Skip to content

Gwirfoddoli yng Ngardd Bodnant

Gwirfoddolwyr yng Ngardd Bodnant, yn ystod y gwanwyn gyda'r ardd tu ôl
Chwilio am eich antur nesaf? | © National Trust Images/Adam Collins

Ydych chi'n chwilio am eich antur nesaf? Mae ein gwirfoddolwyr yng Ngardd Bodnant yn gwneud cyfraniad enfawr at y gwaith hanfodol yr ydym yn ei wneud yma, gan groesawu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o’r byd yn flynyddol.

Cyfleoedd cyfredol

Mae’r wybodaeth a’r gefnogaeth ddyddiol gan ein gwirfoddolwyr yn hanfodol ar gyfer ein gwaith. Mae amrywiol gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, felly p’un a oes gennych chi werth blynyddoedd o sgiliau a gwybodaeth, neu’ch bod yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi.

Mae yna sawl ffordd y gallwch ymuno â’r tîm yma yng Ngardd Bodnant. P’un a fyddech yn estyn croeso cynnes i’n holl ymwelwyr, neu’n helpu i ofalu am yr ardd hanesyddol, mae rhywbeth at ddant pawb.

Gwirfoddolwyr yn clirio dail a gweddillion ar ôl Storm Arwen yng Ngardd Bodnant
Gwirfoddolwyr yn clirio dail a gweddillion ar ôl Storm Arwen yng Ngardd Bodnant | © National Trust Images/Paul Harris

Pam ymuno â ni?

Mae llawer o resymau dros ymuno â ni; gallai gwirfoddoli fod y penderfyniad gorau a wnaethoch erioed.   

  • Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
  • Cwrdd â phobl o bob cefndir a gwneud ffrindiau newydd  
  • Defnyddio eich sgiliau presennol a dysgu rhai newydd   
  • Gwella eich CV a datblygu eich gyrfa 
  • Mwynhau’r awyr iach
  • Dysgu am hanes y lle arbennig hwn

Yr hyn a ofynnwn gennych

Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig croeso cynnes, gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad anhygoel. Maent yn gwneud i’n hymwelwyr deimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u hysbrydoli, fel eu bod yn gadael yr ardd yn teimlo’n wych ac yn awyddus i ddychwelyd yn fuan.

Mae ein gwirfoddolwyr yn sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad anhygoel yn yr ardd ym Modnant – p’un a yw hynny drwy gynnig croeso cynnes, rhoi taith dywys, trefnu ac ail-stocio llyfrau i’r siop lyfrau ail-law neu weithio y tu ôl i’r llenni i drwsio meinciau a helpu yn yr ardd.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych wybodaeth arbenigol ynghylch garddio, mae rhywbeth at ddant pawb. Os ydych yn gyfeillgar, yn mwynhau cynnig croeso cynnes, yn ymddiddori ym myd natur ac yn caru Gardd Bodnant gymaint â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Gallwch ein helpu i rannu’r strain a bod yn rhan o’r tîm, fel y gall pawb fwynhau byd natur, harddwch a hanes, am byth.

Second-hand bookshop at Stowe, Buckinghamshire
Cewch wirfoddoli yn Siop lyfrau ail-law | © National Trust Images/Emily Roe

Cysylltwch am ragor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwirfoddoli yng Ngardd Bodnant a gwneud cais ar-lein yma neu anfonwch neges e-bost yn uniongyrchol atom i bodnantgarden@nationaltrust.org.uk. Edrychwn ymlaen at glywed gennych yn fuan.

You might also be interested in

Hanes Gardd Bodnant 

Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.

Tŷ gyda choed hydrefol o’i gwmpas yn cael ei adlewyrchu mewn pwll lilis yn y blaendir.

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant. Mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau planhigion o bob rhan o’r byd.

Dail hydrefol yr acers (coed clwt) yng Ngardd Bodnant

Casgliadau botanegol Gardd Bodnant 

Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.

Rhododendrons pinc yn eu blodau yn y gwanwyn yng Ngardd Bodnant, Conwy