Skip to content

Gweithgareddau awyr agored â Stad Stagbwll

Ymwelwyr yn sefyll ar ben clogwyn yn edrych dros Fae Barafundle, Stagbwll
Ymwelwyr yn edmygu’r olygfa o Fae Barafundle, Stagbwll | © National Trust Images/Chris Lacey

Mae Stad Stagbwll yn lle gwych i ymarfer corff tra’n mwynhau golygfeydd gwych. Beth am fynd i loncian, crwydro mewn caiac neu ddarganfod yr arfordir drwy arfordira? Dysgwch fwy am sut i gymryd rhan ac am aros yn yr ardal naturiol ysblennydd hon ar arfordir Sir Benfro.

Pethau i’w gwneud yn yr awyr agored â Stad Stagbwll  

Cerdded 

P’un a ydych chi ar drywydd taith gerdded fer neu rywbeth mwy egnïol, mae milltiroedd o lwybrau cerdded i chi eu mwynhau yn Stagbwll. Mae’r llwybrau’n ymestyn ar hyd yr arfordir, ar lannau’r llynnoedd a thrwy’r coetir, ac mae yma rai llwybrau gwych i’r teulu. 

Rhedeg 

Barod am her? Rhowch gynnig ar y llwybr chwe milltir sy’n arwain o gwmpas pyllau lili heddychlon, i bentiroedd arfordirol gwyllt ac ar draws traethau euraid.

Galwch yn y dderbynfa yng Nghanolfan Stagbwll i gael rhagor o wybodaeth am ein llwybrau.  

Caiacio 

Caiacio yw un o’r ffyrdd gorau o ddarganfod ein harfordir anhygoel. Gall teuluoedd ddysgu i gaiacio ar y môr o gei cysgodol Stagbwll. Padlwch yn hamddenol i rai o bentiroedd mwyaf dramatig Sir Benfro. 

Llwybr beicio mynydd â Stad Stagbwll

Cymerwch dro gwyllt â Stad Stagbwll a darganfod mwy o’r ardal. Yng Nghoed Doc y Castell a Cheriton Bottom, fe ddewch o hyd i lwybr beicio mynydd gyda dros 4 milltir o ddringfeydd, troeon a neidiau sy’n ddigon i herio’r beiciwr mwyaf profiadol. Reidiwch i gefnlen epig o goetiroedd naturiol a golygfeydd tymhorol wrth i chi ddarganfod mwy o Stad Stagbwll.

Arfordira 

Mae arfordira, camp a ddyfeisiwyd yn Sir Benfro, yn weithgaredd cyffrous sy’n gyfuniad o glogwyn-neidio, dringo clogwyni lefel isel a nofio. 

Archebwch sesiwn 

Pleser gennym yw gweithio â dau gwmni lleol sy’n darparu gweithgareddau dŵr, arfordirol, awyr agored o ansawdd.

Mae Activity Pembrokeshire yn arbenigo mewn cynnig sesiynau caiacio ac arforgampau o Gei Stagbwll. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Activity Pembrokeshire ar  www.activitypembrokeshire.wales, neu cysylltwch â nhw drwy  adventure@activity.cymru neu 07977543396

 Mae Outer Reef yn arbenigo mewn cynnig cyrsiau a sesiynau Syrffio a Phadlfyrddio o Freshwater West a Chei Stagbwll. Gellir cysylltu â nhw drwy godi’r ffôn  01646 680070 drwy e-bost contact@outerreefsurfschool.com neu drwy eu gwefan  www.outerreefsurfschool.com

Traethau 

Mae’r traethau yn Stagbwll yn boblogaidd ar gyfer nofio, syrffio a ffotograffiaeth dŵr bas.  

A selection of fishing equipment comprising a rod, reels, a box of flies and haversack laid out on the shingle beach at Loweswater in the Buttermere Valley, Lake District
Cyfarpar pysgota | © National Trust Images / Leo Mason

Pysgota ar Ystâd Stagbwll

Yn Llynnoedd Stagbwll gellir pysgota am benhwyaid, pysgod garw, gwrachennod a physgod arian. Cewch bysgota drwy gydol y flwyddyn ar wahân i’r tymor cau llym o 15 Mawrth-15 Mehefin yn flynyddol.

Bydd disgwyl i bob pysgotwr fod â thrwydded wialen gan Gyfoeth Naturiol Cymru a thrwydded bysgota o dderbynfa Canolfan Stagbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Tocynnau pysgota

Tocynnau dydd: £10 (oedolyn), £5 (o dan 16).

Tocynnau tymor: £50 (oedolyn), £30 (plentyn)

Talwch am eich tocyn wrth ddesg Derbynfa Canolfan Stagbwll (SA71 5DQ) cyn pysgota. Mae'r dderbynfa ar agor o 9am tan 5pm.

Rheolau

Pysgota o begiau wedi eu rhifo yn unig. Dim abwyd byw. Dim pysgota gyda’r nos. Trwydded gwialen yn ofynnol. Gwaherddir pysgota rhwng 15 Mawrth a 15 Mehefin yn llwyr.

Canolfan Stagbwll 

Dyma’r lle perffaith i fwynhau’r awyr iach fel teulu, wedi’ch amgylchynu gan dwyni tywod, traethau, coetiroedd a llynnoedd. Mae digon yma i lenwi gwyliau cyfan. 

Ble i aros 

Mae tai bynciau a bythynnod ar gael yn Stagbwll.  Os hoffech archebu neu gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Stagbwll, ffoniwch ni ar: 01646 623110 neu e-bostiwch ni  stackpoleoutdoorlearning@nationaltrust.org.uk

Ymwelwyr yn cerdded i lawr allt at draeth yn Stagbwll

Darganfyddwch fwy yn Stagbwll

Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Bwyta â Stad Stagbwll 

Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.

Ystafell de’r Tŷ Cychod yn edrych dros Gei Stagbwll, Sir Benfro.

Hanes Stad Stagbwll 

Camwch yn ôl drwy amser a datgelu canrifoedd o dreftadaeth ar draws Stad Stagbwll, o’r oes efydd hyd heddiw, ac am fywydau ei thrigolion.

Golygfa hanesyddol o ddau giper a’u cŵn ar draws y Parc Ceirw, Ystâd Ystagbwll, Sir Benfro.

Gwylio bywyd gwyllt â Stad Stagbwll 

Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.

Elyrch ar Lynnau Stagbwll , Sir Benfro

Hygyrchedd yn Stagbwll 

Darllenwch ganllaw hygyrchedd Stagbwll ar fenthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar symud o gwmpas, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.

Bluebells and ferns blossom in the foreground as a couple, with one using a mobility aid to navigate the path.

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

Tonnau’n torri ar y lan gyda chreigiau y tu hwnt iddynt

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Gardd a thŷ dan orchudd barrug yn Erddig, Wrecsam

Cadw’n ddiogel wrth ganŵio 

Er bod canŵio a cheufadu yn ffyrdd gwych o brofi natur a chadw'n heini, gall fod yn beryglus os na ddilynnir y canllawiau. Dysgwch sut i gadw'n ddiogel gyda'n cyngor a'n cyfarwyddyd. (Saesneg yn unig)

Visitors kayaking on the sea past the Old Harry Rocks, Purbeck Countryside, Dorset

Gweithgareddau traeth y '50 peth i'w gwneud cyn dy fod yn 11¾' 

Gweithgareddau y gall plant eu mwynhau ar lan y môr, o badlo neu nofio i ddal crancod a sgimio cerrig. (Saesneg yn unig)

A family looking at shells on Studland Beach, Dorset