Taith Treginnis
Mae’r llwybr hwn yn mynd â chi dros greigiau hynaf Cymru a grëwyd tua 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod cyn-Gambriaidd. Creigiau folcanig yw’r rhain, ond mae haenau o greigiau gwaddodol Cambriaidd mwy ifanc yn eu gorchuddio mewn mannau.