pellter.
Llwybr
Llwybr

Taith gerdded arfordirol Penmaen Dewi 

Dilynwch lwybr ar hyd pentir arfordirol mwyaf dramatig Sir Benfro, dafliad carreg o Dyddewi, i ddarganfod henebion cynhanesyddol ac adar amrywiol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3.75 (km: 6)

Cysylltwch

St David's Peninsula, Pembrokeshire, SA62

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A person walking along the South West Coast Path at East Soar, South Devon

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.  (Saesneg yn unig)

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Golygfa o Fae San Ffraid ar draws harbwr Porth Clais yn Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â harbwr Porthclais 

Datgelwch dreftadaeth ddiwydiannol yr harbwr bach prydferth, rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr a mwynhewch weithgareddau awyr agored ar dir sych ac ar y dŵr.

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Erthygl
Erthygl

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.  

Two people, one a wheelchair user, on a coastal path on a sunny day

Llwybrau arfordirol gwych a gwyllt 

Darganfyddwch amrywiaeth eang o lwybrau arfordirol yn cynnig golygfeydd o ben clogwyn, tywod euraidd, bywyd gwyllt a hanes lleol yn rhai o dirnodau naturiol mwyaf eiconig y DU. (Saesneg yn unig)