Harbwr Porth Clais

Harbwr bach pert ar bwynt de-orllewinol Penrhyn Dewi yw Porth Clais. ‘Slawer dydd fe fu’n borthladd masnachu, yn ferw o ddiwydiant; nawr mae’n fan poblogaidd i gaiacio a hwylio llongau bach, ac am ei lwybrau arfordirol gogoneddus.
Adeiladwyd yr harbwr ei hun yn y 12ed ganrif i wasanaethu dinas Tyddewi, a daeth yn borthladd prysur, gyda llongau yn mewnforio ac allforio nwyddau i gymunedau’r arfordir. Roedd pren, grawn, calchfaen a glo ymhlith y nwyddau a fasnachwyd, y ddau olaf ar gyfer yr odynnau a’r gweithfeydd nwy gerllaw.
Gallwch weld yr odynnau calch o bobtu’r harbwr o hyd, ond unig ôl y gweithfeydd nwy nawr yw’r hen stafell bwmpio sy’n gartref i’n ciosg lluniaeth.
Llwybrau’r arfordir, dringo, dala crancod a caiacio
Ar ôl darganfod hanes diwydiannol Porth Clais, gwnewch y mwyaf o’i leoliad ar lan y môr. Gwisgwch eich ʼsgidie cerdded a mwynhewch ein llwybr cylch o gwmpas Penrhyn Treginnis, neu ymlwybrwch yn braf ar hyd glan y don.
Bydd y plantos wrth eu bodd yn ymuno yn ein sesiynau dala crancod ar wal yr harbwr – mae rhain yn digwydd drwy gydol gwyliau’r haf. Neu, anelwch am y môr ac ewch i gaiacio gyda un o’r trefnwyr gweithgareddau lleol.
Mae’r slabiau creigiog i’r dwyrain o geg yr harbwr yn wych hefyd ar gyfer grwpiau dringo a menter awyr agored.
Pethau na wyddech chi efallai am Borth Clais
- Daeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchnogion ar yr harbwr a’r tir yn 1940.
- Mae maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar safle’r gweithfeydd nwy gynt, a ddymchwelwyd yn niwedd y 1960’au.
- Mae cofnod cyntaf o fasnachu o Borth Clais i’w weld mewn cyfrif o waith adeiladu yn 1385 yng Nghadeirlan Tyddewi.
- Credir i hen wal yr harbwr gael ei chodi gan y Rhufeiniaid.
- Mae’n debyg i galch o Borth Clais gael ei ddefnyddio wrth amaethu, er mwyn niwtraleiddio pridd asidig a chynyddu twf cnydau.