Blwyddyn newydd, her newydd? Dechreuwch symud y mis Ionawr hwn gyda her rhedeg llwybr newydd Aberdaron wrth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lansio Taclo10 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd:
- 09 Ionawr 2026

Rydyn ni i gyd wedi bod yno - dechrau 2026 gyda’r bwriadau da o ddod yn fwy heini, mwynhau rhywfaint o awyr iach a mynd allan yn amlach. Wel, beth pe bai ffordd i chi gyfuno hynny i gyd eleni gyda’r Ras Lwybr Taclo10 gyntaf? Bydd y cyntaf yn digwydd ar 25 Ionawr 2026 yn Aberdaron, gyda digwyddiadau misol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn - ac eithrio mis Mai, Gorffennaf ac Awst. Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw - ac mae am ddim!
Gan ddechrau am 9am o faes Parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorth y Swnt, mae’r llwybr yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru i gildraeth diarffordd Porth Meudwy, gan fwynhau golygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion cyn dychwelyd ar hyd y ffordd i Aberdaron.
Roedd cildraeth bychan Porth Meudwy ar ben eithaf Penrhyn Llŷn unwaith yn fan byrddio i bererinion oedd yn teithio i Ynys Enlli. Heddiw, dyma’r man lle gallwch groesi drosodd i Ynys Enlli ac mae’n borthladd bychan ar gyfer y llond dwrn o bysgotwyr sy’n ennill bywoliaeth yn dal crancod a chimychiaid yn y dyfroedd o amgylch Aberdaron.
Mae’r llwybr ei hun wedi’i raddoli’n las ar y canllaw rhedeg llwybrau oherwydd y tir anwastad a’i bellter o’r llinell gychwyn. Gall unrhyw un sydd eisiau rhoi cynnig ar yr her ddisgwyl rhai llwybrau arfordirol cul gyda grisiau serth achlysurol ar hyd y ffordd, felly mae esgidiau da a digon o ofal yn hanfodol cyn ymgymryd â’r ras.
Mae Mali Jones, Swyddog Profiad Ymwelwyr ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, hefyd yn ymwybodol y gallai pobl deimlo’n ofnus ar y dechrau gyda 10K llawn, ond nid oes angen gwneud y llwybr cyfan. Dywedodd Mali, ‘Gallwch ddewis pa mor bell rydych chi’n mynd, nid yw’n orfodol gorffen y 10K llawn o gwbl. Cwblhewch y cylch ddwywaith ar gyfer yr her 10K llawn neu rhedwch y 5K cyntaf a rhoi’r gorau iddi - mae hi i fyny i chi’n llwyr.’
‘Nid oes unrhyw bwysau o gwbl i orffen y llwybr llawn, felly pam na ddewch chi draw a gwneud yr hyn y gallwch chi. Anadlwch holl awyr iach y môr a mwynhau’r golygfeydd wrth i chi redeg. Y prif beth yw dechrau arni, ac wrth gwrs mae’r golygfeydd ar hyd Penrhyn Llŷn yn wobr wych ynddo’i hun!’
Ydych chi’n barod am yr her? Beth am osod nod newydd i chi’ch hun a mwynhau golygfeydd ysblennydd ar hyd y ffordd?
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar bedwerydd Sul bob mis, ac eithrio mis Mai, Gorffennaf ac Awst. Cewch fanylion llawn, map o’r llwybr a rhestr lawn o ddyddiadau yma.
Pethau eraill o ddiddordeb
Llwybr rhedeg Taclo10 yn Aberdaron
Ymunwch â ni ar y pedwerydd Sul bob mis (ac eithrio mis Mai, Gorffennaf ac Awst) i redeg 10k o Aberdaron i Borth Meudwy.

Porth y Swnt
Dewch i archwilio, dysgu, myfyrio a mwynhau'r amgylchedd naturiol.

Trust10 trail runs
Fancy soaking up the atmosphere of the beautiful places in our care while getting some exercise? Find out more about our free monthly 10k Trust10 trail runs.
