Skip to content

Hygyrchedd yn Stagbwll

Tri ymwelydd ar y traeth yn Stagbwll ar ddiwrnod gwyntog
Ymwelwyr yn cerdded ar y traeth yn Stagbwll | © National Trust/Chris Price

Mae ein tîm wedi bod wrthi’n ddyfal yn gwella hygyrchedd ar draws Stad Stagbwll i alluogi mwy o ymwelwyr i fwynhau a darganfod y lle arbennig hwn.

Cerbydau symudedd Stagbwll

Dyma’n wybodaeth am hygyrchedd ar y stad a benthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar fynd o le i le, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.

Mae trampiwr (sgwter symudedd sy’n addas i dirweddau amrywiol) a chadair olwyn traeth ar gael i’w benthyca yn Stagbwll. Cawsant eu prynu diolch i roddion caredig ein hymwelwyr i’n helpu i wella hygyrchedd ar y stad.

Pwy all ddefnyddio’r cerbydau symudedd?

Mae ein cerbydau at ddefnydd unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd cerdded yn bell neu sydd ag unrhyw fath o gyfyngiadau ar eu symudedd. Mae’r trampiwr yn addas i bobl 14 oed a hŷn, ond bydd angen i’r rheini sydd am ei ddefnyddio gael sesiwn hyfforddi fer gyda’n staff cyn ei ddefnyddio. Mae cadair olwyn y traeth ar gyfer unrhyw un o bedair oed i fyny, gyda phwysau uchaf o 95kg.

Rhaid i bob defnyddiwr fod yng nghwmni oedolyn ac, yn achos y trampiwr, rhaid gallu cerdded 500 metr mewn argyfwng.

Ymwelydd yn defnyddio’r trampiwr yn Stagbwll, Cymru 
Ymwelydd yn defnyddio’r trampiwr yn Stagbwll, Cymru  | © National Trust/Chris Price

Ble allwch chi ddefnyddio’r trampiwr a’r gadair olwyn traeth yn Stagbwll? 

Ry’n ni wedi bod yn gweithio’n galed i wneud ein llwybrau’n fwy hygyrch ac erbyn hyn mae gennym dri llwybr a argymhellir ar gyfer y trampiwr (gyda help llaw), cadeiriau olwyn (gyda chymorth) a phramiau/bygis. Fel safle awyr agored, yn anochel mae ein llwybrau’n anwastad a’r dirwedd yn amrywio.

Llwybrau hygyrchedd a argymhellir yn Stagbwll

1. Canolfan Stagbwll i Goedwig Parc y Porth

Dilynwch y llwybr o Ganolfan Stagbwll i Goedwig Parc y Porth lle gwelwch fannau hanesyddol fel yr ardd rosod a’r tŷ haf.

Gallwch hefyd fynd i’r lawnt ar safle’r llys – ardal eang agored sy’n edrych dros y Bont Wyth Bwa a Llynnoedd Bosherston.

2. Canolfan Stagbwll i Gei Stagbwll

Os am daith ychydig yn hirach, dilynwch y llwybr o Ganolfan Stagbwll i lawr i’r Bont Wyth Bwa ac yna i fyny’r prif drac fferm sy’n arwain i Gei Stagbwll.

Mwynhewch olygfeydd arfordirol a thamaid o fwyd yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod.

3. Canolfan Stagbwll i Dde Aber Llydan

Dilynwch y llwybr o Ganolfan Stagbwll i’r Bont Wyth Bwa ac ar hyd glannau Llynnoedd Bosherston.

Cadwch olwg am lilis dŵr ar hyd y daith, a mwynhewch weld y coetir yn asio â’r arfordir wrth i chi gyrraedd traeth De Aber Llydan.

Sut i archebu cerbydau yn Stagbwll

Mae’r ddau gerbyd ar gael am ddim o Ganolfan Stagbwll. Rhaid archebu ymlaen llaw yn hanfodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio’r cerbydau, cysylltwch â thîm Stagbwll ar 01646 623110 am ragor o wybodaeth.

Ymwelwyr yn darganfod Stagbwll, Cymru, gan ddefnyddio cadair olwyn traeth 
Ymwelwyr yn darganfod Stagbwll, Cymru, gan ddefnyddio cadair olwyn traeth  | © National Trust/Chris Price

Gwnewch y gorau o’ch diwrnod yn Stagbwll  

Mannau i fwyta

Ewch i Dŷ Te’r Tŷ Cychod yng Nghei Stagbwll am damaid o fwyd gyda golygfa odidog o’r môr. Mae ramp yn arwain at y Tŷ Te ac mae lle i eistedd mewn perllan yn yr awyr agored.

Neu ymwelwch â’n cyfeillion yng Ngerddi Muriog Stagbwll, lle mae llwybr mynediad gwastad i’r caffi a’r ganolfan ymwelwyr. Maen nhw’n cael eu rhedeg gan dîm Mencap Sir Benfro.

Parcio

Gall pobl sydd â Bathodyn Glas barcio am ddim yn ein holl feysydd parcio ar Stad Stagbwll. Cofiwch arddangos eich Bathodyn Glas yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd, os gwelwch yn dda.

Gall ein tîm croesawu yn y meysydd parcio neu Ganolfan Stagbwll roi cyngor i chi ar fannau gollwng i hwyluso eich ymweliad.

Tai bach

Mae tai bach wedi’u haddasu â rheiliau yn ein meysydd parcio yn Bosherston, Llys Stagbwll, Cei Stagbwll, De Aber Llydan a Freshwater West. Mae mwy o le i symud o gwmpas yn y tai bach yn Bosherston a De Aber Llydan, gyda mynediad drwy allwedd Radar.

Ymwelwyr yn cerdded i lawr allt at draeth yn Stagbwll

Darganfyddwch fwy yn Stagbwll

Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dyn ar feic mynydd yn reidio drwy goetiroedd godidog gwyrdd
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau awyr agored yn Stagbwll 

Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll. Dysgwch ble y gallwch aros yn Stagbwll hefyd.

Golygfa hanesyddol o ddau giper a’u cŵn ar draws y Parc Ceirw, Ystâd Ystagbwll, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Hanes Stagbwll 

Camwch yn ôl drwy amser a datgelu canrifoedd o dreftadaeth ar draws Stad Stagbwll, o’r oes efydd hyd heddiw, ac am fywydau ei thrigolion.

Ystafell de’r Tŷ Cychod yn edrych dros Gei Stagbwll, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Bwyta yn Stagbwll 

Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.

Elyrch ar Lynnau Stagbwll , Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Gwylio bywyd gwyllt yn Stagbwll 

Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.