Meini hirion a bryngaerau yn Nhyddewi

Carn Llidi ar Benmaen Dewi

Efallai mai Tyddewi yw dinas leiaf Prydain, ond mae’r ardal yn llawn hanes a diwylliant gyda beddau Neolithig, bryngaerau o’r Oes Haearn a chreigiau hynafol yn rhan o’r tirlun. Pam oedi mwy?…mae’n amser darganfod.

Creigiau hynaf Cymru

Mae’r penrhyn dan gysgod rhai o greigiau mwyaf hynafol y wlad, sy’n dyddio nôl i’r cyfnod Cyn-Cambrian, y cynharaf o’r oesoedd daearegol.

Craig folcanig yn wreiddiol oedd yr haenau o graig gwaddod, a ffurfiwyd tua 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’r gwaddodion hynafol hyn wedi eu gorchuddio mewn mannau gyda haenau o graig Cambrian ddiweddarach, sydd eu hunain dros 400 miliwn o flynyddoedd oed.

Mae daeareg yr ardal yn gofnod parhaol o’i gorffennol, a Tyddewi yn lleoliad sawl darganfyddiad pwysig o ffosiliau o rai o ffurfiau bywyd cynharaf ein daear.

Ewch am dro hyd yr arfordir ac fe welwch harddwch garw y penrhyn â’ch llygaid eich hun -fe’i ffurfiwyd gan hen wrthdrawiadau cyfandirol, a rhew a môr yn graddol erydu’r gwaddodion diweddaraf.

Dringwch i gopa Carn Llidi, brigiad uchel a dramatig, ac edmygwch amlinelliad creigiog Ynys Dewi, ac ynysigau’r Bishops and Clerks, rai milltiroedd o’r tir mawr.

Meini hirion a beddau 

Mae pobl wedi byw yma ers o leiaf 6,000 o flynyddoedd ac fe welwch olion eu byw a’u bod cynoesol ar draws y tirlun, o batrymau caeau hynafol i glostiroedd ac argloddiau amddiffynnol.

Siambr gladdu Neolithig ar Benmaen Dewi yw Coetan Arthur, sy’n dyddio nôl i tua 4000CC. Mae ei faen capan enfawr bron, sydd yn 20tr o led, yn cael ei gynnal gan garreg ochr dros 3tr o uchder, ac mae’n debyg iawn iddo gael ei godi fel hyn, yn fegalith priddglwm.

Mae’n adleisio siâp Carn Llidi, y copa tu ôl iddo, a gallwch weld ei amlinelliad ar y gorwel o faes parcio Traeth Mawr. Dilynwch lwybr arfordir Penmaen Dewi i’w weld yn well.

Bryngaerau yr Oes Haearn

Edrychwch am safle’r bryngaer arfordirol ar gopa Penmaen Dewi – 2-3,000 o flynyddoedd yn ôl, dewisodd ein hynafiaid o’r Oes Haearn leoliad amddiffynnol ar glogwyni’r pentir gan adeiladu rhagfuriau mawr i warchod eu cartrefi rhag ymosodiad o gyfeiriad y tir.

Roedd Sir Benfro yn fan go boblogaidd i godi bryngaerau yn yr Oes Haearn; mae tua 50 ar wasgar ar hyd yr arfordir. Ry’n ni’n gwarchod eu hanner nhw, yn cynnwys Caer Aber Pwll ar Fferm Pwll Caerog gerllaw (tro bychan o’r Shinc, Abereiddi) a Porth y Rhaw, i’r gorllewin o Solfach.