Skip to content
Prosiect

Apêl Ffownten Gardd Bodnant

Y ffownten ar y Teras Croce hefo'r model o be oedd y ffownten yn debyg iddi gynt.
Y ffownten a'r model yng Ngardd Bodnant, Conwy | © National Trust/Clare Williams

Mae’r ffownten wedi’i lleoli ar y Teras Croce yng Ngardd Bodnant, a chredir iddi gael ei chreu gan y cerflunydd o Ffrainc, Edmé Bouchardon, tua 1700. Heddiw, mae dyluniadau calchfaen öolitig cymhleth y ffownten wedi treulio oherwydd degawdau o ddŵr rhedegog. Gallwch ein helpu i godi arian i greu ffownten newydd, gan ddod â’r ardal yma o’r pum teras Eidalaidd yn ôl yn fyw.

Pam fod y ffownten yn bwysig?

Daethpwyd â’r ffownten wreiddiol i Ardd Bodnant ym 1940 gan Henry McLaren, 2il Arglwydd Aberconwy. Erstalwm roedd y dyluniad cymhleth yn cynnwys dolffiniaid, pysgod a nymffau ar gragen fylchog ag ymylon sgolpiog, wedi’u hamgylchynu gan donnau. Dros amser, mae’r dŵr rhedegog wedi treulio’r cerfiadau calchfaen öolitig. Mae’r model a welir gerllaw’r ffownten wreiddiol ar y terasau heddiw wedi ei chreu gan yr artist lleol Peter Barnes, gan roi cipolwg i ni ar sut y gallai’r ffownten fod wedi edrych yn wreiddiol.

Dyluniwyd y terasau ar droad y 1900au gan Laura McLaren a’i mab Henry (a roddodd yr ardd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1949.) Cerfiwyd pum lefel allan o lethrau’r bryn oedd yn goleddfu tua'r gorllewin i lawr o Neuadd Bodnant i'r dyffryn a’r Afon Hiraethlyn islaw. Roedd hwn yn brosiect enfawr a gwblhawyd gan ddynion heb beiriannau modern, a gychwynnwyd ym 1905 a’i gwblhau yn y diwedd ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ychwanegwyd y ffownten at y terasau ym 1940, gan gwblhau’r esthetig a’r dyluniad cyffredinol gan gadw at y dyluniad Eidalaidd ffurfiol.

Faint fydd y gost?

Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect yn costio oddeutu £200,000 i gyd. Rydym yn ffodus o fod eisoes wedi derbyn cyllid o £35,000 a godwyd cyn y pandemig, a’r gobaith yw y gallwn godi’r gweddill mewn pryd i ddechrau’r cam dylunio dros y 12 mis nesaf.

Llunia newydd a hen o'r ffownten ar y Teras Croce yng Ngardd Bodnant, Conwy
Llunia newydd a hen o'r ffownten ar y Teras Croce yng Ngardd Bodnant, Conwy | © Bodnant Garden National Trust/McLaren Archive

Sut fydd eich rhodd yn helpu

  • Yn croesawu dros 280,000 o ymwelwyr i’r ardd yn flynyddol, mae’r Terasau Eidalaidd yn uchafbwynt unrhyw ymweliad â’r ardd restredig Gradd I. Bydd canolbwynt newydd o ffownten ar y lawnt Croce yn dod â diddordeb i’r ardal unwaith eto, fel y bwriadwyd yn wreiddiol er mwyn i bob ymwelydd fwynhau drwy gydol y tymhorau.
  • Ychwanegir diddordeb i’r lefel hon o’r Terasau Eidalaidd, gan gadw at yr harddwch a’r cynllun plannu ynghyd â llawer o blanhigion hŷn a sefydledig, gan gynnwys y wisteria sy’n rhaeadru o boptu’r ffownten, lawr y grisiau ar y naill ochr a’r llall ar ddiwedd y gwanwyn, ddechrau’r haf.
  •  Diogelir dyluniad cyffredinol gwreiddiol y terasau a gwaddol y teulu McLaren drwy gadw gwaith y dynion a gerfiodd y lefelau hyn ar lethrau’r bryn i gael golygfeydd drosodd i fynyddoedd Eryri.

Pryd fydd y gwaith yn cychwyn ar y cerflun newydd?

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn cynnal ymchwil yn Archif Ystâd Bodnant, gan edrych ar lythyrau, erthyglau a lluniau i benderfynu ar darddiad y ffownten, yr hyn oedd yn ei bortreadu a pham fod Henry McLaren wedi dod â hi drosodd o Ffrainc. Rydym wedi ymgynghori â swyddogion cadwraeth i adolygu’r difrod a’r ffordd orau o warchod yr hyn sydd ar ôl o’r gwreiddiol, ond maent wedi barnu na ellir ei hatgyweirio.

Yn fuan byddwn yn ymgynghori â churaduron, swyddogion cadwraeth a’r teulu McLaren i benderfynu beth yw’r cam nesaf.

Rydym yn gobeithio gwneud penderfyniadau terfynol ar y cam dylunio yn 2026, gyda gwaith yn dechrau ar y terasau’r flwyddyn ganlynol yn 2027.

Teras Croce a'r ffownten yng Ngardd Bodnant, Conwy
Teras Croce a'r ffownten yng Ngardd Bodnant, Conwy | © Bodnant Garden

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Hanes Gardd Bodnant 

Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.

Tŷ gyda choed hydrefol o’i gwmpas yn cael ei adlewyrchu mewn pwll lilis yn y blaendir.

Pobl Gardd Bodnant 

Gwaith cenedlaethau yw’r ardd ym Modnant, gan ddechrau gyda’r teulu Pochin ar ôl iddyn nhw symud o Fanceinion. Dysgwch am y bobl a wnaeth wneud Bodnant yr hyn welwn ni heddiw.

Llun du a gwyn yn dangos Henry Pochin wedi ei amgylchynu â phobl yn cynnwys ei Brif Arddwr, yn plannu coed yn yr ardd ym Modnant oddeutu 1885.

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant. Mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau planhigion o bob rhan o’r byd.

Dail hydrefol yr acers (coed clwt) yng Ngardd Bodnant