
Darganfyddwch fwy yn Stagbwll
Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Mae Tŷ Te’r Tŷ Cychod yn un o ffefrynnau bwyd Sir Benfro. Mwynhewch damaid o fwyd neu ddiod tra’n edmygu’r olygfa odidog yng Nghei’r Stagbwll.
Mae bwyd da, syml, blasus ar gael yma, gan gynnwys cawl, byrbrydau crwst sawrus poeth, croques, brechdanau, teisennau, hufen iâ, diodydd poeth ac oer, ac wrth gwrs ffefryn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, te prynhawn.
Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.
Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.
Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.

Yn hawdd ei gyrraedd yn y car neu ar droed o unrhyw un o feysydd parcio’r stad, mae Cei Stagbwll yn fan delfrydol i fynd am dro ar hyd llwybr yr arfordir. Mae Tŷ Te’r Tŷ Cychod wedi bod yn hafan i gerddwyr ac ymwelwyr ers tro hefyd.
Mae Gardd Furiog Stagbwll ar y stad, ger Coedwig Parc y Porth. Yn cael ei rhedeg gan Mencap Sir Benfro, galwch draw i ddal eich gwynt a mwynhau’r caffi, yr ardd a’r siop.
Mae pob paned neu drît blasus a brynwch yn ein helpu i barhau i ofalu am lefydd i bawb eu mwynhau.

Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll.

Camwch yn ôl drwy amser a datgelu canrifoedd o dreftadaeth ar draws Stad Stagbwll, o’r oes efydd hyd heddiw, ac am fywydau ei thrigolion.

Darllenwch ganllaw hygyrchedd Stagbwll ar fenthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar symud o gwmpas, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.

Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.
