Skip to content

Taith hydref Castell Powis

Cymru

Wyneb Castell Powis yn dangos dilyniant y terasau oddi tano gyda’r yw anferth yng Nghastell Powis, Cymru.
Castell Powis a’r terasau oddi tano â’r yw anferth wedi eu tocio | © National Trust Images/Carole Drake

Ar y llwybr cerdded hydrefol hwn fe welwch chi’r ardd yn dod yn fyw mewn cymysgedd o goch, melyn, oren tywyll ac aur. Mwynhewch y blodau tymhorol ar hyd y borderi ar y terasau, mwynhewch grensian y dail dan eich traed yn y Gwyllt, a mwynhau aroglau melys y coed afalau yn yr Ardd Ffurfiol.

Man cychwyn

Ciosg Gardd Castell Powis, cyfeirnod grid: SJ2152106369

Pa Mor Heriol*

Hygyrchedd**

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Hyd 30 munud to 1 awr
Addas i gŵn***
  1. *Rhai grisiau a llethrau serth. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd. 

  2. **Mae nifer o setiau o risiau a llwybrau serth. Mae llwybr heb risiau ar gael. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.    

  3. ***Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau. 

Angen tocyn mynediad

Er mwyn dod i mewn i’r ardd, bydd angen i chi gasglu tocyn mynediad o’r Swyddfa Docynnau ym Mhowis.

  • Cyfanswm y rhannau: 9

    Cyfanswm y rhannau: 9

    Man cychwyn

    Ciosg Gardd Castell Powis, cyfeirnod grid: SJ2152106369

    Rhan 1

    Casglwch eich tocyn mynediad o’r Swyddfa Docynnau ac ewch i mewn i’r ardd. Dilynwch y llwybr a throi i’r chwith i’r Teras Uchaf. Arhoswch i edmygu’r aeron coch llachar ar y Cotoneaster ar y dde i chi cyn mynd ymlaen ar hyd y llwybr sy’n cynnig golygfeydd gwych ar draws yr ardd, Dyffryn Hafren a Bryn Breiddin.

    Rhan 2

    Ar ben y teras, ewch i lawr y grisiau ar y dde i chi i Deras y Tŷ Adar. Ar y dde, cymrwch eiliad i edmygu’r cerfluniau o’r 18fed Ganrif o fugeiliaid yn dawnsio sy’n addurno’r balwstrad cyn mynd i lawr y grisiau nesaf i Deras yr Orendy. Ar waelod y grisiau, ewch ar draws tu blaen yr Orendy ac ymlaen rhwng y borderi cyfochrog sydd o’ch blaen.

    Rhan 3

    Ewch ymlaen trwy’r bwlch yn y gwrych pren bocs ar ben y border a dilyn y llwybr cyntaf ar y chwith, gyferbyn â’r cerflun paun. Wrth i chi wneud hynny, sylwch ar y coed Sumac (Rhus typhina) ar y chwith sydd â dail sy’n trawsnewid i sioe lachar o goch, oren a melyn yr amser yma o’r flwyddyn.

    Rhan 4

    Ar ben y teras, ewch i lawr y grisiau ar y dde ac ar y gwaelod trowch i’r chwith i’r Ardd Ffurfiol. Dilynwch y llwybr yn syth ymlaen ac ar y pen trowch i’r dde i ddal i fynd heibio ein bwthyn gwyliau du a gwyn ffrâm bren, Y Bwthyn, oedd yn gartref i lawer o arddwyr Powis yn y cyfnod Edwardaidd. Ewch yn eich blaen yn syth a chymryd y llwybr nesaf ar y dde. Wrth i chi wneud hynny cymrwch eiliad i sylwi ar y gwahanol winwydd yn dringo’r bwa sy’n llawn o liwiau’r hydref.

    Rhan 5

    Ar ben y llwybr, fe welwch Siop Goffi’r Ardd o’ch blaen, perffaith os ydych am gynhesu gyda diod boeth a thamaid o gacen cyn mynd ymlaen i’r Gwyllt, coetir ffurfiol Powis. Cadwch Siop Goffi’r Ardd ar y chwith i chi ac ewch ar hyd y llwybr am ychydig fetrau cyn dringo’r grisiau tuag at y Lawnt Fawr. Ar ben y grisiau dilynwch y llwybr ar y chwith ac ewch ymlaen i’r coetir ar y set o risiau bas. Wrth i chi fynd ymlaen at yr olygfan, sylwch ar y goeden geirios gyda’i dail hydrefol ar y dde.

    Rhan 6

    Rhowch funud neu ddau i fwynhau’r olygfa eiconig o’r castell ar draws y Lawnt Fawr, a fydd, ar yr adeg yma o’r flwyddyn ag arddangosfa o liwiau’r hydref ar y llechwedd dan y Teras Isaf. Wedyn, cerddwch ar draws yr ardal o laswellt tu ôl i chi a heibio’r fâs carreg anferth cyn troi i’r dde. Ewch ymlaen trwy’r coetir ar y llwybr hwn, gan ddilyn cyrion yr ardd.

    Rhan 7

    Ewch ymlaen ar hyd y llwybr o gwmpas cyrion yr ardd, gan gymryd y llwybr i’r chwith yn unrhyw fan lle mae’r llwybr yn fforchio. Wrth i chi gerdded, arhoswch i fwynhau’r golygfeydd hydrefol ar draws dyffryn Hafren tua Cornatyn a Chefn Hirfynydd tu ôl iddo.

    Rhan 8

    Wrth i chi gyrraedd cornel yr ardd, dilynwch y llwybr i’r dde. Sylwch ar ddail llachar yr hydref ar y coed bedw amrywiol gyda’u boncyffion gwyn ac ymhellach ar hyd y llwybr, boncyff anarferol y fasarnen rhisgl neidr. Cyn troi i’r chwith yn y fforch, sylwch ar y gochwydden arfor (Sequoia sempervirens) yn ymestyn tua’r nefoedd.

    Rhan 9

    Wrth i chi nesu at y Tŷ Rhew, rhowch eiliad i edrych i fyny ar ddail oren tywyll y goeden ffawydd ddeheuol (Nothofagus alpina). Ewch o gwmpas y pwll a mwynhau’r adlewyrchiadau hydrefol ar wyneb y dŵr. Ar yr ochr bellaf ger y ffens, chwiliwch am y Cryptomeria japonica ‘Elegans’ y mae ei dail yn newid i liw efydd tywyll. Daliwch i fynd o gwmpas y pwll ac i fyny’r llethr bychan nes y gwelwch chi giât fawr ar y chwith. Yma mae’r llwybr yn rhannu a bydd y mwyaf serth yn eich arwain heibio’r goeden Ginkgo felyn danbaid gyda’i dail anarferol. Daliwch i fynd yn ôl at Giosg yr Ardd y byddwch yn ei weld ar y chwith.

    Man gorffen

    Ciosg Gardd Castell Powis, cyfeirnod grid: SJ2152106369

    Map llwybr

    Map yn dangos llwybr a grisiau taith hydref Castell Powis
    Taith hydref Castell Powis | © National Trust/Robert Polley

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Castell a Gardd Powis 

Darganfyddwch ardd restredig Gradd I a chastell canoloesol gyda chasgliad eang o arteffactau De Asiaidd yng Nghastell a Gardd Powis yng Nghanolbarth Cymru.

Y Trallwng, Powys

Yn hollol agored heddiw
Golygfa ar draws tirwedd hydrefol

Taith gerdded hanesyddol Castell Powis 

Dewch i archwilio haenau hanes yng ngardd Castell Powis ar y daith gerdded rwydd hon. Byddwch yn ymlwybro ar hyd terasau Eidalaidd, o gwmpas yr ardd ffurfiol a thrwy goetir y Gwyllt, cyn rhoi cwpaned braf o de yn wobr i chi eich hun.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Teras yr Orendy a Chastell Powys uwchlaw, Cymru

Cysylltwch

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Powis 

Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.

Golygfa o’r borderi blodau a’r gwrychoedd pren bocs ar deras yr orendy yng ngardd Castell Powis ar ddiwrnod heulog ym mis Gorffennaf

Bwyta a siopa yng Nghastell Powis 

Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.

A tray of fruit scones straight from the oven being held by the baker

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A couple are walking outdoors

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Visitors walking in the parkland at Lyme Park, Cheshire

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Two female visitors standing on the rocks at Giant's Causeway, County Antrim