
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Dathlwch dymor yr ŵyl yng Nghastell a Gardd Powis gydag amrywiaeth gyfoethog o ddigwyddiadau hudolus ar gyfer pob oedran. Mwynhewch ysbryd y Nadolig gydag ymddangosiadau arbennig gan Siôn Corn, yn barod i ddod â llawenydd i blant a theuluoedd. Gyda goleuadau disglair, addurniadau Nadoligaidd, a gweithgareddau tymhorol drwy’r lle, mae Castell Powis yn addo profiad Nadolig cofiadwy i bawb.
29 Tachwedd - 4 Ionawr (ar gau 25 & 26 Rhagfyr), 11:00 – 15:30 (mynediad olaf am 3pm)
Y tymor Nadolig hwn, mae llawr cyntaf y castell wedi’i drawsnewid i wlad hudolus aeafol wedi’i hysbrydoli gan Narnia. Cewch deimlo gafael rhewllyd yr ysblander disglair wrth i’r ystafelloedd swyddogol drawsnewid i fyd arall, gan eich arwain ar hyd y chwedl aeafol hon. Cadwch lygad am lygod bach dymunol, wedi’u gwisgo ar gyfer eu hantur rewllyd.
Goleuadau Nadolig yr Iard
12 - 22 Rhagfyr, 4.30pm - 7pm
Camwch i mewn i'r iard hanesyddol a mwynhau goleuadau disglair ar furiau'r castell canoloesol. Yfwch siocled poeth i’ch cynhesu, neu wydriad o win cynnes, cyn mentro i mewn, wrth i’r castell oleuo nosweithiau tywyll y gaeaf.
Grisiau serth
Mae ein llwybr Nadolig yn cynnwys cyfanswm o 111 o risiau:
Siaradwch ag aelod o staff os oes angen cymorth arnoch.

Bydd Brecwast gyda Siôn Corn yn dychwelyd bob penwythnos o 29 Tachwedd i 14 Rhagfyr. Byddwn yn ymgynnull yn siop lyfrau Stablau Bodley am frecwast bwffe, ac yn gwylio wynebau bach hapus wrth i Siôn Corn wneud ei ymddangosiad hudolus. Yna byddwn yn ymgynnull yn y siop lyfrau ail law, am stori wrth ymyl y goeden Nadolig.
Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen digwyddiadau yma.
Oriau agor:
Nadolig Hudolus:, 29 Tachwedd i 4 Ionawr, 11am i 3.30pm.
Brecwast gyda Siôn Corn: Pob penwythnos 29 Tachwedd - 14 Rhagfyr, 8.45am i 10.15am.
Goleuo Nadolig y Cwrt ac Agoriad Hwyr y Nos: 12 i 22 Rhagfyr, 4.30pm i 7pm.

Gwisgwch eich dillad gaeaf a dewch i gael awyr iach gyda thro hamddenol o amgylch yr Ardd Faróc fyd-enwog. Y gaeaf yw’r amser gorau i werthfawrogi prydferthwch pensaernïol yr ardd. Dewch i weld cerfluniau’n disgleirio yn y barrug ar hyd y Terasau Eidalaidd, edmygu gwrychoedd yw bytholwyrdd hynafol yn sefyll yn falch yn haul y gaeaf a cherdded drwy Y Gwyllt lle mae canghennau moel yn datgelu golygfeydd godidog y castell o’r 13eg ganrif.

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Os ydych yn ymweld gyda’ch plant neu wyrion, fe gewch chi ddigon i ddifyrru’r teulu cyfan yng Nghastell Powis a’r Ardd.

Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.

Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.

Mae pob modfedd o Gastell Powis wedi'u haddurno â manylion cywrain, hardd. Wrth i chi grwydro drwy ystafelloedd swyddogol y castell, cewch eich tywys ar daith o’r gorffennol. O Oes Elisabeth drwodd i Oes Edward, gwnewch yn siwr eich bod yn oedi am funud ym mhob ystafell i gymryd y cyfan i mewn.

Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
