Tir comin Tyddewi

Gwartheg Duon Cymreig yn pori gweundir Sir Benfro

Mae pobl wedi defnyddio’r clytwaith o laswelltir garw a gweundiroedd ar draws Gogledd Sir Benfro ers cenedlaethau.

Defnyddiwyd y tir garw ‘ar y cyd’, er bod y rhan fwyaf yn eiddo i berchennog. Ymhen amser, fe gyfreithlonwyd y trefniant traddodiadol o rannu cynnyrch y ‘cytir’ neu’r tir comin hwn.
 
Fe chwaraeodd y lleoedd hyn ran ganolog yn y drefn amaethyddol o’r Canol Oesoedd i hanner cyntaf yr 20ed ganrif. I’r bobol leol, hwn oedd y tir lle fydden nhw’n pori gwartheg ac yn casglu eithin ar gyfer tân y gegin. Dyma hefyd ble fydden nhw’n cael clai ar gyfer adeiladu a hefyd yn ei gymysgu gyda llwch glo i wneud peli ‘clwm’ i’w llosgi ar y tân.
 

Gweundiroedd gwlyb Sir Benfro

Mae’r tiroedd comin hyn yn cynnal dros hanner yr holl arwynebedd o weundir yn Sir Benfro. Ond, ar yr olwg gynta’, nid yw gweundiroedd gwlyb Sir Benfro a gorllewin Cymru yn edrych fel gweundiroedd o gwbl. Mae’r llwyni grug - sef grug y mêl a’r grug deilgroes fel arfer - yn wasgaredig ac yn anodd i’w canfod weithiau. Tipyn yn wahanol i rostiroedd porffor ucheldir Prydain.
 
Profiad yr ennyd yw harddwch ein gweundiroedd gwlyb ni. Efallai mai disgleirdeb dail gwyw glaswellt y gweunydd yn haul y gaeaf fydd yn dal eich llygad. Neu wlith y bore bach ar we pry cop yn hongian o frwynen i frwynen. Neu bigau oren tanbaid llafn y bladur yn niwedd yr haf.
 
Mae’r ardal orau o weundir tir isel yng Ngogledd Sir Benfro ar y basnau clai bas sy’n gorwedd i’r dwyrain o Dyddewi. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gwarchod ac yn berchen ar y rhan fwyaf o’r ardaloedd hyn. Maen nhw wedi eu lleoli mewn gwead o dir corsiog, dolydd gwlyb a chynefinoedd gweundirol o gwmpas Penrhyn Dewi, sy’n rhyfeddol o gyfoethog mewn planhigion blodeuol.
 

Planhigion gweundirol

Mae mwy na 300 rhywogaeth o blanhigion gweundirol wedi eu cofnodi. O lafn y bladur i’r grug a’r eithinen fân, dyma’r planhigion sy’n dod â bywyd i’r tir comin am rai misoedd o’r flwyddyn. Mae rhai ohonyn nhw yn brin, fel y tegeirian llydanwyrdd bach, yr eurinllys tonnog a’r pelenllys gronynnog, sef rhedynen ddŵr fach tebyg i borfa.