Skip to content

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Cerdded ar hyd yr arfordir ym Marloes, Sir Benfro | © National Trust Images/James Dobson

Gallwch gerdded arfordir cyfan Cymru, o’r gogledd i’r de, a bydd un cam o bob deg ar dir sydd dan ein gofal ni. Gwisgwch eich bŵts a mwynhewch ein dewis o’r teithiau cerdded gorau, gyda phenrhynoedd prydferth, pentiroedd garw, pentrefi hyfryd a henebion cynhanesyddol, gyda’r cyfle i weld bywyd gwyllt bendigedig hefyd.

Gogledd Cymru

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru
Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru | © National Trust Images/John Miller
Taith gerdded Porthdinllaen, Pen Llŷn
Ewch i hen bentref pysgota Porthdinllaen, sy’n eistedd ym mhen pellaf stribyn tenau o dir sy’n ymestyn allan i Fôr Iwerddon. Yma fe welwch yr enwog Dafarn Tŷ Coch a golygfeydd arfordirol godidog.Trefnwch daith gerdded ym Mhorthdinllaen
Taith gerdded Porthor a’r Tywod Chwibanog, Pen Llŷn
Dilynwch yr arfordir garw ar hyd ochr ogleddol Pen Llŷn o Draeth Porthor a darganfyddwch atgofion o’r gorffennol. Dewch â’ch binocwlars gan fod hwn yn lle gwych i weld adar, yn ogystal â morloi llwyd, dolffiniaid a llamidyddion.Cerddwch o Draeth Porthor
Taith gerdded Porth Meudwy, Pen Llŷn
Gan ddechrau yn Aberdaron, mae’r llwybr hwn yn mynd drwy Borth Meudwy, bae pysgota bach ym mhen pellaf Pen Llŷn a fu unwaith yn fan hwylio i bererinion yn teithio i Ynys Enlli. Taith wych ar gyfer dysgu am hanes a threftadaeth yr ardal.Cerddwch o Aberdaron i Borth Meudwy
Taith gerdded cefnen raeanog Cemlyn, Ynys Môn
O’r gefnen raeanog arbennig hon, gallwch wylio llwyth o adar dŵr ar y morlyn, gan gynnwys poblogaethau nythu mwyaf Prydain o fôr-wenoliaid pigddu yn ystod misoedd yr haf. Wedyn, cerddwch yn ôl ar hyd y lôn, heibio i gartref y Capten Vivian Hewitt, y gŵr a greodd y morlyn.Ymwelwch â'r morlyn ym Mae Cemlyn
Taith gerdded Dinas Oleu, Abermaw
Crwydrwch drwy’r hen dref â’i strydoedd troellog i fryn eithinog Dinas Oleu. Hwn oedd y darn cyntaf o dir a roddwyd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae’n cynnig golygfeydd godidog o Aber Afon Mawddach a Bae Ceredigion.Mwynhewch y golygfeydd o Ddinas Oleu

Canolbarth Cymru

Taith gerdded Aberystwyth i Fynachdy’r Graig
Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru o hyfrydwch arfordirol hanesyddol Aberystwyth ar hyd arfordir prydferth Bae Ceredigion i Fynachdy’r Graig, hen faenor mynachaidd. Cadwch olwg am nodweddion daearegol diddorol, llongddrylliadau a beddi môr-ladron.Darganfyddwch Aberystwyth a Bae Ceredigion

De Cymru

The Gribin, a steep sided ridge overlooking Solva Harbour, Pembrokeshire
Solva Harbour from The Gribin | © National Trust Images/Joe Cornish
Llwybr cerdded arfordirol Penrhyn Marloes, Sir Benfro
Darganfyddwch y penrhyn rhostir hyfryd hwn yn swatio ym mhen gorllewinol pellaf Sir Benfro, yn edrych dros Ynys Sgomer. Mae’n daith gerdded wych ar gyfer gweld bywyd gwyllt – mae’n un o’r llefydd gorau yn y sir i weld morloi ac adar.Darganfyddwch bentir o rostir
Taith gerdded arfordirol Penmaen Dewi, Sir Benfro
Darganfyddwch bentir arfordirol mwyaf trawiadol Sir Benfro, ychydig filltiroedd o ddinas leiaf Cymru, Tyddewi, cartref nawddsant y wlad. Cadwch olwg am henebion cynhanesyddol ac amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt arfordirol.Crwydrwch bentir Sir Benfro
Taith gerdded gylchol Stagbwll, Sir Benfro
Mae’r daith hon yn eich tywys ar hyd traethau euraidd clodwiw Sir Benfro, Barafundle ac Aber Llydan, drwy ddyffrynnoedd coediog heddychlon a phyllau lili Llynnoedd Bosherston, sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt, ac i lawr i gei prydferth Stagbwll.Ewch ar daith gerdded bywyd gwyllt
Taith gerdded pentir Rhosili, Penrhyn Gŵyr
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni mwyaf eiconig Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili i greigiau calchfaen arfordir deheuol Penrhyn Gŵyr. Ymwelwch â Hen Wylfan Gwylwyr y Glannau ac, os yw’r llanw ar drai, croeswch y sarn greigiog i Ynys Weryn, sy’n ynys lanwol.Cerddwch un o glogwyni eiconig Cymru

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: ein hunig bartner cerdded. 

Dysgwch ragor am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein hunig bartner cerdded. (Saesneg yn unig)

Golygfa ar draws traeth Llanbedrog, Penrhyn Llŷn, tuag at gefnen o laswellt sy’n cyrraedd at y traeth, a bryniau niwlog yn y pellter.
Erthygl
Erthygl

Meysydd parcio arfordirol a chefn gwlad yng Nghymru 

Rhestr o rai o feysydd parcio llai o faint, mwy anghysbell yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Llo bach morlo llwyd ar draeth cerigos yn Treginnis, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Natur a bywyd gwyllt i’w gweld yng Nghymru 

Dewch ar antur natur yng Nghymru a darganfod pob math o fywyd gwyllt, o ddyfrgwn enwog Llynnoedd Bosherston yn Sir Benfro i wiwerod coch Plas Newydd yng Ngogledd Cymru.

Exterior of The Old Rectory, West Gower, Swansea
Erthygl
Erthygl

Bythynnod gwyliau yn Ne Cymru 

O draethau euraidd Penrhyn Gŵyr i fynyddoedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae cymaint i'w ddarganfod ar wyliau yn Ne Cymru. (Saesneg yn unig)

Exterior of Tan y Bwlch, Rhiw, Llyn Peninsula, Gwynedd
Erthygl
Erthygl

Bythynnod gwyliau yng Ngogledd Cymru 

O fynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri i'r anghysbell Ben Llŷn, mae Gogledd Cymru yn gyrchfan wyliau i'ch ysbrydoli. (Saesneg yn unig)

Cerddwyr ar lwybr ar Ben-y-fâl ym Mannau Brycheiniog, Powys.
Erthygl
Erthygl

Llwybrau cerdded i'r sawl sy'n hoff o her 

Mae llawer o'r tirweddau rydym yn gofalu amdanynt yn llawn cyfleoedd i'ch herio eich hun yn erbyn y dirwedd a mwynhau golygfeydd godidog. (Saesneg yn unig)

Visitors walking with their dog on the beach at Lindisfarne Castle, Northumberland

Llwybrau arfordirol gwych a gwyllt 

Darganfyddwch amrywiaeth eang o lwybrau arfordirol yn cynnig golygfeydd o ben clogwyn, tywod euraidd, bywyd gwyllt a hanes lleol yn rhai o dirnodau naturiol mwyaf eiconig y DU. (Saesneg yn unig)