Adar sydd i’w gweld ar Benmaen Dewi
Cigfran
Mae cigfrain yn enfawr, gyda chynffonnau siâp deiamwnt, ac yn nythwyr cynnar. Clywch eu crawciau dwfn yn ystod eich ymweliad.
Brân Goesgoch
Brân arall, ond gyda thraed a phig coch. Mae tua 60 pâr yn nythu ar hyd arfordir Sir Benfro.
Hebog tramor
Yn fawr eu cweryl gyda’r cigfrain, yr hebogiaid tramor yw brenhinoedd eraill clogwyni Sir Benfro,
Cudyll coch
Mae’r hebog tramor yn hela prae ar yr adain, ond mae’r cudyll yn hofran, gan hela chwilod a llygod pengrwn islaw.
Hugan
Mae tua 39,000 pâr o huganod yn nythu ar Ynys Gwales. Gwyliwch nhw’n plymio am fecryll heb fod ymhell o’r lan.
Adar cân arfordir Sir Benfro
Tinwen y garn
Hawdd gweld tinwennod y garn, un o ymwelwyr cyntaf y gwanwyn, wrth iddyn nhw fflachio’u cynffonau gwynion.
Clochdar y cerrig
Fe glywch glochdariaid y cerrig ar lwyni eithin yn galw ‘sgwîc chac chac’. Maen nhw’n magu hyd at dri theulu swnllyd y flwyddyn.
Telor Dartford
Aderyn prin, ond un sy’n nythu’n fwy rheolaidd bellach ar weundiroedd arfordirol – fe welwch nhw yn yr man â’r clochdariaid.
Llinos
Sŵn haid o linosiaid yn trydar yw un o seiniau’r haf ar yr arfordir. Maen nhw’n nythu mewn llwyni eithin.
Llwydfron
Gwrandewch am eu cân grafog o’r llechweddau prysgwydd trwchus islaw Carn Llidi.