Taith gerdded arfordirol Porth Meudwy
Mwynhewch daith gerdded arfordirol o Aberdaron i Borth Meudwy, cildraeth pysgota bychan wrth domen Penrhyn Llŷn a fu unwaith yn fan cychwyn i'r pererinion ar eu taith dros y dŵr i Ynys Enlli.

Dechrau:
Maes parcio Porth y Swnt, Aberdaron
1
Dechreuwch eich taith drwy ddysgu mwy am y dirwedd unigryw Penrhyn Llŷn ym Mhorth y Swnt
Porth y Swnt
Mae'r ganolfan ddehongli gyffrous yn arddangos y rhinweddau arbennig sy'n gwneud Penrhyn Llŷn mor unigryw o ran hanes, diwylliant ac amgylchedd. Darganfyddwch waith celf a grëwyd gan artistiaid lleol, dewch i weld optig goleudy Ynys Enlli a chael eich ysbrydoli gan farddoniaeth wrth i chi deithio drwy'r ganolfan unigryw hon. Find out more.

2
Os bydd y llanw yn isel yna ewch drwy'r maes parcio ac ar y traeth. Dilynwch y traeth i'w bwynt pell gorllewinol hyd nes y byddwch yn gweld grisiau yn arwain i fyny at y pentir ar y chwith.
Llanw uchel?
Os bydd y llanw yn uchel, ewch at ddiwedd y maes parcio a dilynwch lwybr i fyny i'r dde, gan ddilyn yr arwyddion i Borth Simdde. Pan fyddwch bron yn cyrraedd y lôn, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru yn arwain i lawr at y chwith. Dilynwch y llwybr hwn nes ei fod yn disgyn i'r traeth.

3
Dringwch y grisiau ar ddiwedd y traeth, i fyny'r pentir a throi i'r chwith ar Lwybr Arfordir Cymru. Cadwch eich llygaid ar agor am frain coesgoch yn hedfan mewn ac allan o'r pentir.
Y frân goesgoch
Mae'r frân goesgoch unigryw a gwelir ar arwyddlun Llŷn, yn un o'r rhesymau pam ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Penodol. Edrychwch allan am eu pig a'u coesau coch. Maent yn feistri hedfan; eu hadenydd llydan yn eu galluogi i blymio gydag ystwythder hyderus.

4
Dilynwch y llwybr nes i chi gyrraedd set arall o risiau. Ewch i lawr y grisiau i gildraeth pysgota bychan Porth Meudwy.
Porth Meudwy
Roedd y cildraeth bychan yma ym mhendraw Llŷn yn fan cychwyn i'r Pererinion groesi o'r tir mawr traws y dŵr i Ynys Enlli. Heddiw mae'n dal i wasanaethu fel pwynt ymadael am Enlli ac fel porthladd bach ar gyfer y pysgotwyr lleol sy'n ennill eu bywoliaeth drwy ddal crancod a chimwch yn y dyfroedd o amgylch Aberdaron.

5
Trowch i'r dde allan o Borth Meudwy a dilynwch y trac nes i chi gyrraedd y ffordd. Trowch i’r dde a cherdded heibio Cwrt, sylfaen ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dilynwch y ffordd am hanner milltir nes i chi gyrraedd cyffordd.
Cwrt
Roedd Cwrt fel yr ydym yn ei alw erbyn hyn yn flaenorol yn cael ei ddefnyddio fel llys Abadau. Roedd hyn oherwydd bod mynachlog Enlli a'i holl eiddo ar y tir mawr yn cael eu rheoli oddi yma. Fel y mae'r enw'n awgrymu, dyma le y bu dedfrydau a chosbau am droseddau yn cael eu penderfynu. Mae Cwrt bellach yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen ein ceidwaid.

6
Trowch i'r dde wrth y gyffordd a pharhewch ar hyd y ffordd. Pan gyrhaeddwch y groesffordd, trowch i'r dde eto. Dilynwch y ffordd am hanner milltir yn ôl i Aberdaron.
Diwedd:
Maes parcio Porth y Swnt, Aberdaron