Beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol?
Fel gweddill ein gwlad, mae harddwch a llonyddwch Llŷn yn gorchuddio heriau i hyfywedd hirdymor yr amgylchedd naturiol - llygredd, newid yn yr hinsawdd, a dwysáu gwaith ffermio.
Un dull cyffredin a ddefnyddir i annog ffermwyr a rheolwyr tir i gynnal a chynyddu bywyd gwyllt yw trwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol a ariennir gan y llywodraeth. Mae'r cynlluniau hyn yn talu ffermwyr i gymryd camau penodol ar gyfer cynefinoedd a nodweddion hanesyddol ar eu ffermydd. Gallant fod yn eithaf argymhellol ac anhyblyg ac maent wedi cael llwyddiant cymysg.
Ar y cyfan, nid yw'r cynlluniau amaeth-amgylcheddol Cymreig wedi gwrthdroi'r dirywiad yn ein bywyd gwyllt. Y teimlad cyffredinol yn y gymuned ffermio yw nad ydyn nhw'n gallu defnyddio eu gwybodaeth am y tir yn effeithiol iawn ac nad ydyn nhw wedi'u grymuso i gymryd camau tuag at helpu natur.
Dull Gwahanol
Gwelwyd mwy o lwyddiant yn rhai o'n gwledydd cyfagos yn Ewrop sydd wedi mabwysiadu dull talu ar sail canlyniadau.
Mae cynllun o’r fath yn cynnig taliadau ar sail y canlyniadau a ddymunir ar gyfer cynefinoedd neu rywogaethau, yn hytrach na chamau gweithredu penodol, ac yn gosod y penderfyniadau yn nwylo'r ffermwr.
Rydym am roi cynnig ar y ffordd newydd hon o annog, cefnogi a grymuso ein tenantiaid i fynd ati i ffermio er lles natur. Byddwn yn cydweithio’n agos â nhw i helpu i gyfoethogi byd natur ar eu ffermydd heb ddisbyddu na niweidio adnoddau naturiol.
Cynllun prawf Talu am Ganlyniadau (TaG)
Mae prawf Talu am Ganlyniadau (TaG) yn brosiect cydweithredol a ariennir ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru fel SMS, gyda chymorth Cyngor Gwynedd. Bydd y prosiect arloesol yn gweithredu ar lefel fferm gyfan sy'n ceisio dod o hyd i ffyrdd y gall ffermio fod yn fwy cynaliadwy yn Llŷn o ran yr amgylchedd a’r economi.
Credwn fod gan fenter a arweinir gan ffermwyr werth gwirioneddol wrth ein helpu i gyflawni tirweddau iachach a mwy gwydn sy'n llawn bywyd gwyllt. Beth sy’n hollbwysig i nodi yw mai'r ffermwyr sydd yn penderfynu pa gamau y maent am gymryd, dysgu o brofiad, a chael mwy o reolaeth dros gyflwr eu tir a'r taliad o ganlyniad.
Mae ardal Llŷn, yng Ngogledd Orllewin Cymru yn un o ddau le (y llall yw Malham yn Swydd Efrog) i dreialu'r dull hwn. Trwy weithio gyda'n tenantiaid i ddatblygu model talu am ganlyniad, ein nod yw cyfrannu at bolisïau’r dyfodol o ran cefnogaeth ffermio yn llywodraeth Cymru a'r DU.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y Ffermio i'r Dyfodol ar Llŷn - Prosiect Talu am Ganlyniadau (PDF / 0.7080078125MB) download
Y ‘Canlyniad’ ar Llŷn
Byddwn yn canolbwyntio ar sut y gallwn wella'r llethrau arfordirol a chynefinoedd rhostir o fewn Ardal Gadwraeth Arbennig Llŷn. Rydym am weld y caeau cyfagos yn gyfoethocach o ran blodau ac yn fwy deniadol i bryfed ac adar gyda symudiad tuag at dir cynhyrchiol wedi'i reoli'n gynaliadwy. Mae hyn i gyd yn helpu cynnal y system ffermio.
Yng Nghwrt ger Aberdaron, mae mynwent gyfagos Eglwys Sant Hywyn yn gyfoethog o ran rhywogaethau fel arian y côr a gwellt gwyrdd. Defnyddir yr ardal hwn fel safle rhodd er mwyn datblygu'r dolwair sy'n bodoli’n barod.