Skip to content

Llwybr golygfan Garn Fawr

Cymru

Yr olygfa o gopa Garn Fawr, Sir Benfro.
Yr olygfa o gopa Garn Fawr, Sir Benfro. | © National Trust Images

Dringwch y brigiad folcanig creigiog hwn am olygfeydd trawiadol o arfordir Gogledd Sir Benfro. Cewch gyfle hefyd i ymweld â chaer o Oes yr Haearn, a ddaeth yn wylfan 3,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Man cychwyn

Maes parcio Garn Fawr, cyfeirnod grid: SM8989438830

Pa Mor Heriol*

Hygyrchedd**

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
Hyd 30 munud
Addas i gŵn***
  1. *Dringfa serth fer gyda nifer o gamfeydd. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Tirwedd.

  2. **Llwybr arfordirol gyda llethrau serth, anwastad. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Mynediad.

  3. ***Mae croeso i gŵn ar dennyn. Am ragor o fanylion, darllenwch yr adran Cyfleusterau.

  • Cyfanswm y rhannau: 7

    Cyfanswm y rhannau: 7

    Man cychwyn

    Maes parcio Garn Fawr, cyfeirnod grid: SM8989438830

    Rhan 1

    Dilynwch y llwybr gwair gyferbyn â mynedfa’r maes parcio, lan y rhiw rhwng y cloddiau.

    Rhan 2

    Yn y fan lle mae’r llwybr yn gwahanu, daliwch i fynd lan y rhiw ar hyd y llwybr i’r dde. Cyn bo hir fe welwch bwynt triongli’r AO o’ch blaen.

    Rhan 3

    Ewch drwy fwlch yn y wal gerrig ar y dde a sgramblo i fyny’r creigiau at y copa am olygfeydd trawiadol.

    Rhan 4

    Ychydig islaw’r copa fe welwch wylfan o’r Rhyfel Byd Cyntaf gydag enwau wedi eu naddu yn y concrid. Ceir golygfeydd gwefreiddiol i bob cyfeiriad o’r fan hon. Mae gwartheg a merlod yn pori yn yr ardal, felly cadwch eich cŵn ar dennyn, os gwelwch yn dda.

    Rhan 5

    Ewch i lawr y stepiau o’r wylfan i ymuno eto â’r llwybr ychydig ymhellach ymlaen. O’ch cwmpas mae cloddiau ac amddiffynfeydd y gaer o Oes yr Haearn. Ewch yn eich blaen i’r dde.

    Rhan 6

    Mae’r llwybr yn cwympo’n serth tuag at hostel ieuenctid Pwll Deri. Trowch i’r chwith yn y fan lle mae’r llwybr yn rhannu, gan ddilyn y llwybr wrth iddo fynd o amgylch y bryn yn ôl tuag at y maes parcio.

    Rhan 7

    Dilynwch y llwybr dros ddwy gamfa a rhai stepiau carreg. Peidiwch â mynd dros y drydedd gamfa; arhoswch uwchben y wal. Mae’r llwybr yn dringo am ychydig y tu ôl i fwthyn bach cyn dychwelyd i’r maes parcio.

    Man gorffen

    Maes parcio Garn Fawr, cyfeirnod grid: SM8989438830

    Map llwybr

    Map o lwybr golygfan Garn Fawr
    Map o lwybr golygfan Garn Fawr | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith gylchol Pen Dinas 

Crwydrwch trwy ran syfrdanol o Lwybr Arfordir Sir Benfro, gan gael golygfeydd o Fae Ceredigion a mynd heibio safleoedd llongddrylliadau ac eglwys a chwalwyd gan storm wrth i chi ddilyn y llwybr garw.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Golygfa arfordirol o eithin melyn a chaeau gwyrdd, clogwyni ac arfordir creigiog tywyll gyda môr gwyrddlas.

Cysylltwch

Strumble Head, Pencaer to Cardigan, Pembrokeshire, SA62

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Visitors walking in the parkland at Lyme Park, Cheshire

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A couple are walking outdoors

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Two female visitors standing on the rocks at Giant's Causeway, County Antrim

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.

Darganfyddwch Ddaeareg Pen Strwmbl i Aberteifi 

Wedi’i llunio gan natur dros filiynau o flynyddoedd, mae’r dirwedd rhwng Pen Strwmbl ac Aberteifi yn greigiog ac anghysbell.

Golygfa o bentir creigiog Pen Anglas, Sir Benfro, Cymru. Mae creigiau wedi’u gorchuddio â chen yn y blaendir, tra bod y pentir yn y pellter gyda'r môr i’w weld rhyngddynt.