Skip to content

Ymweld â Stagbwll gyda'ch ci

Ymwelydd rhedeg gyda Monty, y ci da, ar hyd arfordir Cei Stagbwll, Sir Benfro
Ymwelydd rhedeg gyda Monty, y ci da, ar hyd arfordir Cei Stagbwll, Sir Benfro | © National Trust Images/Ben Selway

Os ydych yn dod â’ch ci i Stagbwll, mae’n bwysig gwybod ymlaen llaw pa bryd a ble y cewch ymweld. Croesawir cŵn sy'n ymddwyn yn dda yn Stagbwll drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi fynd am dro gyda'ch cyfaill pedair coes yn ystod eich ymweliad. Helpwch i sicrhau bod Stagbwll yn parhau i fod yn rhywle gall pawb ei fwynhau drwy gadw eich ci dan reolaeth agos, codi baw ci ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.

Ein system raddio pawen

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn ei gwneud yn haws i chi weld pa mor addas i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a'ch cyfaill pedair coes gyrraedd. Er mwyn helpu â hyn, rydym wedi creu system raddio pawen ac wedi rhoi gradd i'r holl leoedd dan ein gofal. Mae'r wybodaeth hon ar gael yn llawlyfr aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Stagbwll wedi'i graddio ag un bawen.

Mae gan y lleoedd hyn bowlenni dŵr, biniau gwastraff cŵn a llwybrau cerdded sy'n addas i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â'ch ci i rai mannau, ond nid i bobman. Os oes safle bwyd a diod, gallwch gael paned o de gyda nhw, y tu allan mae'n debyg. Darllenwch ymlaen i ddysgu ble yn union cewch fynd â'ch ci.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro
Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro | © National Trust Images/Mark Saunders

Ble mae fy nghi'n cael mynd yn Stagbwll?

Mae croeso i gŵn ledled Ystad ehangach Stagbwll, ar hyd y llwybr arfordir o Gei Stagbwll, ac ar y traeth ym Mae Barafundle, Broad Haven South a Freshwater West drwy gydol y flwyddyn.

Gellir hefyd mynd â nhw y tu mewn i dderbynfeydd ymwelwyr, yr ystafell arddangos, mannau picnic dan do ac ystafell de y Tŷ Cychod.

Mae nifer fawr o lwybrau cerdded gwych ledled ystad Stagbwll sy'n ddelfrydol i fynd ar antur gyda'ch ci drwy gydol y flwyddyn. Mae'r llwybrau hyn yn cymryd rhwng awr a thair awr i'w cerdded. Am ragor o wybodaeth, siaradwch ag aelod o'r tîm croesawu ymwelwyr.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i gŵn?

Mae powlenni dŵr ar gael y tu allan i bob bloc toiled ac mae digonedd o finiau ar gyfer gwastraff cŵn ledled yr ystad.

Beth sydd angen i mi fod yn ymwybodol ohono?

Mae llawer o anifeiliaid fferm ledled Ystad Stagbwll, gan gynnwys gwartheg, a merlod o bryd i'w gilydd. Mae'r ystad hefyd yn llawn bywyd gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, adar dŵr ac adar sy'n nythu ar y tir. Rydym yn gofyn ichi gadw eich ci dan reolaeth agos ac ar dennyn os oes angen. Cynghorir hefyd ichi beidio â gadael eich anifail anwes yn y car, gan nad yw ein meysydd parcio'n cynnig llawer o gysgod. Siaradwch ag aelod o'r tîm croesawu ymwelwyr os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi.

Monty, ci da, y Boat House, Cei Stagbwll, Sir Benfro
Monty, ci da, y Boat House, Cei Stagbwll, Sir Benfro | © National Trust Images/Chris Lacey

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Ymwelwyr yn cerdded i lawr allt at draeth yn Stagbwll

Darganfyddwch fwy yn Stagbwll

Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Ystafell de’r Tŷ Cychod yn edrych dros Gei Stagbwll, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Bwyta yn Stagbwll 

Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.

Dyfrgi â’i ben uwch yr wyneb ymysg y lilis dŵr
Erthygl
Erthygl

Gwylio bywyd gwyllt yn Stagbwll 

Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.

Dyn ar feic mynydd yn reidio drwy goetiroedd godidog gwyrdd
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau awyr agored yn Stagbwll 

Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll. Dysgwch ble y gallwch aros yn Stagbwll hefyd.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Ymwelydd ar Lwybr Arfordir Sir Benfro yn Stagbwll
Llwybr
Llwybr

Llwybr bywyd gwyllt Stagbwll 

Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 6 (km: 9.6)
Golygfa o’r Bont Wyth Bwa dros y Llyn Pysgod yn Stagbwll
Llwybr
Llwybr

Llwybr cyfrinachau Llys Stagbwll 

Dysgwch am hanes y teulu Cawdor a mwynhau golygfeydd godidog ar lwybr cyfrinachau Llys Stagbwll.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Cangen orllewinol Llyn Bosherston, Sir Benfro
Llwybr
Llwybr

Llwybr Pyllau Lili Bosherston yn Stagbwll 

Am daith gerdded sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, dilynwch lwybr Pyllau Lili Bosherston yn Stagbwll, lle gallwch hefyd grwydro twyni a phyllau dŵr Cwm Mere Pool y tu ôl i draeth Aber Llydan.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)