
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Dathlwch dymor yr ŵyl yng Nghastell a Gardd Powis gydag amrywiaeth gyfoethog o ddigwyddiadau hudolus ar gyfer pob oedran. Mwynhewch ysbryd y Nadolig gydag ymddangosiadau arbennig gan Siôn Corn, yn barod i ddod â llawenydd i blant a theuluoedd. Gyda goleuadau disglair, addurniadau Nadoligaidd, a gweithgareddau tymhorol drwy’r lle, mae Castell Powis yn addo profiad Nadolig cofiadwy i bawb.
Mae'r isod yn wybodaeth ar gyfer Nadolig 2025. Gobeithio eich bod wedi mwynhau popeth oedd gennym i'w gynnig. Gwiriwch yma yn agos at Nadolig 2026 pan fyddwch yn gweld diweddariadau o'r holl gynlluniau cyffrous sydd gennym ar y gweill i chi.
29 Tachwedd 2025 - 4 Ionawr 2026 (ar gau 25 & 26 Rhagfyr), 11:00 – 15:30 (mynediad olaf am 3pm)
Y tymor Nadolig hwn, mae llawr cyntaf y castell wedi’i drawsnewid i wlad hudolus aeafol. Cewch deimlo gafael rhewllyd yr ysblander disglair wrth i’r ystafelloedd swyddogol drawsnewid i fyd arall, gan eich arwain ar hyd y chwedl aeafol hon. Cadwch lygad am lygod bach dymunol, wedi’u gwisgo ar gyfer eu hantur rewllyd.
Mae prisiau mynediad arferol yn berthnasol ac mae mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Goleuadau Nadolig yr Iard
12 - 22 Rhagfyr, 4.30pm - 7pm
Camwch i mewn i'r iard hanesyddol a mwynhau goleuadau disglair ar furiau'r castell canoloesol. Yfwch siocled poeth i’ch cynhesu, neu wydriad o win cynnes, cyn mentro i mewn, wrth i’r castell oleuo nosweithiau tywyll y gaeaf.
Nid oes angen archebu eich tocyn ymlaen llaw. Mae prisiau mynediad arferol yn berthnasol ac mae mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Grisiau serth
Mae ein llwybr Nadolig yn cynnwys cyfanswm o 111 o risiau:
Siaradwch ag aelod o staff os oes angen cymorth arnoch.

Bydd Brecwast gyda Siôn Corn yn dychwelyd bob penwythnos o 29 Tachwedd i 14 Rhagfyr. Byddwn yn ymgynnull yn siop lyfrau Stablau Bodley am frecwast bwffe, ac yn gwylio wynebau bach hapus wrth i Siôn Corn wneud ei ymddangosiad hudolus. Yna byddwn yn ymgynnull yn y siop lyfrau ail law, am stori wrth ymyl y goeden Nadolig.
Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen digwyddiadau yma.
Oriau agor:
Nadolig Hudolus:, 29 Tachwedd i 4 Ionawr, 11am i 3.30pm.
Brecwast gyda Siôn Corn: Pob penwythnos 29 Tachwedd - 14 Rhagfyr, 8.45am i 10.15am.
Goleuo Nadolig y Cwrt ac Agoriad Hwyr y Nos: 12 i 22 Rhagfyr, 4.30pm i 7pm.

Gwisgwch eich dillad gaeaf a dewch i gael awyr iach gyda thro hamddenol o amgylch yr Ardd Faróc fyd-enwog. Y gaeaf yw’r amser gorau i werthfawrogi prydferthwch pensaernïol yr ardd. Dewch i weld cerfluniau’n disgleirio yn y barrug ar hyd y Terasau Eidalaidd, edmygu gwrychoedd yw bytholwyrdd hynafol yn sefyll yn falch yn haul y gaeaf a cherdded drwy Y Gwyllt lle mae canghennau moel yn datgelu golygfeydd godidog y castell o’r 13eg ganrif.

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Os ydych yn ymweld gyda’ch plant neu wyrion, fe gewch chi ddigon i ddifyrru’r teulu cyfan yng Nghastell Powis a’r Ardd.

Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr.

Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.

Mae pob modfedd o Gastell Powis wedi'u haddurno â manylion cywrain, hardd. Wrth i chi grwydro drwy ystafelloedd swyddogol y castell, cewch eich tywys ar daith o’r gorffennol. O Oes Elisabeth drwodd i Oes Edward, gwnewch yn siwr eich bod yn oedi am funud ym mhob ystafell i gymryd y cyfan i mewn.

Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
