Gwreiddiau Celtaidd
Mae pobl wedi byw yn Nhyddewi a’r ardal o gwmpas ers o leiaf 6,000 o flynyddoedd, ac mae olion hynafiaid ein cynhanes ar wasgar dros y tir. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch olion bryngaerau yr Oes Haearn, patrymau caeau hynafol, clostiroedd ac argloddiau amddiffynnol.
Nawddsant Cymru a chyrchfan pererinion
Credir i Dewi Sant gael ei eni i Santes Non yn AD 500 mewn ardal i’r de o’r ddinas, ac iddo gael ei fedyddio’n hwyrach ym Mhorth Clais. Cafodd Dewi fagwraeth grefyddol ac, wedi tyfu’n ddyn, ordeiniwyd e’n offeiriad, a dechreuodd ei waith yng Nghymru cyn teithio i Loegr, Llydaw a hyd yn oed Jerwsalem.
Sefydlodd fynachlog, ar safle Cadeirlan Tyddewi heddiw, yn AD 550 – er bod agosatrwydd yr adeilad at y môr yn tueddu i ddenu ymosodiadau gan y Llychlynwyr. Mae’r gadeirlan urddasol bresennol yn dyddio nôl i’r 12ed ganrif, a dyma fan gorffwys olaf Dewi ei hun. Fe wnaed Dewi yn nawddsant Cymru yn y 12ed ganrif.
Datganodd y Pab Calixtus II fod beddrod Dewi mor bwysig fel bod dwy bererindod i Dyddewi gyfwerth ag un i Rufain, a bod tair pererindod gyfwerth ag un i Jerwsalem. Am hyn, daeth ei feddrod yn gyrchfan o bwys i bererinion o bell ac agos.