Skip to content

Gweithgareddau awyr agored ym Mhorthor

Golygfa o’r machlud dros y traeth ym Mhorthor, Gwynedd. Mae’r môr ar drai ac mae cerrig mawr a mân wedi eu gwasgaru ar y tywod yn y blaendir.
Y traeth ym Mhorthor. | © National Trust Images/Joe Cornish

Mwynhewch y golygfeydd rhyfeddol ar hyd yr arfordir garw hwn ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn. Nid yn unig mae’r arfordir yn hardd, mae’n hwyl hefyd. Os byddwch chi’n syrffio, corff-fyrddio neu mewn caiac, byddwch wrth eich bodd yn y dŵr ym Mhorthor.

Pethau i’w gwneud ar draeth Porthor

Mae’r traeth yn enwog am ei dywod gwichlyd, ac mae’r traeth diarffordd yma yn un o’r traethau perffeithiaf yng Nghymru. Allwch chi ddim peidio â gwirioni ar ei harddwch. Crwydrwch ar hyd traeth gwych i deuluoedd a mwynhau lle gwych i ymlacio.

Cerdded ar hyd y tywod gwichlyd

Gelwir y traeth yn ‘Whistling Sands’ yn Saesneg, sy’n deillio o’r wich neu’r chwib sy’n cael ei greu gan y gronynnau tywod o siâp penodol sy’n rhwbio yn ei gilydd pan fydd rhywun yn cerdded arnynt mewn tywydd cynnes. Gellir gwneud y sŵn trwy daro neu lithro eich traed ar dywod sych.

Man pulling a child on an inflatable in the sea at Whistling Sands, Porthor, Gwynedd
Playing in the sea at Whistling Sands, Porthor | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Syrffio a chorff-fyrddio ym Mhorthor

Gall y tonnau yma fod yn ddelfrydol ar gyfer syrffio a chorff-fyrddio yn yr amodau cywir. Bydd y tonnau mwyaf fel arfer ym Mhorth Neigwl, ond pan fydd gwynt o’r tir ym Mhorth Neigwl, gall Porthor gynnig lle braf, cysgodol i syrffio.

Dewch i syrffio

I’r rhai lwcus, fe gewch chi donnau tiwbaidd, sy’n troelli at y lan, gwych i gorff-fyrddio ond rhaid bod yn ofalus gan fod un neu ddwy o greigiau o dan y dŵr.

Mae dau o blant yn plygu ac yn edrych ar y pyllau yn y creigiau ym Mhorthor. Un plentyn â bwced pinc yn ei law, a rhwyd gan y llall.
Chwilota’r pyllau yn y creigiau ym Mhorthor | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Pethau i’w gweld ym Mhorthor

Bywyd gwyllt

Dewch o hyd i fywyd gwyllt o gwmpas y traeth. Gwelir morloi yn aml ger yr arfordir, yn arbennig os ydych yn corff-fyrddio yn y dŵr.

Gallwch fod yn ddigon lwcus i weld dolffiniaid. Mae’r ardal o gwmpas y traeth yn gadarnle i adar; chwiliwch am y frân goesgoch, gwalch y penwaig, gwylog, y wylan goesddu, mulfran, mulfran werdd a bras melyn ar hyd yr arfordir.

Y porthladd

Arferai Porthor fod yn borthladd prysur, yn mewnforio calch a glo ac yn allforio cynnyrch fferm fel menyn, caws, wyau a dofednod. Erbyn hyn dim ond yn yr haf y bydd y traeth yn prysuro pan fydd cri’r gwylanod yn cymysgu â sŵn pobl yn mwynhau eu hunain.

Cadwraeth

Gwnaed gwaith ar y caeau o amgylch y traeth, yn adfer y cloddiau traddodiadol. Mae’r banciau pridd â wyneb carreg yma yn cynnig coridor i fywyd gwyllt symud o gwmpas yr ardal, heb i bobl amharu arnyn nhw.

Cofiwch am

  • Y tywod gwichlyd wrth gerdded ar hyd y traeth
  • Yr odyn galch ar lwybr yr arfordir ar ochr ogleddol y traeth
  • Y pecyn antur bywyd gwyllt, sydd ar gael o’r caban yn ystod y gwanwyn a’r haf
  • Ymlacio ar draeth hardd, addas i deuluoedd
  • Syrffio gwych pan fydd yr amodau’n iawn
Golygfa dros draeth Porthor, Gwynedd, Gogledd Cymru

Darganfyddwch fwy ym Mhorthor

Dysgwch sut i gyrraedd Porthor, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Coeden blodau ceirios gyda'r Tŷ yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd 

Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.

Nifer o gerfluniau o ffigyrau syml yn cael eu harddangos mewn ystafell dywyll gyda gwawl las yn arddangosfa ‘Y Dwfn’ ym Mhorth y Swnt, Aberdaron, Gwynedd.
Erthygl
Erthygl

Pethau i'w gwneud ym Mhorth y Swnt 

Yn swatio yng nghanol Aberdaron, mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr unigryw. Mae'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.

Eirlysiau yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw 

Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Daffodils in the park at Penrhyn Castle and Garden on a sunny day in Gwynedd, Wales
Ardal
Ardal

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Golygfa o wedd ogledd-ddwyreiniol Tŷ Tredegar ar ddiwrnod heulog

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

A boy exploring the rock pool on the rugged beach at Northumberland Coast, Northumberland
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau traeth y '50 peth i'w gwneud cyn dy fod yn 11¾' 

Gweithgareddau y gall plant eu mwynhau ar lan y môr, o badlo neu nofio i ddal crancod a sgimio cerrig. (Saesneg yn unig)

Visitors kayaking on the sea past the Old Harry Rocks, Purbeck Countryside, Dorset
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel wrth ganŵio 

Er bod canŵio a cheufadu yn ffyrdd gwych o brofi natur a chadw'n heini, gall fod yn beryglus os na ddilynnir y canllawiau. Dysgwch sut i gadw'n ddiogel gyda'n cyngor a'n cyfarwyddyd. (Saesneg yn unig)