
Darganfyddwch fwy yn Stagbwll
Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae ymweliad â Stad Stagbwll yn unigryw iawn, gyda thraethau, llwybrau, hanes a 3,000 erw i’r teulu cyfan ei archwilio. Dysgwch pa ryfeddodau i’w disgwyl yn ystod eich ymweliad â’r lle arbennig hwn.
Dyma ychydig o wybodaeth allweddol i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod ymlaen llaw.
Dewch â’r teulu ac ymunwch â ni am Daith Gerdded Ditectif Dyfrgwn ddydd Mercher 28 Mai o 10.00 tan 11.30. Bydd sgwrs fer dan do i ddechrau a bydd gennym fygydau, taflenni ôl-troed a thaflenni ffeithiau, yn ogystal â sbienddrychau i blant. Nodwch, nid oes sicrwydd y byddwch yn gweld dyfrgwn. Archebwch ymlaen llaw yma.
Mae Bluestone Outdoors yn cynnal sesiynau cerdded Nordig a hyfforddir yn broffesiynol ar 24 Mai gyda sesiynau ychwanegol ym mis Awst a mis Hydref. Dysgwch fwy ac archebwch eich ymweliad yma.
Mae ystâd Stagbwll yn 3,000 erw mewn maint, ac mae'n cynnwys sawl milltir o lwybrau cerdded sy’n croesi’r ystâd drwy goed a mannau agored yn ogystal ag o gwmpas y llynnoedd. Gallwch fynd am dro hir neu daith gerdded fer. Cymerwch gip ar ein map yma ac ewch ati i gynllunio eich diwrnod.
Eleni, rydym yn croesawu cerfluniau i Goedwig Lodge Park sy’n cyfleu dyn a dynes Edwardaidd yn cerdded eu ci.Yn dod â rhan arbennig o hanes Edwardaidd yr ystâd yn fyw, cafodd y dyluniadau trawiadol wedi’u gwehyddu â llaw gan yr artist helyg arobryn o Sir Benfro, Michelle Cain, eu hariannu’n hael gan Gymdeithas Ymddiriedolaeth Sir Benfro i nodi dathliad 25ain y Gymdeithas.
Mae’r ychwanegiadau diweddaraf hyn i’r Ystâd yn gysylltiedig â chyfnod penodol yng ngorffennol Edwardaidd yr ystâd pan safodd plasty mawreddog yng nghanol Iard Stagbwll. Ewch i weld eu lleoliad wrth y tŷ haf a thu hwnt i’r ardd rosod ac os edrychwch yn ofalus fe welwch garreg fedd hanesyddol wedi ei chysegru i anifail anwes annwyl iawn o’r gorffennol.
Mae’r llwybrau hunan-dywys rydym wedi’u creu yn berffaith ar gyfer plant llawn bywyd sy’n ymweld â’r ystâd. Mae mapiau a rhagor o wybodaeth ar gael yn ein derbynfa i Ymwelwyr sydd gyferbyn â Chanolfan Stagbwll.
Mae’n amser inni archwilio’r coed wrth arbrofi â chyfeiriadu. Dilynwch ein map cyfeiriadu a dewch o hyd i gyfrinachau cudd Coedwig Lodge Park, gan ganfod yr hen Dŷ Ia a Thŷ Haf. Gallwch ryfeddu at y goeden dal a chân fywiog yr adar wrth ichi grwydro drwy’r coetir hudolus hwn.
Cofiwch glipio'r rhif pan fyddwch yn dod o hyd i'r postyn cyfeiriannu! Gallwch fachu map am ddim o’r dderbynfa i Ymwelwyr
Mae’r werddon furiog hamddenol braf hon yn lle hyfryd i fwynhau paned o de a phryd cartref yn y caffi bach, a chrwydro drwy’r ardd furiog hanesyddol. Mae’r ardd wedi’i rheoli gan ymddiriedolwyr Mencap Sir Benfro, sy’n cynhyrchu ystod o blanhigion, ffrwythau a llysiau ffres, sydd ar gael i'w prynu yn eu siop ardd fechan. Dysgwch fwy am yr amseroedd agor a darllenwch am waith sylweddol yr oedolion a gefnogir gan Mencap yn yr ardd yma.
Mae dau draeth byd-enwog yn ffurfio rhan o’r Ystâd
Bae bychan, gyda thwyni a choedwig dawel braf y tu ôl iddi, ar droed yn unig y gellir cyrraedd Bae Barafundle. Bydd angen ichi gerdded hanner milltir un ai ar hyd y clogwyni o Gei Stagbwll, ar draws yr hen Barc Ceirw o ganolfan Stagbwll, neu ar hyd llwybr yr arfordir o Broad Haven South. Mae dŵr clir a thywod euraidd yn eich disgwyl chi ar ôl eich taith gerdded. Mae Barafundle yn draeth arbennig ac anghysbell, ac nid oes unrhyw gyfleusterau ar gael.
Mae hwn yn fae tywodlyd eang, gyda thwyni y tu ôl iddo sy’n arwain at Lynnoedd ystâd Stagbwll. Dyma’r lle perffaith i fwynhau diwrnod ar y traeth gyda’ch teulu. Mae maes parcio mawr, toiledau a threlar lluniaeth ar gael yn ystod misoedd yr haf. Byddwch yn ymwybodol bod cerrynt y môr yn gryf yn Broad Haven South.
Mae’n amser inni fynd ar saffari! Datgelwch ddirgelwch Cwm Mere Pool yn ardal hardd Broad Haven South. Concrwch ein heriau natur ar hyd y ffordd... a ydych chi’n ddigon dewr? Cofiwch eich llyfr lloffion 50 peth i’ch helpu i gwblhau eich heriau. Gallwch fachu map am ddim o’r dderbynfa ymwelwyr.
Mae 5 maes parcio ar gael ar yr ystâd ehangach, wedi’u rhestru isod yn ôl maint:
Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Stagbwll a’r ystâd ehangach yn lle sydd wedi ei raddio gan y system bawen. Mae rhagor o wybodaeth am ddod â’ch ci i Stagbwll. Archwiliwch y rhan brydferth hon o’r arfordir gyda’ch cyfaill pedair coes wrth eich ochr.
Ymwelwch â Stad Stagbwll gyda'ch grŵp gan archwilio'r ystâd wrth eich pwysau. Darganfyddwch ganolfan Ystagbwll a sut i drefnu.
Darllenwch ganllaw hygyrchedd Stagbwll ar fenthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar symud o gwmpas, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.