Darganfyddwch lwybr y Cymin
Crwydrwch yn ôl troed yr Arglwydd Nelson a’r Fonesig Hamilton, a ddaeth yma dros 200 mlynedd nôl, i fwynhau’r golygfeydd gwych o Gymru a Lloegr, ac i ymweld â dau adeilad Sioraidd diddorol.
Edmygwch y tŷ gwledda yn y Cymin
Mae’r llwybr yn cwmpasu dau adeilad Sioraidd diddorol – Teml y Llynges, cofadail i’r Arglwydd Nelson, a’r Tŷ Crwn, sef tŷ gwledda crwn, castellog.

Dechrau:
Maes parcio’r Cymin, cyfeirnod grid: S0528125
1
O’r maes parcio, anelwch am yr adeilad gwyn sydd i’w weld i’r gogledd. Dyma Deml y Llynges.
Teml y Llynges
Mynnwch olwg o gwmpas y cofadail cyntaf hwn i’r Llyngesydd Arglwydd Nelson a Llyngesyddion eraill. Codwyd e yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Mae Teml y Llynges, sy’n sefyll o fewn mur isel a gatiau haearn addurnedig, yn adeilad anarferol, unigryw a phwysig (er yn fach). Talwyd amdano gan danysgrifiad cyhoeddus, a gorffennwyd e yn 1801 – cofadail hynaf Prydain i’r Llynges Frenhinol.
2
Cerddwch i’r Tŷ Crwn, 33 llath (30m) i ffwrdd. Adeiladwyd yr adeilad anarferol Sioraidd hwn gan grŵp o fonheddwyr lleol fyddai’n cyfarfod yno i giniawa. Ar y chwith i chi daw golygfa odidog dros Drefynwy a thu hwnt i’r golwg. Efallai y gwelwch chi fwncathod yn esgyn a hedfan yn araf ar awelon. Mae’n siŵr y gwelwch chi fynydd Pen-y-Fâl, sy’n edrych fel llosgfynydd pwyntiog o’r cyfeiriad hwn. Ar ddiwrnod clir fe welwch Ben-y-Fan yn y pellter, copa uchaf Bannau Brycheiniog.
Y Tŷ Crwn
Yr arfer o gynnal picnic oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer creu Y Cymin dros 200 mlynedd yn ôl, a hwn hefyd oedd y prif reswm dros ei adeiladu. Ffurfiodd grŵp o fonheddwyr lleol glwb picnic, gan ymweld â’r Cymin bob dydd Mawrth. 'Doedd arnyn nhw ddim awydd dod â’r picnics i ben pan fyddai’r tywydd yn troi’n oer – felly dyma roi cyfraniad ariannol yr un ac adeiladu tŷ picnica bychan. Arweiniodd hyn at godi’r Tŷ Crwn a gwblhawyd yn 1796.
3
O’r Tŷ Crwn, daliwch i fynd ar hyd y rhodfa. O’ch blaen mae Coedlan Beaulieu, darn o dir coediog hynafol a ddefnyddiwyd yn arbennig ar gyfer llosgi golosg neu siarcol ar un adeg. Yn union cyn cyrraedd y coed, trowch i’r dde a dilyn y rhodfa lawr tuag at fwthyn carreg. Dyma’r Hen Stabl, a godwyd yr un pryd â’r Tŷ Crwn i stablu ceffylau’r ciniawyr. Gwarchodwyr y Cymin sy’n byw yno bellach.
4
Cyn y gatiau i’r Hen Stabl, trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr am rai llathenni at y giât mochyn. Ewch drwy’r giât a chymryd y llwybr llai tua’r chwith, at y ffens rhwng y cae a Choedlan Beaulieu. Dilynwch linell y ffens – a cadwch lygad ar agor am nythod morgrug go fawr. Dyma gartref Formica rufa, morgrugyn coch y coed. Os yw’n ddiwrnod clir, fe welwch hefyd Fryniau Malvern trwy fwlch yn y coed o’ch blaen.
Morgrug y coed
‘Dyw rhai ohonon ni ddim yn sylwi pan fydd morgrugyn bach cyffredin yn baglu dros ein sgidie ar ras wyllt i ffeindio ei ffordd adre. Yma yn y Cymin ry’n ni’n lwcus i gael nythaid o forgrug y coed – y morgrug mwyaf ym Mhrydain. Gall y Frenhines Forgrugyn fyw hyd at 15 mlynedd, ac mae’n mesur rhyw 12mm o hyd. Mae’r ddwy garfan arall o fewn nythaid o forgrug y coed – y gweithwyr a’r gwrywod – ychydig yn llai.
5
Unwaith i chi gyrraedd cornel chwith bellaf y cae, trowch i’r dde a dilyn y llwybr bach nes cyrraedd y gornel gyferbyn. Yma, trowch i’r dde, a dilyn y llwybr amlwg, lletach sy’n mynd ar letraws nôl dros y cae at y giât mochyn lle daethoch chi mewn i’r cae. Yn union cyn i chi gyrraedd y giât mochyn, os edrychwch yn fras i gyfeiriad y chwith tuag at Ddyffryn Gwy, fe welwch chi Eglwys Newland, neu Gadeirlan y Goedwig, sef yr enw arall arni.
6
Ewch nôl drwy’r giât mochyn, gan gadw’r Hen Stabl ar y chwith i chi, a cherddwch yn syth yn eich blaen nes dod at y Maes Bowlio. Tirluniwyd hwn gan yr un bobl a adeiladodd y Tŷ Crwn, ac mae’n fan bach hyfryd i gael picnic neu gêm o croquet. Os nad y’ch chi am oedi, yna ‘dyw hi ddim yn bell i gerdded nôl i’r maes parcio ar hyd y rhodfa.
Diwedd:
Maes parcio’r Cymin, cyfeirnod grid: S0528125